Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

BRYN SYR JOHN

CYFEIRNOD GRID: SN 304098
ARDAL MEWN HECTARAU: 22.22

Cefndir Hanesyddol
Er bod yr ardal hon yn gorwedd o fewn demên arglwyddiaeth Talacharn, o dan ddeiliadaeth faenoraidd, bu ei gwerth economaidd yn isel bob amser yn ôl pob tebyg o ganlyniad i'r ffaith mai clogwyni sydd yno fwyaf. Cofnododd mapiau hanesyddol ei bod yn goediog, fel ag y mae heddiw. Fodd bynnag, mae anheddiad canoloesol wedi'i ddogfennu yng Nghyn Gaddael ym mhen gorllewinol eithaf yr ardal. Mae nifer o fythynnod cerrig gwag, yn ogystal ag adeilad gwag a elwir yn Dy Halen a fferm bresennol Ty Halen, yn ôl pob tebyg yn dystiolaeth o anheddiad sgwatwyr yn y 18fed neu'r 19eg ganrif. Roedd rhywun yn byw yn yr adeiladau hyn tan 1947 ac maent bellach yn wag. Lleolir yr anheddau hyn naill ai ar lethr goediog serth uwchlaw'r clogwyni, neu wrth droed y clogwyni ar ymyl hen forfa heli gynt. Adeiladwyd llwybr twristiaid - New Walk - ar draws yr ardal hon yn y 19eg ganrif. Honnir bod yr enw Bryn Syr John yn cyfeirio at Syr John Perrot, Arglwydd Talacharn ar ddiwedd y 16eg ganrif, gwr a oedd ag enw drwg o fewn yr ardal am ei feddiangarwch, ac mae'n deitl a thestun cerdd gan Dylan Thomas.


Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r ardal hon yn cwmpasu clogwyn fôr Hen Dywodfaen Coch gynt sy'n codi o'r morfa heli a'r fignen adferedig i dros 70 metr. Mae'r ardal gyfan bron naill ai'n glogwyn fertigol neu'n llethrau serth iawn ac mae wedi'i gorchuddio gan goetir collddail hynafol. Tuag at frig yr ardal hon, lle mae'r tir yn dechrau lefelu, mae un neu ddau fwthyn cerrig gwag yn cuddio y tu ôl i goed. Mae llwybr twristiaid yn arwain drwy'r ardal hon o Dalacharn. Ar wahân i'r anheddiad canoloesol a ddogfennwyd yng Nghyn Gaddael nid oes unrhyw archeoleg arall wedi'i chofnodi o fewn yr ardal.

Ar wahân i Fferm Ty Halen, ty yn yr arddull werinol o ddiwedd y 19eg ganrif, yr unig adeiladau yw adfeilion cerrig o dai a bythynnod o'r 19eg ganrif yn y coetir. Mae'r llinell greiriol hon o glogwyni yn derfyn clir rhwng y fignen adferedig i'r gogledd a'r ffermdir pantiog i'r de, ac mae'n dirlun hanesyddol hynod iawn.