Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

YSTRAD CARON

YSTRAD CARON

CYFEIRNOD GRID: SN 674603
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 273.4

Cefndir Hanesyddol

Mae’n debyg bod yr ardal hon o gerlan i’r gorllewin o Dregaron yn cynnwys tiroedd a roddwyd i dref Tregaron a’i bod yn gweithredu fel cae neu dir comin isranedig, er na wnaed unrhyw ymchwil i ategu hyn. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd y tir wedi’i rannu rhwng nifer o ystadau mawr: Nanteos, Trawscoed ac ystad Thomas Johnes yn Llanfair Clydogau. Er mwyn eglurder mae’n haws rhannu’r disgrifiad o’r ardal hon yn ardaloedd llai o faint yn seiliedig yn fras ar ffiniau ffermydd.

Dengys map ystad dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 45; 54) ffermdy Ystrad Caron gydag un cae bach, wedi’u osod mewn tir agored ac yn dwyn yr enw ‘Ystrad’. O fewn y tir agored hwn dangosir ychydig o gaeau bach gerllaw’r afon i’r de o Ystrad Caron. Maent yn perthyn i nifer o ddaliadau gwahanol.

I’r dwyrain o Dregaron dangosir y tir ym 1819 wedi’i barselu i ffurfio’r system o gaeau rheolaidd eu siâp sy’n bodoli heddiw. Dengys map arall dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 36; 147) fod y system o gaeau rheolaidd i’r gogledd o’r dref wedi’i chynllunio erbyn y dyddiad hwn, ac i’r caeau mawr hyn gael eu hisrannu ymhellach yn y 19eg ganrif.

I’r gogledd ar gyrion Cors Caron roedd patrwm o gaeau wedi’i sefydlu’n gadarn erbyn 1808 (LlGC Nanteos 216). Dengys map ystad dyddiedig 1791 (LlGC Cyf 36; 147) fod ffin i’r gogledd o’r dref newydd ei gosod. Fodd bynnag, mae’n anodd cysoni’r ffin hon â’r dirwedd fodern.

Dengys yr un map (LlGC Cyf 36; 147) fferm Pen-y-bont yng nghanol caeau bach, afreolaidd eu siâp a’r patrwm presennol o gaeau rheolaidd, mwy o faint ymhellach allan.

Erbyn 1845 (Map Degwm a Rhaniad Caron) roedd y system gaeau a welir heddiw ar draws y dirwedd gyfan hon wedi’i chwblhau.

Dengys tystiolaeth mapiau ystad a’r patrwm o gaeau rheolaidd o faint canolig fod yr ardal hon i raddau helaeth yn agored tan y 18fed ganrif, ac mai dim ond yn ystod y cyfnod rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif y cafodd ei hamgáu’n llawn. Nid yw’n hawdd esbonio pam bod llain gymharol fawr o dir amaeth gwastad, bras, agored i’w chael ar gyrion Tregaron, o leiaf tan 1819. Efallai mai tir comin ydoedd a oedd wedi dod i feddiant ystad Nanteos ac a oedd wedi’i amgáu ar ôl hynny, neu efallai mai hen system o gaeau isranedig ydoedd a oedd wedi’i hymgorffori mewn ychydig o ddaliadau, ond nad oedd wedi’i hamgáu tan y 18fed ganrif. Mae’n amlwg bod fferm Pen-y-bont yn hþn, ac mae’r adeilad presennol yn dyddio o hanner cyntaf yr 17eg ganrif (Lloyd-Johnes 1952-55, 170), ond nid yw’n hysbys p’un a gafodd ei sefydlu yn yr 16eg ganrif neu a yw’n hþn na hynny. Fferm sylweddol ydyw a oedd yn rhan o ystad Herbert yn wreiddiol (bu’r teulu Herbert o Gastell Powys wrthi’n rheibus yn cael gafael ar eiddo yng Ngheredigion yn yr 16eg ganrif). Fe’i trosglwyddwyd i ddwylo Thomas Johnes a bu’n gartref i John Jones, asiant Thomas Johnes ar ystad yr Hafod yn y 18fed ganrif (Rees 1936, 54).

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn llain o gaeau rheolaidd, o faint canolig, ar un o gerlannau Afon Caron ac Afon Teifi, i’r dwyrain ac i’r gogledd o Dregaron, rhwng 160 i 170m. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf, ac i bob pwrpas nid oes unrhyw dir pori heb ei wella nac unrhyw dir pori garw. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Ar ochr orllewinol yr ardal mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da a chânt eu cynnal a’u cadw’n dda, ond tua’r ochr ogledd-ddwyreiniol mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gwaeth ac maent wedi’u hesgeuluso hyd yn oed, ac maent wedi’u disodli gan ffensys gwifrau. Yma mae’r cloddiau yn llai sylweddol hefyd nag ydynt i’r gorllewin. Mae ffermdy Pen-y-bont yn adeilad trillawr, wedi’i adeiladu o gerrig, yn yr arddull Sioraidd, y mae ei waliau wedi’u plastro. Mae’n debyg ei fod yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ond efallai ei fod yn ymgorffori elfennau cynharach. Dyma un o’r ffermdai mwyaf yn ucheldir Ceredigion. Mae ganddo amrywiaeth eang o adeiladau allan traddodiadol wedi’u hadeiladu o gerrig ac adeiladau amaethyddol modern mawr. Mae gan y fferm bwysig arall yn yr ardal hon adeiladau fferm helaeth hefyd. Mae hen linell reilffordd - sef Rheilffordd Milford Manceinion a agorodd ym 1866 - yn rhedeg ar draws ochr orllewinol yr ardal hon o’r gogledd i’r de.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau sy’n sefyll.

Mae i’r ardal dirwedd hon ffiniau pendant ac eithrio i’r gogledd-orllewin. I’r gogledd ceir Cors Caron, lleolir tref Tregaron i’r de-orllewin ac Afon Teifi i’r gorllewin. Ar ei hochr ogledd-orllewinol mae’r ardal yn raddol ymdoddi i’r ardal sy’n ffinio â hi.

 MAP YSTRAD CARON

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]