PENTYWYN A LLANMILOE
CYFEIRNOD GRID: SN 232084
ARDAL MEWN HECTARAU: 82.61
Cefndir Hanesyddol
Roedd Pentywyn yn faenor Arglwyddiaeth Talacharn wedi'r Goresgyniad,
yn nwylo arglwyddi de Brian o'r 13eg ganrif; mae'r pentref ei hun yn Ardal
147. Yn arolwg y degwm o tua 1842 (map degwm Pentywyn) gwelir anheddiad
bach o bedwar ty ac odyn galch ar hyd y traethlin, yn dynn wrth droed
llethr serth, gyda chlwstwr o dai ymhellach i fyny'r bryn yn New Inn.
Yn Llanmiloe i'r dwyrain safai Plasty Westmead yn ei dir, a Thy Llanmiloe
(map degwm Plwyf Talacharn). John Perrot, Arglwydd Talacharn oedd yn berchen
ar yr hen ddeiliadaeth gynt yn yr 16eg ganrif ond adeiladwyd y ty presennol
gan Syr Sackville Crow yn yr 17eg ganrif (Lloyd 1986, 56). Mae'r olaf
yn perthyn i'r 1720au ac fe'i caffaelwyd at ddefnydd milwrol yn ystod
yr Ail Ryfel Byd pan sefydlwyd canolfan ymchwil y Weinyddiaeth Amddiffyn
ar y fignen i'r de. Datblygodd diwydiant twristiaeth ym Mhentywyn yn ystod
ail hanner y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Ar y dechrau lefel isel o ddatblygu
a gafwyd, gan gynnwys adeiladu filâu, ty tafarn a gwesty bach. Fodd bynnag,
ers yr Ail Ryfel Byd mae Pentywyn a Llanmiloe wedi profi newidiadau ar
raddfa eang gydag adeiladu parciau gwyliau a charafanau helaeth, a sefydlu
canolfan ymchwil y Weinyddiaeth Amddiffyn, tai i weithwyr y ganolfan ar
ffurf ystadau bach gan gynnwys 'tai parod' - erbyn hyn yn oroeswyr prin
o dai cymdeithasol wedi'r rhyfel - ac anheddau briciau a choncrid mwy
diweddar. Bellach caiff stribed o dir cul o Lanmiloe i Bentywyn ei ddatblygu'n
barhaus gyda thai, siopau a pharciau carafanau/gwyliau.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Lleolir yr ardal hon ar hyd yr arfordir ym Mhentywyn gan gwmpasu mignen
adferedig, twyni tywod, a llethrau is adeiledig y bryn ar y llethr arfordirol
sy'n gorwedd rhwng 5m a thua 30m uwchlaw lefel y môr. Ar wahân i Dy
Llanmiloe, mae'r datblygiad cynharaf sy'n goroesi yn cynnwys
bythynnod, gwesty a thy tafarn, a filâu o'r 19eg ganrif ar lan y môr ac
ar y llethrau arfordirol.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi'i chyfyngu i'r morgloddiau
Ôl-ganoloesol-modern ym Mhentywyn.
Mae'r adeiladau i gyd o gerrig â thoeau llechi. Mae Ty
Llanmiloe yn adeilad urddasol sy'n perthyn i nifer o gyfnodau, ond mae'r
bloc canolog yn perthyn i'r 1720au yn ôl pob tebyg; cofnodir yr ardd Edwardaidd
sydd mewn cyflwr da, yn bennaf o 1908-12, fel rhif cyfeirnod PGW (Dy)
1 (CAM) yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol
Arbennig yng Nghymru (Whittle, 1999).
O ran cymeriad mae ardal tirlun hanesyddol Pentywyn a Llanmiloe
yn gynwysedig a'i ffiniau felly yn eglur. Mae'n gwrthgyferbynnu'n llwyr
â'r llethr arfordirol serth, goediog a'r ffermdir amgaeëdig i'r gogledd,
a'r twyni tywod a'r fignen adferedig i'r de.
|