Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

YSTRAD FFLUR

YSTRAD FFLUR

CYFEIRNOD GRID: SN 746664
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 334.8

Cefndir Hanesyddol

Sefydlwyd Abaty Ystrad Fflur, a leolir yn yr ardal hon, ym 1164. Priodolir sefydlu’r abaty i Robert Fitz Stephen, ond ymgymerodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd â’r gwaith o’i sefydlu, ac iddo ef y priodolir yr adeilad cyntaf ym 1184 (Radford; Cadw 1992). Datblygodd yr abaty yn un o ganolfannau’r diwylliant Cymreig ac yn sefydliad dylanwadol, a rhoddwyd llawer o diroedd iddo, a ffurfiai faenorau’r abaty yn ddiweddarach. Gorweddai tir o fewn yr ardal dirwedd hon o fewn Maenor Penardd a Maenor Mefenydd, efallai fel rhan o ddemên yr abaty. Mae’n debyg erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod maenorau a demên yr abaty wedi’u rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu yn fasnachol. Efallai mai dyma sut y dechreuodd y patrwm anheddu a welwn heddiw. Rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex pan ddiddymwyd yr Abaty, gan eu gwerthu ar ôl hynny i ystad Trawscoed ym 1630. Daeth demên yr Abaty i feddiant John Stedman ym 1567. Adeiladodd blasty Abbey Farm gerllaw’r abaty. Mae’r tþ presennol yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif yn bennaf, ac nid yw wedi newid fawr ddim ers y 1740au (Smith 1998, 270). Fodd bynnag, bu farw Richard Stedman heb wneud ewyllys ym 1746 a throsglwyddwyd yr ystad i’r teulu Powell o Nanteos. Roedd gan Nanteos ddaliadau sylweddol yma yn y 19eg ganrif. Adeiladwyd eglwys i wasanaethu’r gymuned leol ar ochr ogleddol adfeilion yr abaty yn y 17eg ganrif. Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes diweddarach yr ardal, fodd bynnag, dengys mapiau hanesyddol, gan gynnwys mapiau degwm (Map Degwm a Rhaniad Caron, 1845; Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847) a mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Trawscoed Cyf 1, 66; LlGC 45; 59, 62, 63, 71, 72), fod gan yr ardal hon lawer o’i chymeriad presennol (systemau caeau, patrwm anheddu, mwyngloddiau plwm) erbyn hynny. Bu mwynglawdd metel Abbey Consols yn ei anterth yn ystod y cyfnod o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd.

YSTRAD FFLUR

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys llawr dyffryn Afon Teifi i’r dwyrain o Bontrhydfendigaid a llethrau isaf y dyffryn. Mae’n amrywio o ran uchder o 180m ar lawr y dyffryn i bron 300m yn ei phen gogleddol, lle y mae’n dringo llethr y dyffryn i gynnwys Fferm Pen-y-wern hir. Tirwedd o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a ffermydd gwasgaredig ydyw. Rhennir y caeau gan gloddiau ac ambell glawdd â wyneb o gerrig. Mae’r gwrychoedd ar ben y cloddiau hyn mewn cyflwr gweddol dda, er eu bod yn dechrau cael eu hesgeuluso i ffwrdd o lawr y dyffryn. Mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o’r gwrychoedd. O bryd i’w gilydd ceir coed gwrychoedd nodedig mewn gwrych. Mae gan Abaty Ystrad Fflur grynhoad o ffiniau wedi’u ffurfio gan waliau sych o’i amgylch. Ceir clystyrau bach o goetir collddail. Tir pori wedi’i wella yw’r prif ddefnydd a wneir o’r tir, a cheir rhai pocedi o dir pori mwy garw ar lawr y dyffryn.

Mae adfeilion Abaty Ystrad Fflur, yr Eglwys ôl-Ganoloesol a thþ Great Abbey Farm a’i adeiladau allan cysylltiedig yn darparu canolbwynt dramatig i’r dirwedd hon. Maent i gyd wedi’u hadeiladu o gerrig, sef deunydd adeiladu traddodiadol y rhanbarth tan ddechrau’r 20fed ganrif. Ar adeiladau domestig mae’r garreg wedi’i gadael yn foel, wedi’i rendro â sment neu wedi’i phaentio, ac mae bob amser wedi’i gadael yn foel ar adeiladau allan ffermydd. Ar wahân i dþ bonedd Great Abbey Farm sy’n dyddio o’r 18fed ganrif, un o’r ffermdai mwyaf yn ucheldir Ceredigion, mae’r tai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd draddodiadol nodweddiadol, a chanddynt simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan Great Abbey Farm resi sylweddol iawn – ysgubor, beudy, stablau, siediau troliau, ac ati – wedi’u trefnu’n ffurfiol o amgylch iard fel sy’n briodol i dþ o’i statws, ond mae gan y mwyafrif o ffermydd ddwy neu dair rhes o adeiladau allan llai o faint sydd wedi’u trefnu’r anffurfiol mewn perthynas â’r tþ. Mae gan ffermydd gweithredol strwythurau amaethyddol modern sylweddol. Lleolir ychydig o dai modern a gwaith trin dðr yn yr ardal hon. Mae adeiladau cerrig a thomenni ysbwriel yr hen fwyngloddiau plwm yn darparu elfen dirwedd nodedig ar gyfer yr ardal hon.

Mae’n amlwg bod archeoleg gofnodedig yr ardal hon wedi’i chanolbwyntio ar yr abaty a’r ardal o’i amgylch. Mae celc o ddarnau arian Rhufeinig, carreg arysgrifedig yn dyddio o’r Oesoedd Tywyll, a chyfeiriad at safle melin Canoloesol yn rhoi mwy o ddyfnder amser i’r dirwedd.

I’r gogledd mae tir agored a chaeau mawr yn darparu ffin bendant ar gyfer yr ardal dirwedd hon. Ceir ffin llai pendant â thir amgaeëdig i’r de; yn lle hynny mae parth newid rhwng y ddwy ardal. I’r gorllewin lleolir pentref Pontrhydfendigaid.

MAP YSTRAD FFLUR

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221