Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

SYSTEM GAEAU YSBYTY YSTWYTH

SYSTEM GAEAU YSBYTY YSTWYTH

CYFEIRNOD GRID: SN 731710
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 34.8

Cefndir Hanesyddol

Mae hanes yr ardal hon yn y Cyfnod Canoloesol yn ansicr. Am fod Eglwys Ysbyty Ystwyth wedi’i chysegru i Sant Ioan Fedyddiwr ystyriwyd bod y plwyf ym meddiant Marchogion yr Ysbyty, ond mae’n fwy tebygol efallai ei fod yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur, efallai mewn un o faenorau’r abaty (Ludlow 1998). Fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw wybodaeth sicr am yr ardal hon tan ddiwedd y 18fed ganrif pan ddengys map ystad (LlGC Trawscoed Cyf 1) – ‘Map o Diroedd Cymysg Sputty’ – yr ardal gyfan fel cae isranedig neu lain-gae, heb unrhyw ffiniau mewnol amlwg. Dyma’r unig dystiolaeth bendant o system gaeau âr isranedig o fewn ardal astudiaeth Ucheldir Ceredigion. Cymerir yn ganiataol mai dyma oedd y cae neu’r rhan o gae a oedd ar ôl o system llawer mwy nad oedd yn cael ei defnyddio bellach erbyn diwedd y 18fed ganrif, ac a oedd wedi’i chyfuno a’i hamgáu wedyn. Erbyn yr arolwg degwm (Map Degwm a Rhaniad Sputty Ystwyth, 1848) roedd y caeau isranedig a ddangosir ar y map o’r ystad wedi’u cyfuno ac wedi’u hamgáu i ffurfio’r dirwedd sy’n bodoli heddiw. Nid oes unrhyw dystiolaeth ar yr wyneb sydd wedi goroesi i ddangos bod system o gaeau isranedig yn bodoli gynt, ac nid yw’r map degwm yn rhoi unrhyw arwydd ei bod yn arfer bodoli.

SYSTEM GAEAU YSBYTY YSTWYTH

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn llain fach o dir tonnog rhwng 210m a 250m, i’r de o bentref Ysbyty Ystwyth, sydd wedi’i disgrifio yn ôl tystiolaeth mapiau hanesyddol. Rhennir yr ardal yn gaeau bach afreolaidd eu siâp gan gloddiau neu gloddiau cerrig a phridd ac arnynt wrychoedd. Cliriwyd rhai gwrychoedd ac mae eraill wedi’u hesgeuluso, ac mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at y mwyafrif ohonynt. Erbyn hyn mae planhigfeydd o goed coniffer yn gorchuddio rhan helaeth o’r ardal. Mewn mannau eraill ceir tir pori garw a thir wedi’i orchuddio â brwyn a rhywfaint o dir pori wedi’i wella.

Yr unig archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yw twmpath llosg yn dyddio o’r Oes Efydd.

Nid yw maint yr ardal hon wedi’i ddiffinio’n glir ar y ddaear, ac mae’n ymdoddi i dir amgaeëdig ar bob ochr. Fodd bynnag, yn hanesyddol, mae i’r ardal hon ffiniau pendant iawn.

MAP SYSTEM GAEAU YSBYTY YSTWYTH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221