O ran cymeriad
mae ardal Morfa Bychan yn cynnwys rhostir ar lethrau arfordirol
serth, sy'n greigiog mewn mannau, clogwyni môr, coetir collddail
ar ochrau dyffryn cysgodol a phlanhigfa goniffer ar ochrau'r dyffryn
yng Nghoedwig Teagues. |
|
O ran
cymeriad mae ardal Melin Marros yn cynnwys caeau bach afreolaidd
o ran eu siâp, rhai ohonynt bellach yn segur ac yn prysur ddatblygu'n
brysgwydd ar silff lechweddog gyda chefndir o lethr serth wedi'i
gorchuddio â rhedyn. Dim ond dwy annedd a ddefnyddir bellach;
mae sawl fferm yn adfeilion. |
|
O ran
cymeriad arferai ardal Mynydd Marros fod yn rhostir hollol
agored, ond mae planhigfa goniffer fach wedi'i sefydlu ar y pen
gorllewinol, ac ar y llethrau sy'n wynebu'r dwyrain mae ymdrechion
i wella'r tir wedi arwain at greu nifer o dyddynnod amaethyddol
newydd. |
|
O ran
cymeriad mae ardal Morfa Heli Talacharn yn cynnwys tir
yn ei hanfod a ffurfiwyd yn ddiweddar sy'n dioddef llifogydd llanw
cyson y tu allan i'w forgloddiau ac islaw castell a thref Talacharn.
|
|
O
ran cymeriad mae ardal Marros wedi'i chanoli ar Eglwys
Ganoloesol Sant Lawrens lle y datblygodd clwstwr gwasgaredig o
anheddau. Nodweddion hanfodol y tirlun hwn yw'r ffermydd gwasgaredig
a adeiladwyd o garreg, wedi'u gosod mewn caeau o borfa afreolaidd
o ran eu siâp a amlinellir gan wrychoedd ar wrthgloddiau. |
|
O ran
cymeriad mae ardal Bryn Syr John yn cynnwys amlinell a
oedd gynt yn glogwyn môr sydd wedi'i gwahanu oddi wrth y môr erbyn
hyn gan fignen adferedig. Gorchuddir y clogwyn yn awr gan goetir
collddail. Ar wahân i lwybr cerdded a sefydlwyd yn y 19eg ganrif
ac ychydig o fythynnod o'r 19eg ganrif sy'n adfeilion, nid oes
unrhyw ddarnau o dirwedd hanesyddol yn yr ardal hon. |
|
O ran
cymeriad mae ardal Pentywyn a Llanmiloe yn cynnwys yn bennaf
datblygiad preswyl o'r 19eg ganrif, tai o'r cyfnod ar ôl yr Ail
Ryfel Byd a chanolfannau hamdden a thwristaidd o ddiwedd yr ugeinfed
ganrif. |
|
O ran
cymeriad mae ardal Coedwig Westmead wedi'i lleoli i'r gogledd
o bentrefi Pentywyn a Llanmiloe ac ymhellach o ganol y môr. Gorwedda
ar lethr serth sy'n wynebu'r de. Ar wahân i ychydig o glystyrau
bach, nid yw'r coetir yn hynafol iawn a chynhwysa blanhigfeydd
collddail a choniffer o'r 19eg a'r 20fed ganrif. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Llansteffan wedi'i chanoli ar yr
eglwys ganoloesol ac un stryd o dai yn dyddio o'r 18fed a'r 19eg
ganrif, gydag ail ganolbwynt o anheddau o'r 19eg a'r 20fed ganrif
ar yr aber, a thai o'r 20fed ganrif rhwng y ddau. Gorwedda'r pentrefi
yng nghysgod castell canoloesol. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Black Scar yn cynnwys clogwyni a
llethrau arfordirol serth sy'n edrych dros aberoedd Taf a Thywi.
Gorchuddir y llethrau serth â choetiroedd o gollddail, rhedyn
a thiroedd pori garw. Mae hen chwareli calchfaen yn bresennol.
|
|
O
ran cymeriad mae ardal Mignen Talacharn a Phentywyn yn
cynnwys morgloddiau a cheir tir ffermio cyfoethog y tu ôl iddynt
a thystiolaeth o amaethu cefnen a rhych a ffermydd gwasgaredig.
Gorwedda adeilad o gyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, sy'n eiddo i'r
Weinyddiaeth Amddiffyn, ar draws rhan o'r ardal hon. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Twyni Tywod Talacharn a Phentywyn
yn cynnwys stribed hir o dywod sydd wedi'i chwythu i'r naill ochr
gan y gwynt. Codwyd adeilad yn berchen i'r Weinyddiaeth Amddiffyn
o gyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn y twyni tywod. Nid oes unrhyw
nodweddion tirwedd hanesyddol eraill yn bodoli yma. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Rhostir Whitehill yn un cae mawr
heb unrhyw adeiladau arno a gaiff ei ffermio drwy ddefnyddio dulliau
tir agored. Mae nifer o ddarnau neu stribedi yn gorwedd ar draws
y cae, ac fe'u gwahanir gan drumiau o bridd isel. Mae'r cae yn
awr yn weirglodd, ac ni chaiff ei aredig bellach. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Mignen Adferedig Dyffryn Taf yn
cynnwys hen forfeydd heli a llanw a amgaewyd gan lethrau ac a
ddraeniwyd yn y 17eg ganrif. Rhennir yr ardal gan ffosydd, gwrychoedd
gwasgarog a ffensys gwifrau ac fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer
pori yn ystod yr haf. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Plwyf Talacharn, Pentywyn a Llanddowror
yn fawr ac yn cynnwys ffermydd gwasgaredig ar fryniau pantiog,
tiroedd pori amgaeëdig sydd wedi eu gwella, pentrefi bach wedi'u
canoli o gwmpas eglwysi canoloesol, a chlystyrau bach o goetir
collddail. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Yr Hugden yn cynnwys prif systemau
caeau agored tref Talacharn. Mae'r stribedi niferus ar yr Hugden
yn cael eu ffermio gan ffermwyr unigol. Mae meini tir isel a glasleiniau
yn gwahanu'r stribedi. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Tref Talacharn a Broadway wedi'i
chanoli ar y castell canoloesol, neuadd y dref sy'n dyddio o'r
18fed ganrif, a llawer o dai hardd o'r 18fed a'r 19eg ganrif.
Mae datblygiad tai o'r 20fed ganrif yn gorwedd yn bennaf ar gyrion
y dref. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Delacorse yn cynnwys stribedi amgaeëdig
o hen system caeau agored. Gwrthgloddiau a gwrychoedd yw'r ffiniau.
Dyddia'r adeiladau fferm o'r 19eg ganrif, er bod safleoedd y ffermydd
yn fwy hynafol na hynny. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Coygan yn fryn calchfaen anghysbell
sydd wedi bod yn chwarel am fwy na dwy ganrif. Dinistriwyd y fryngaer
o'r Oes Haearn a oedd ar ben y bryn a'r ogof a gynhwysai olion
cynhanesyddol yn llwyr. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Laques yn cynnwys tir pori pantiog
a rannwyd yn gaeau o faint canolig rheolaidd a ffermydd mawr gwasgaredig
yn eiddo i fân deuluoedd bonheddig. |
|
Mae Llain-gaeau
Llan-y-bri a Llansteffan yn cynnwys rhan o hen gaeau
agored y ddau anheddiad hyn. Er bod llawer o’r lleiniau
wedi’u had-drefnu’n gaeau mwy rheolaidd, mae digon
o gaeau hir a chul wedi goroesi i ddangos iddynt fod yn gyfundrefn
helaeth ar un adeg. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys pentref
bach Llan-y-bri. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Llandeilo Abercywyn yn cynnwys eglwys
ganoloesol adfeiliedig Teilo Sant sydd wedi'i lleoli mewn tirwedd
o ffermydd gwasgaredig a chaeau rheolaidd o ran eu siâp ac o faint
canolig a gwrychoedd ar wrthgloddiau yn ffiniau iddynt. |
|
O ran cymeriad mae ardal Trefenty yn cynnwys ffermydd gwasgaredig
wedi'u lleoli mewn tirwedd enfawr o raniadau rheolaidd sydd wedi'u
hisrannu'n gaeau llai afreolaidd o ran eu siâp. Ceir castell mwnt
a beili yn yr ardal ac adfeilion eglwys ganoloesol pererinion
Llanfihangel Abercywyn. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Mignen Pinged yn ddyledus i gynlluniau
draenio a ddechreuwyd yn yr 17eg ganrif am ei seiliau modern.
Mae'n cynnwys tir pori a wahanwyd gan ffosydd ac amrywiol elfennau
o isadeiledd - camlesi, ffyrdd a rheilffyrdd o'r 18fed i'r 20fed
ganrif. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Maes Glanio Pen-bre yn gorwedd ar
draws tir a ddraeniwyd gyntaf oll yn yr 17eg ganrif. Mae olion
maes glanio o'r Ail Ryfel Byd, cylch rasio ceir, maes glanio modern
a sefydliad sy'n berchen i'r Awyrlu Brenhinol yn tra-arglwyddiaethu'r
tirlun hanesyddol. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Pen-bre a Phorth Tywyn yn drefol.
Mae'n cynnwys datblygiad preswyl a gwasanaethau cysylltiedig yn
bennaf o'r 19eg a'r 20fed ganrif. Ar wahân i ddau borthladd, prin
yw olion y diwydiannau trymion a oedd gynt mor llewyrchus yn yr
ardal hon. |
|
O
ran cymeriad mae Cyd-weli yn ardal drefol. Mae'r hen dref
o amgylch muriau'r castell canoloesol wedi'i disodli gan ganolfan
mwy diweddar, sy'n nodweddiadol o adeiladau o'r 18fed, 19eg a'r
20fed ganrif, er bod ganddi wreiddiau canoloesol |
|
O
ran cymeriad mae ardal Brooklands yn ddyledus am ei seiliau
modern i gynlluniau draenio a ddechreuwyd yn yr 17eg ganrif. Rhennir
yr ardal gan ffosydd i gaeau mawr o dir pori gydag un annedd yn
unig yn bresennol. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Coedwig Penybedd yn cynnwys planhigfa
goniffer fach o'r 20fed ganrif a sefydlwyd ar dywod a chwythwyd
gan y gwynt. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Coedwig Pen-bre yn cynnwys planhigfa
goniffer eang iawn sy'n dyddio o'r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd
a sefydlwyd ar ben twyni tywod a ffurfiwyd ar ôl y Cyfnod Canoloesol.
O fewn y goedwigaeth ceir adfeilion ffatri arfau rhyfel. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Meysydd yn ddyledus am ei seiliau
i ddraeniad corstir yn y 18fed ganrif. Fe'i rhennir yn gaeau bach
o borfa gan ffosydd a ffensys. Lleolir ffermydd gwasgaredig iawn
yma. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Coedwig Mynydd Pen-bre yn gorwedd
ar lethr sgarp serth. Er y gallai ychydig o'r coetir fod yn hynafol,
mae llawer ohono yn goetir diweddar, a sefydlwyd planhigfa goniffer
o'r ugeinfed ganrif ar draws rhan o'r ardal. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Caeau Hirgul Llanddyry a Phinged
yn cynnwys caeau bach afreolaidd o ran eu siâp sydd wedi datblygu
o system caeau stribed neu agored. Amgylchynir y caeau gan wrychoedd
ar wrthgloddiau. Mae'r patrwm anheddu yn un o ffermydd a bythynnod
gwasgaredig. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Waun Baglam wedi'i nodweddu gan
batrwm cae rheolaidd wedi'i amgáu gan wrychoedd sydd wedi tyfu'n
wyllt. Mae clystyrau bach o goetir collddail ynghyd â'r gwrychoedd
yn ychwanegu dimensiwn coediog i'r tirlun. Mae'r patrwm anheddu
yn un o ffermydd gwasgaredig yn cynnwys adeiladau sy'n dyddio
yn bennaf o'r 18fed a'r 19eg ganrif. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Parc Gwledig Pen-bre yn cynnwys
nodweddion tirlun hanesyddol modern yn bennaf, gan gynnwys: llethr
sgïo, cwrs golff a chyfleusterau hamdden eraill, adfeilion ffatri
arfau rhyfel, stad ddiwydiannol a rhan o blanhigfa goniffer. |
|
O
ran cymeriad ystod o dwyni tywod yn unig sy'n nodweddu ardal Twyni
Tywod Pen-bre. Mae'n debygol y dechreuodd y twyni tywod ffurfio
yn yr 17eg ganrif. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Caeau Hirgul Cyd-weli a Llansaint
yn cwmpasu pentref hanesyddol Llansaint, ond mae'n cynnwys hen
stribedi o system caeau agored yn bennaf, a amgaewyd gan gaeau
y mae gwrychoedd yn ffiniau iddynt. Ar lethrau serth pennir ffiniau'r
hen stribedi gan lasleiniau. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Hen Gaeau Hirgul Holloway wedi'i
lleoli ger Cydweli ac arferai ffurfio rhan o system caeau agored
y dref. Caewyd y system hon ac mae'n dameidiog iawn yn awr, ac
yn cael ei hesgeuluso. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Twyni Tywod Cyd-weli yn cynnwys
mignen adferedig yn bennaf, ac a ddefnyddiwyd ar gyfer diwydiant
ac isadeiledd. Mae'r diwydiant wedi diflannu bellach, ond mae'r
prif linell rheilffordd yn parhau i gael ei defnyddio. Mae caeau
bach yn yr ardal hon wedi'u hesgeuluso. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Glan-y-Fferi yn anheddiad eithaf
hynafol a sefydlwyd, fel yr awgryma'i enw, ar bwynt croesi Afon
Tywi. Deillia ei seiliau modern o sefydliad y prif linell rheilffordd
ym 1852. |
|
O
ran cymeriad mae ardal Llanismel yn cynnwys bryniau o dir
pori sydd wedi'i wella a'i rannu i gaeau o faint canolig gan wrthgloddiau
a gwrychoedd, gyda phatrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig. |
|
O ran cymeriad mae ardal Morfa Bach yn cynnwys tir
pori sydd wedi'i wella a'i rannu'n gaeau unionlin a allai ddyddio
o ddiwedd y Cyfnod Canoloesol. Mae'n bosibl y gallai clystyrau
o goetir collddail fod yn dyddio o gyfnod tebyg. Ffermydd gwasgaredig
yw'r patrwm anheddu. |
|
O ran cymeriad mae ardal Allt Hilltop wedi'i amgáu
yn llwyr yn gaeau cymharol fawr â ffin o wrthgloddiau a gwrychoedd
- system a sefydlwyd o bosibl o dir comin yn y 16eg ganrif - gyda
phatrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig. |
|
O ran cymeriad roedd ardal Tir Amgaeëdig Mynydd Pen-bre
yn dir comin agored drwy gydol y cyfnod Canoloesol hyd at y 19eg
ganrif pan gafodd ei amgáu a sefydlwyd y system bresennol o gaeau
rheolaidd o ran eu siâp a ffermydd gwasgaredig |
|
O ran cymeriad mae Mignen Pinged - Allgraig Heb ei Hamgáu
yn ardal fach o fignen a wahanwyd oddi wrth dir a adferwyd gan
ffyrdd, camlesi a rheilffyrdd. Nid oes unrhyw anheddiad, ac ymddengys
fel petai'r tir heb gael ei ddefnyddio. |
|
O ran cymeriad mae ardal Morfa Heli Pen-bre yn cynnwys
morfa heli sydd wedi cronni y tu allan i forgloddiau dros y cannoedd
o flynyddoedd diwethaf. |
|