Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

YSTRADMEURIG

YSTRADMEURIG

CYFEIRNOD GRID: SN 707674
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 167.7

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon. Rhoddwyd eglwys Sant Ioan Fedyddiwr i Farchogion yr Ysbyty ym 1158 (Ludlow 1998). Mae safle ysbyty posibl ym Mynachdy hefyd, sy’n dangos efallai bod tir hefyd wedi’i gynnwys yn y rhodd, er y gall yr enw lle hwn gyfeirio at y ffaith y câi’r safle ei ddefnyddio gan fynachod Abaty Ystrad Fflur - efallai bod y rhan hon o’r ardal wedi gorwedd o fewn maenor Mefenydd. Ym 1113 sefydlodd Richard de Clare gastell Ystradmeurig - un o ddim ond tri chastell cerrig yng Ngheredigion. Newidiodd ddwylo sawl gwaith yn ystod ei oes fer, cyn cael ei ddymchwel ym 1207 (King 1956). Mae’n ansicr p’un a ddatblygodd anheddiad gerllaw’r eglwys a/neu’r castell yn y Cyfnod Canoloesol. Mae grðp bach o anheddau sylweddol yn Ystradmeurig a adeiladwyd o gerrig yn y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif a’r ffaith i ysgol ramadeg gael ei sefydlu yn y fynwent ym 1803 yn tystio i dwf cymuned ar ddiwedd y Cyfnod ôl-Ganoloesol. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Trawscoed Cyf 1, 62, 66) dirwedd sy’n debyg fwy neu lai i’r un a welwn heddiw, er yr ymddengys fod gwahaniaeth bach bryd hynny ym maint y caeau gerllaw ffermydd a’r rhai a oedd ymhellach i ffwrdd - mae’r caeau agosach at ei gilydd yn llai o faint ac yn fwy afreolaidd eu siâp. Mae’n debyg bod hyn yn adlewyrchu trefn gronolegol y broses amgáu, gyda’r caeau mwy o faint yn cael eu creu yn ddiweddarach ar ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd y caeau mwy o faint wedi’u hisrannu gryn dipyn erbyn yr arolwg degwm (Map Degwm a Rhaniad Spytty Ystrad Meurig, 1843) ac roedd y gwahaniaeth ym maint y caeau i raddau helaeth wedi diflannu. O fewn yr ardal hon ceir gardd hanesyddol Bron-meurig (Cronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru). Ym 1866, agorwyd Rheilffordd Milford Manceinion, yn cysylltu â Thregaron ag Aberystwyth, gyda gorsaf yn Ystradmeurig. Caeodd yn y 1960au.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal dirwedd afreolaidd ei siâp a leolir ar lethrau sy’n raddol ddisgyn ac sy’n wynebu’r de a’r de-orllewin. O ran uchder mae’n amrywio rhwng 160m yn y de-ddwyrain a 230m yn y gogledd. Mae’n cynnwys system o gaeau afreolaidd eu siâp a nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig a phentref Ystradmeurig a phentrefan Tynyffordd. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd hyn mewn cyflwr da ar y lefelau isaf, ond maent yn mynd yn fwyfwy esgeulusedig ar dir uwch, ac mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu atynt. Ar y lefelau uchaf o amgylch Mynachdy mae’r cloddiau yn fychan ac mae gwifrau wedi disodli’r gwrychoedd. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir yn bennaf ac ni cheir fawr ddim tir pori mwy garw. Ceir rhai clystyrau bach o goetir collddail.

Carreg leol yw’r prif ddeunydd adeiladu traddodiadol. Mae’r cerrig hyn yn aml wedi’u sgwario’n fras ac yn batrymog ar dai a cheir cerrig llanw ar adeiladau fferm y triniwyd eu harwyneb â gwyngalch, paent neu sment. Defnyddir llechi ar y toeau fel arfer. Mae pentref Ystradmeurig yn cynnwys clwstwr bach o adeiladau a cheir yr eglwys gothig yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ac ysgol ramadeg gothig yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif yn ei ganol. Mae’r tai yma yn dyddio o’r 19eg ganrif ac maent yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol nodweddiadol. Fodd bynnag, mae gan nifer o’r tai nodweddion Sioraidd cryf iawn, yn hytrach na’r cymysgedd arferol o nodweddion brodorol Sioraidd, sy’n rhoi golwg fwy ffurfiol i’r pentref na llawer o bentrefi eraill yn y rhanbarth. Mae nifer o’r tai hyn yn ffermydd ac mae ganddynt resi o adeiladau allan yn dyddio o’r 19eg ganrif sydd wedi’u gosod yn lled-ffurfiol o amgylch iardiau. Ni ddefnyddir llawer o’r adeiladau allan bellach neu maent wedi’u haddasu er mwyn eu defnyddio at ddibenion eraill. Nid yw adeiladau amaethyddol modern yn elfen amlwg yn y dirwedd hon. Ceir o leiaf un tþ modern yn y pentref.

Mae Tynyffordd yn anheddiad llinellol gwasgaredig sy’n cynnwys tai a byngalos yn dyddio o ddiwedd y 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif a dim byd arall bron. Mae adeiladau eraill sydd wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal yn cynnwys ffermydd a chanddynt ffermdai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd a siop/tþ yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a adeiladwyd o gerrig ag addurniadau brics.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn amrywiol. Cloddwaith Castell Ystradmeurig yw’r prif safle yn yr ardal. Disgrifir safleoedd Canoloesol pendant neu bosibl eraill uchod. Mae arteffactau yn dyddio o’r Oes Haearn a’r Oes Efydd yn awgrymu bod i’r dirwedd hon fwy o ddyfnder amser nag y gellir yn hawdd ei weld o’r dystiolaeth ar yr wyneb.

I’r gogledd-ddwyrain ac i’r gogledd-orllewin mae ffiniau’r ardal hon wedi’u diffinio’n eithaf da gan dir agored neu gaeau mawr. Lleolir ardal a nodweddir gan gaeau bach a rennir gan waliau sych i’r gogledd. Nid oes unrhyw ffin bendant rhwng yr ardal hon a’r caeau rheolaidd a geir mewn ardaloedd i’r de-ddwyrain ac i’r de-orllewin. I’r de ceir ardal Cors Caron sydd wedi’i diffinio’n glir.

MAP YSTRADMEURIG

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221