Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

YSBYTY YSTWYTH A PONT-RHYD-Y-GROES

YSBYTY YSTWYTH A PHONT-RHYD-Y-GROES

CYFEIRNOD GRID: SN 741717
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 237.8

Cefndir Hanesyddol

Mae hanes yr ardal hon yn y Cyfnod Canoloesol yn ansicr. Am fod yr eglwys wedi’i chysegru i Sant Ioan Fedyddiwr ystyriwyd ei bod ym meddiant Marchogion yr Ysbyty, ond mae’n fwy tebygol efallai mai ysbyty ydoedd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur, efallai mewn un o faenorau’r abaty (Ludlow 1998). Am fod yr ardal hon wedi’i lleoli ar lwybr pwysig o’r gogledd i’r de – o Fachynlleth i Dregaron a’r tu hwnt – nid yw’r awgrym bod ysbyty wedi’i leoli yma i ofalu am gleifion a darparu ar gyfer teithwyr a phererinion yn afresymol. Mae’r eglwys bresennol yn dyddio o’r 19eg ganrif. Nid yw hanes diweddarach yr ardal yn glir. Dengys map ystad yn dyddio o’r 18fed ganrif (LlGC Trawscoed Cyf 1, 66) dir comin o fewn pentref Ysbyty Ystwyth, yr oedd sgwatwyr wedi tresmasu ar lawer ohono (yn ddiweddar?) gan godi bythynnod. Amheuir i’r gwasgariad dwys o fythynnod ar draws y dirwedd greigiog i’r dwyrain o’r pentref gael ei sefydlu yn yr un modd a’i fod yn dyddio o’r un cyfnod, er nad oes unrhyw dystiolaeth map i ategu hyn. Dengys y map degwm diweddarach (Map Degwm a Rhaniad Sputty Ystwyth, 1848) fod yr aneddiadau wedi’u creu erbyn hynny. Mae’n amlwg i’r diwydiant cloddio metel yn yr ardal hyrwyddo twf yn y boblogaeth ac o achos hynny ymledodd anheddau yn gyflym ar draws yr ardal yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, a datblygodd Pont-rhyd-y-groes fel anheddiad. Logaulas yw’r mwynglawdd mwyaf a hynaf yn yr ardal, a bu ar waith o ganol y 18fed ganrif o leiaf (Bick 1974, 22-25), ond mae olion y gweithgarwch cloddio sydd wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd yn tystio i faint y diwydiant hwn a arferai fod yn bwysig. Parhaodd Pont-rhyd-y-groes i ddatblygu yn yr 20fed ganrif pan adeiladwyd ystad dai fach.

YSBYTY YSTWYTH A PONT-RHYD-Y-GROES

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Copa bryn creigiog ac un o lethrau cwm Ystwyth sy’n greigiog ac sy’n wynebu’r gogledd, a leolir i’r gogledd ac i’r dwyrain o Ysbyty Ystwyth ac sy’n amrywio o ran uchder o 140m i 360m. O fewn yr ardal hon ceir pentref cnewyllol llac bach Ysbyty Ystwyth, pentref mwyngloddio llinellol gwasgarog Pont-rhyd-y-groes yn dyddio o’r 19eg ganrif, a nifer fawr o fythynnod bach, tai a thyddynnod gwasgaredig. Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol; mae’r garreg hon wedi’i gadael yn foel, wedi’i rendro â sment neu wedi’i phaentio (wedi’i gwyngalchu mewn rhai achosion). Llechen yw’r deunydd toi cyffredin.

Mae pentref Ysbyty Ystwyth wedi’i ganoli ar gyn-eglwys y plwyf (ystafell y plwyf bellach), sef Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, sy’n adeilad rhestredig a’r eglwys a’r capeli mwy diweddar, y dymchwelwyd un ohonynt yn ddiweddar. Mae gan nifer o dai nodweddion brodorol cryf ac efallai eu bod yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Fodd bynnag mae’r mwyafrif yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, maent yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol nodweddiadol ac mae’n debyg iddynt gael eu hadeiladu ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant cloddio plwm neu ganddynt. Fodd bynnag, dengys ffermydd a chanddynt adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig y tu mewn i’r pentref neu ar ei gyrion mai anheddiad amaethyddol ydoedd i ddechrau. Ceir ystad fach o dai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yn y pentref. Mae gan Bont-rhyd-y-groes gymeriad llawer mwy diwydiannol nag Ysbyty Ystwyth. Mae adeiladau rhestredig yn cynnwys hen ysgol fwyngloddio, tþ cyfrif mwyngloddio a’r hen swyddfa bost, gyda phob un ohonynt yn dyddio o ganol y 19eg ganrif. Mae’r tai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd ac maent yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol – tai gweithwyr sy’n nodweddiadol o’r cyfnod – er y ceir rhai bythynnod cynharach â nodweddion brodorol cryf hefyd. Mae rhywfaint o dai yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif hyd ei diwedd yma hefyd. Ceir gwasgariad eithaf dwys o aneddiadau ar y tir serth a charegog uwch uwchlaw’r ddau bentref. Anheddiad sgwatwyr ydyw yn ôl pob tebyg, lle’r oedd angen i bobl yn gweithio yn y mwyngloddiau plwm ddod o hyd i rywle cyfleus i fyw. Yma mae’r tai a’r bythynnod fel arfer yn strwythurau deulawr bach yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Mae’r mwyafrif yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol, a chanddynt nodweddion brodorol cryf yn aml, ond mae rhai (a adeiladwyd yn ôl pob tebyg tua diwedd y ganrif) yn tueddu i fod yn yr arddull Sioraidd. Moderneiddiwyd ac ymestynnwyd llawer ohonynt. Ceir ambell dyddyn yn yr ardal hon. Mae adeiladau allan y tyddynnod hyn wedi’u hadeiladu o gerrig, maent yn fach ac yn aml maent ynghlwm wrth y tþ ac yn yr un llinell ag ef. Mae adeiladau amaethyddol modern, lle y’u ceir ar ffermydd, yn fach iawn.

Lleolir yr ardal o aneddiadau gwasgaredig ar lethrau caregog serth wedi’u gorchuddio â chaeau bach, tir agored a choetir sy’n frith o olion mwyngloddiau plwm. Mae’r coed yng ngerddi’r tai a’r bythynnod yn rhoi golwg dra choediog, fel parcdir bron, i rannau o’r dirwedd. Rhennir y caeau bach, afreolaidd eu siâp gan gloddiau, cloddiau â wyneb o gerrig neu waliau sych. Nid oes unrhyw wrychoedd ac mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at y ffiniau hyn. Mae llawer o’r caeau bach yn cynnwys tir pori wedi’i wella. O bob tu i’r caeau ceir tir pori garw a rhostir â dyddodion mawn mewn pantiau. Ceir clystyrau o goed collddail a phlanhigfeydd o gonifferau ar y llethrau isaf. Adeiladau a thomenni ysbwriel yw nodwedd amlycaf yr hen fwyngloddiau plwm wedi’u gwasgaru ymhlith y brigiadau caregog, er bod siafftiau a nodweddion eraill i’w gweld.

Ar wahân i Eglwys a chapel Ysbyty Ystwyth, mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys anheddau anghyfannedd ac olion y diwydiant cloddio metel.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant a cheir planhigfeydd o goed coniffer i’r gogledd-orllewin, tirwedd o gaeau mawr a thir pori garw i’r gogledd-ddwyrain, i’r dwyrain ac i’r de-ddwyrain, a chaeau bach i’r de ac i’r de-orllewin.

MAP YSBYTY YSTWYTH AND PONT-RHYD-Y-GROES

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]