Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

BLACK SCAR CYFEIRNOD

GRID: SN 331098
ARDAL MEWN HECTARAU: 61.13

Cefndir Hanesyddol
Mae hon yn ardal gul o lethrau a chlogwyni arfordirol serth, a oedd yn rhan o Arglwyddiaeth Ganoloesol Llansteffan a ddaliwyd o dan ddeiliadaeth faenoraidd. Cyfyngedig yw ei werth economaidd, ond tuag at ddwyrain yr ardal mae yna nifer o frigiadau calchfaen a gloddiwyd yn eang yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif. Daeth y garreg ar gyfer morglawdd 'Freething' yn Nhalacharn o'r chwareli hyn (James n.d.)

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae hwn yn stribed cul o glogwyn arfordirol sy'n codi i dros 90m. Mae'n cynnwys Calchfaen Carbonifferaidd yn rhannol. Yn yr ardaloedd calchfaen hyn mae yna dystiolaeth sylweddol o gloddio a phrosesu calchfaen, gan gynnwys olion odynau calch sylweddol o'r 18fed a'r 19eg ganrif, a'r llethrau a'r llithrfeydd a ddefnyddiwyd i fynd â'r calchfaen i'r blaendraeth i'w gludo ar draws aber Taf ar gyfer morglawdd 'Freething' yn Nhalacharn. Mae'r unig elfen arall o dirlun hanesyddol yn cynnwys clwstwr bach o goetir collddail ?hynafol ar y llethrau llai serth ym mhen gorllewinol yr ardal. Ar wahân i'r olion Rhufeinig, mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi'i chyfyngu i nodweddion chwarelyddol. Ni cheir unrhyw adeiladau yma. Mae'r llethrau serth, sy'n fertigol yma ac acw, yn yr ardal hon yn gwahanu aberoedd Taf a Thywi oddi wrth y ffermdir pantiog i'r gogledd. Mae hon, felly, yn ardal tirlun hanesyddol hynod iawn.