Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

MORFA BYCHAN

CYFEIRNOD GRID: SN 195081

ARDAL MEWN HECTARAU: 192.5

Cefndir Hanesyddol
Ardal o blwyf Marros a fu yn eiddo i Arglwyddiaeth Talacharn erioed yn ystod y cyfnod hanesyddol. Gan fod y tir hwn yn gorwedd ar lethrau arfordirol serth uwchlaw clogwyni, ac yn cynnwys clogwyni isel a llethrau sgri, mae'n debygol y'i defnyddiwyd fel ffin erioed, ac ymddengys iddo gael ei ddal fel tir comin hyd y 19eg ganrif. Mae nifer o garneddau (y symudwyd y mwyafrif ohonynt bellach pan wellhawyd y tir) mewn ardaloedd clirio, gwrthgloddiau isel o gerrig mawrion ac olion aneddiadau y ciliwyd ohonynt ar y rhannau llai serth o'r llethr arfordirol, yn tystio i aneddiadau a thrin y tir ar un adeg, o bosibl yn ystod yr Oesoedd Canol (Murphy 1988). Roedd rhywun yn byw mewn bwthyn ym Morfa Bychan hyd ddiwedd y 19eg ganrif o leiaf (Curtis 1880). Isrannwyd rhan o'r tir yn dilyn Dyfarniad Cau Tir Seneddol ym 1864 (Chapman 1992, 71), ond ychydig o effaith gyffredinol gafodd hyn ar y tirlun ac aeth y ffiniau a grëwyd yn segur yn fuan. Mae odynau calch a chwareli calchfaen ar hyd dyffryn Morfa Bychan, a hefyd mwyngloddio arbrofol ar y llethr arfordirol islaw Castell Uchaf, yn tystio i ddefnydd economaidd pellach o'r ardal yn ystod y 19eg ganrif. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd morgloddiau - mae dwy wal anferthol atal tanciau yn goroesi a gellir gweld adeileddau rhynglanwol yn achlysurol yn y tywod symudol ar y traeth. Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif adeiladwyd gorsaf bwmpio fach yn ymyl y blaendraeth, a sefydlwyd planhigfa coedwigaeth yn Teague's Wood.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol

Mae hon yn ardal agored iawn ac yn cynnwys ochrau dyffrynnoedd garw, serth a llethrau arfordirol yn codi o lefel y môr i dros 125m. Mae'r defnydd o'r tir yn cynnwys rhostir yn bennaf â choetir collddail hynafol ar ochrau dyffrynnoedd cysgodol ym Morfa Bychan, a phlanhigfa o gonifferau o'r 20fed ganrif yn Teague's Wood. Mae holl elfennau'r tirlun hanesyddol bron yn greiriol; maent yn cynnwys ffiniau cerrig mawr isel, ychydig o wrthgloddiau ffiniol, chwareli calchfaen ac odynau calch, ac amddiffynfeydd o'r Ail Ryfel Byd.

Mae archeoleg yr ardal gymharol fach hon yn gyfoethog ac yn gymhleth, ac, yn ogystal â nodweddion creiriol y tirlun a grybwyllwyd uchod, yn cynnwys dwy gaer bentir o'r Oes Haearn, pedair o garneddi siambrog o'r Oes Neolithig/Efydd, tomen gladdu o'r Oes Efydd, tomen losg o bosibl, olion aneddiadau Canoloesol ac Ôl-ganoloesol gan gynnwys cytiau hirion o bosibl, a thystiolaeth o brosesu calchfaen ar ffurf chwareli ac odynau calch.

Ni cheir dim adeiladau i bob pwrpas.