Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

MIGNEN ADFEREDIG DYFFRYN TAF

CYFEIRNOD GRID: SN 310127
ARDAL MEWN HECTARAU: 245.40

Cefndir Hanesyddol
Mae hon yn ardal tirlun eithaf eang yn cynnwys sawl darn ar wahn o hen forfa heli ar ddwy ochr Aber Taf, ond yn bennaf i'r dwyrain. Mae'n amlwg bod y corstir wedi ffurfio erbyn y cyfnod Canoloesol pan oedd o fewn Arglwyddiaethau Talacharn i'r dwyrain, Osterlow yn y canol a San Clr i'r gorllewin, sef tiroedd a ddaliwyd o dan ddeiliadaeth faenoraidd yn bennaf. Adwaenwyd rhan ddwyreiniol yr ardal, Mignen Mwche, fel 'Mundegy Marsh' yn y cyfnod Canoloesol pan oedd ei werth economaidd yn deillio yn bennaf o'r fferi i Dalacharn a barhaodd i weithio tan yr 1950au (James n.d.). Tua 1214 rhoddodd Rhys ap Gryffydd ran ddwyreiniol yr ardal hon i'r Abaty Sistersaidd yn Hendy-gwyn ar Daf, fel rhan o Blasty Osterlow (Williams, 1990), ond fwy na thebyg bu'n dir ymylol erioed, tra ymddengys bod pen gogleddol yr ardal yn dir comin ym mwrdeistref San Clr. Ar l diddymiad yr abaty ym 1539, daeth ystadau Hendy-gwyn ar Daf, gan gynnwys Osterlow, i feddiant Syr John Perrot (Benson, 1996). Priododd ei fab, Thomas Dorothy, chwaer iarll Essex, a phriododd eu merch, Penelope, Syr William Lowther, seryddwr adnabyddus, a fu farw yn Nhrefenty ym 1615 (ibid.). Mae'n debygol bod ystad Trefenty yn cwmpasu tiroedd yr hen blasty blaenorol. Trosglwyddwyd yr ystad wedyn i'r teulu Drummond, ac yn eu prydlesi tir o ddiwedd y 17eg ganrif cofnodir adeiladu morgloddiau a chau'r morfa heli yn rhan gorllewinol Ardal 146, o amgylch ceg Afon Cywyn (ibid.). Adeiladwyd y morglawdd ar draws Mignen Mwche, i'r dwyrain, yn fuan ar l 1812 o dan y teulu Morris o Gaerfyrddin a Llansteffan, y daeth Fferm Mwche i'w meddiant ym 1791 (James n.d.). Dengys mapiau degwm o'r 1840au y morgloddiau a'r darnau amgaedig hyn o dir yn glir (Llandeilo Abercowin, Llansteffan, Plwyf Talacharn).

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r ardal hon yn cynnwys hen forfa heli gynt sydd heb ei amgu ac sy'n gorwedd ychydig uwchben lefel y mr, a ddatblygodd erbyn y cyfnod Canoloesol. Heb eu hamgu yn flaenorol, amgaewyd ardaloedd mwyaf y fignen o ddiwedd yr 17eg ganrif ymlaen gan forgloddiau isel, sy'n wrthgloddiau isel bellach, ac maent wedi'u draenio a'u rhannu'n 'gaeau' gan ffosydd. Mae gwrychoedd prysglog yn rhedeg ar hyd ymyl rhai o'r ffosydd, ond nid yw'r rhain bellach yn cadw anifeiliaid allan ac mae ffensys gwifrau yn derfynau ychwanegol. Mae morfa heli wedi parhau i ddatblygu y tu allan i'r morgloddiau, mewn rhai achosion i dros 100m. Y defnydd pennaf a wneir o'r tir yw ar gyfer pori garw yn yr haf ac nid oes unrhyw aneddiadau, na choetir, yn yr ardal hon.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys yn bennaf yr amddiffynfeydd yn erbyn llifogydd a grybwyllwyd uchod a'r pympiau cysylltiedig ac ati.

Ceir rhai adeiladau, ond nid yw'r un ohonynt yn nodweddiadol. Maent yn cynnwys pontydd carreg l-ganoloesol dros Afon Cywyn a Nant Degi, adeilad ty fferi bach yn Black Scar Point a dwy odyn galch gyfagos.

Ardal tirlun hanesyddol hynod gyda ffiniau clir 'r ardaloedd cyfagos. Ym mhob ochr tua'r tir, mae'r tir yn codi'n dirlun o fryniau pantiog, caeau a ffermydd.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]