MARROS CYFEIRNOD GRID: SN 199082 Cefndir Hanesyddol
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol Gorwedd Marros ar dirlun pantiog o fryniau crwn isel yn amrywio o ran uchder o 40m yn y pen de-orllewinol eithaf i dros 150m yn y canol. Mae'r tirlun hanesyddol yn cynnwys ffermydd gwasgaredig mewn tirlun o gaeau afreolaidd o ran siâp o dir pori gwell, yn fach a chanolig o ran maint, ac yn tarddu o'r 16eg ganrif yn ôl pob tebyg. Caiff caeau eu pennu gan wrychoedd ar wrthgloddiau. Ar ymyl y ffyrdd mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da, mewn mannau eraill nid ydynt gystal a thueddant i gael eu hesgeuluso mewn mannau gyda ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu atynt neu yn eu disodli, neu maent wedi tyfu'n wyllt. Ychydig o goetir sydd yno. Cafwyd anheddu cnewyllol cyfyngedig o amgylch eglwys Lawrens Sant, a gynrychiolir yn bennaf gan hen dy'r eglwys gynt a'r Ysgol Genedlaethol. Yn gyffredinol, mae'r anheddau yn perthyn i'r 19eg neu'r 20fed ganrif, y rhai hynaf wedi'u hadeiladu o gerrig, y diweddaraf o friciau neu goncrid wedi'i rendro. Mae gan y mwyafrif o ffermydd gyfres o dai allan a adeiladwyd o gerrig yn ogystal ag adeiladau fferm modern mawr. Yn ystod y blynyddoedd diweddar datblygodd rhai ffermwyr y gyfundrefn amaethyddol draddodiadol yn system sy'n seiliedig ar dwristiaeth yn rhannol, gydag adeiladu stablau marchogaeth, cyfleuster saethu colomennod clai a chwrs golff bach. Mae diffyg amrywiaeth i raddau yn yr archeoleg a gofnodwyd. Cofnodwyd cromlech gylch bosibl, ac mae tystiolaeth o nifer o ddarnau o dir amgaeëdig amddiffynedig o'r Oes Haearn, ar ffurf nodweddion cloddweithiau a/neu olion cnydau. Mae aneddiad(au) canoloesol o amrywiol ffurfiau wedi'u dogfennu gan gynnwys eglwys Lawrens Sant ym Marros. Mae safle goleufa bosibl yn bresennol, ac mae carreg derfyn o bosibl yn nodi'r ffin â Sir Benfro yn Waters Edge, ond mae safleoedd Ôl-ganoloesol yn bennaf ar ffurf ffermydd, bythynnod a phontydd, ond maent yn cynnwys mwynglawdd posibl a safle odyn bosibl. Mae Eglwys Lawrens Sant, ag elfennau canoloesol, wedi'i rhestru ar Radd II ac mae'n gysylltiedig â hen dy'r eglwys gynt a'r Ysgol Genedlaethol. Nid oes un o'r adeiladau eraill yn nodweddiadol; maent i gyd wedi'u hadeiladu o gerrig â thoeau llechi. Mae Marros o fewn ffiniau pendant gan fod rhostir Mynydd Marros yn ffinio â'i ffermdir amgaeëdig i'r gogledd a'r dwyrain, y llethr arfordirol serth a'r môr i'r de, a choetir coniffer a chollddail i'r gorllewin.
|