TWYNI TYWOD TALACHARN A PHENTYWYN
CYFEIRNOD GRID: SN 280074
ARDAL MEWN HECTARAU: 730.60
Cefndir Hanesyddol
Ardal o dwyni tywod o flaen Mignen Talacharn, a ddechreuodd ffurfio fwy
na thebyg yn yr ail fileniwm CC megis ardaledd arfordirol eraill De Cymru
(Higgins, 1933). Mae'r ffaith i domenni cregyn gael eu darganfod yn y
twyni, sydd, mae'n debyg, yn gysylltiedig â chanfyddiadau cynhanesyddol,
yn ategu dyddiad cynnar ar gyfer mewnlifiad o dywod (Cantrill, 1909).
Gorweddai'r twyni o fewn Arglwyddiaeth Talacharn yn ystod y cyfnod Canoloesol,
ond prin oedd eu defnydd economaidd. Mae'r system bresennol o gadwyn ddi-dor
o dwyni o Bentywyn hyd at aber Taf yn gymharol fodern. Dangosodd Terry
James (1991, 148-51) fod Nant Witchett wedi agor drwy'r twyni mor hwyr
â'r 1830au, pan adeiladwyd argae a thy injan ar ei thraws. Ers yr Ail
Ryfel Byd defnyddiodd sefydliad ymchwil y Weinyddiaeth Amddiffyn y twyni
ar gyfer profion, ac mae llawer o beirianweithiau wedi'u hadeiladu yn
eu mysg.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae hon yn system eang iawn o dwyni tywod, sy'n ymestyn dros 9km o Bentywyn
yn y gorllewin hyd at aber Taf yn y dwyrain. Mae rhwng 1km a 1.5km o led
rhwng Talacharn a'r Nod Penllanw. Mae elfennau'r tirlun hanesyddol wedi'u
cyfyngu i'r cyfnod modern ac yn cynnwys llawer o beirianweithiau, adeiladau
a llwybrau sy'n gysylltiedig â sefydliad ymchwil y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Yn yr un modd, mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud â'r
Weinyddiaeth Amddiffyn a'r systemau draenio Ôl-ganoloesol, ond mae safle
anheddiad posibl, o ddyddiad anhysbys (cynhanesyddol?) a nifer o ddarganfyddiadau
a thomenni.
Mae'r adeiladau nodweddiadol wedi'u cyfyngu i adeiladweithiau
diweddar y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae hon yn ardal tirlun hynod ac mae'n gwahanu traeth Pentywyn
a'r blaendraeth i bob pwrpas oddi wrth yr ardal i'r gogledd.
|