|
PLWYF TALACHARN, PENTYWYN A LLANDDOWROR
CYFEIRNOD GRID: SN 280115
ARDAL MEWN HECTARAU: 2528.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal tirlun hanesyddol fawr iawn yn cynnwys y rhan fwyaf o hanner dwyreiniol
Arglwyddiaeth Ganoloesol Talacharn, ac wedi'i lleoli yn Nhalacharn, Llan-dawg,
Llanddowror, Llansadyrnin a Phentywyn Mae'r darn mwyaf yn cynnwys plwyf
Talacharn a oedd, yn yr ardal hon, yn rhannol yn dir comin, yn y cyfnod
Canoloesol. Ym 1278-82 rhoddodd Syr Guy de Brian dir comin am ddim i fwrdeisiaid
Talacharn mewn tiroedd i'r gogledd o'r dref bron hyd at San Clêr (Williams,
n.d; Davies, 1955). Fodd bynnag, mae'n glir o Inquisition post Mortem
ym 1307 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru 10118E Cyf.1) fod Syr Guy wedi cadw
tir âr a thiroedd eraill o fewn y plwyf ar gyfer demên Talacharn. Enwir
nifer o lefydd a thenantiaid, er nad yw ffurf yr anheddiad a'r system
caeau a ddefnyddiwyd yn hysbys. Mae'n debygol bod aneddiadau yn y 13eg
a'r 14eg ganrif yn cynnwys cnewyllyn bach neu glystyrau rhydd wedi'u lleoli
mewn caeau o dir âr a rannwyd, wedi'u hamgylchynu a'u gwahanu gan dir
comin. Goroesodd ardal fechan o dir comin yn Broadmoor/Morfa Uwch ym 1842
(map degwm Talacharn), ond roedd yn amlwg y tresmaswyd arno gan sgwatwyr,
ac fe'i lleihawyd yn sylweddol o ran maint. Roedd peth tir ger Talacharn
ym amlwg yn cynnwys caeau agored neu stribedi; mae caeau modern ym Mryn
Syr John yn adlewyrchu'r system gynnar hon a cheir nifer o gyfeiriadau
at greu caeau o stribedi mewn dogfennau o'r 16eg a'r 17eg ganrif yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru. Mae'n debygol bod ffermydd newydd, ynysig wedi'u creu
wrth gefnu ar y systemau caeau agored. Ffermiwyd plwyf Llansadyrnin yn
yr un modd yn ôl y system caeau agored, a rhoddwyd y gorau yn derfynol
i'r system ar ddiwedd y 18fed ganrif neu hyd yn oed ar ddechrau'r 19eg
ganrif, yn ôl ffynonellau llawysgrifol. Nid oes unrhyw dystiolaeth o system
o'r fath yn y tirlun modern. Yn y 19eg ganrif lleolwyd clwstwr llac o
ffermydd o amgylch eglwys Sant Sadwrnen; yn sefydliad posibl o'r Oesoedd
Tywyll, mae'r eglwys bresennol yn dyddio o 1859 (Ludlow, 1998). Ar sawl
ystyr, mae Pentywyn yn debyg i Lansadyrnin, er bod ffynonellau dogfennol
yn awgrymu bod llwyrfeddiant ac amgáu'r system caeau agored bron yn gyflawn
erbyn y 18fed ganrif. Gallai'r ddeiliadaeth sydd bellach ym meddiant Great
House Pentywyn fod yn ganoloesol - y tenant cyntaf y ceir cofnod ohono'n
byw yno oedd William Barret ar ddechrau'r 16eg ganrif (Jones 1987, 147),
ond saif y ty gerllaw eglwys y plwyf Santes Margaret, sydd ag elfennau
yn dyddio o'r 12fed ganrif (Ludlow, 1998). Nid yw'n bosibl pennu hyd a
lled unrhyw anheddiad canoloesol cysylltiedig, ond yn y 19eg ganrif roedd
clwstwr llac o ffermydd ac anheddau eraill wedi'u lleoli o amgylch yr
eglwys gan adlewyrchu o bosibl hen batrwm o anheddu. Mae eglwys anghysbell
Sant Odoceus yn Llan-dawg yn dyddio o'r Oesoedd Canol, ac mae'n bosibl
iddi gael ei sefydlu yn yr Oes Dywyll. Ym 1840 (map degwm) roedd Llan-dawg
yn blwyf bach gydag un ddeiliadaeth tir. Mae'r hyn a ymddengys yn stribedi
amgaeëdig ar y map degwm, gan nodi presenoldeb blaenorol system caeau
agored. Mae'r dyddiad yr amgaewyd system o'r fath a'r patrwm anheddu cyn
y cyfnod modern yn hollol anhysbys. Yn wahanol i'r uchod a leolwyd yn
gyfan gwbl o fewn Arglwyddiaeth Talacharn yn y cyfnod Canoloesol, roedd
Llanddowror yn arglwyddiaeth ar wahân (Rees, 1932), a all adlewyrchu'r
rhannu tir a ddigwyddodd cyn y goresgyniad. Yn ddiau mae cysegru'r eglwys
i Sant Teilo (neu Cringat) gan awgrymu iddi gael ei sefydlu cyn y goresgyniad.
Roedd anheddiad cnewyllol o amgylch yr eglwys mewn bodolaeth erbyn canol
y 19eg ganrif, sef anheddiad a adfywiwyd drwy adeiladu ffordd dyrpeg ar
ddiwedd y 18fed ganrif. Nid ymchwiliwyd i dystiolaeth ddogfennol am fodolaeth
system caeau agored yn Llanddowror, ac er bod tystiolaeth gwirioneddol
yn y tirlun modern yn dangos bod system o'r fath wedi'i defnyddio, mae'r
dyddiad y cafodd ei amgáu yn anhysbys. Prin iawn yw'r newidiadau i gymeriad
hanfodol yr ardal hon o dirlun hanesyddol ers y gwnaed yr arolygon ar
gyfer mapiau ystadau ar ddiwedd 18fed ganrif, a mapiau degwm o tua 1840.
Adeiladwyd anheddau modern, ond am fod y rhain naill ai wedi'u gwasgaru
ar draws y tirlun gan ddilyn patrwm hen ffermydd sefydledig, neu wedi'u
grwpio ynghyd yn aneddiadau lled-gnewyllol Pentywyn, Llanddowror a Llansadyrnin,
maent yn tueddu i bwysleisio patrymau hanesyddol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol Mae hon yn ardal
fawr iawn sy'n ymestyn o ychydig fetrau uwchlaw lefel y môr ar ei chyrion
deheuol yn Brook i dros 150m ar ei phwynt uchaf. Mae'n cynnwys bryniau
pantiog, gyda dyffrynnoedd dwfn rhychog yma ac acw. Mae coetir collddail
yn gorchuddio ochrau mwyaf serth y dyffrynnoedd, ac mae o leiaf rhan ohono
yn hynafol, yn gymysg â rhai planhigfeydd coniffer bach. Fodd bynnag,
nodwedd pennaf yr ardal hon yw tir pori amgaeëdig gyda phatrwm anheddu
o ffermydd gwasgaredig a phentrefi bach. Mae'r caeau yn afreolaidd o ran
eu siâp ac yn bennaf o faint bach neu ganolig, er bod darnau mwy o dir
amgaeëdig ar lefelau uwch. Mae'r ffiniau'n amrywio o ran eu dyddio ac
maent yn cynnwys gwrychoedd ar wrthgloddiau, gyda muriau o forter yn achlysurol
iawn. Mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da ac yn gyffredinol yn cadw anifeiliaid
allan ac yn amrywio o rai sy'n cael eu trin yn ofalus a rhai sy'n tyfu'n
wyllt. Mae coed nodweddiadol yn y gwrychoedd mewn rhai ardaloedd, ac mae'r
rhain ynghyd â'r gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt a'r clystyrau bach
o goetir yn rhoi ymddangosiad coediog i ardaloedd penodol o'r ardal hon.
Dim ond ar y lefelau uwch y collwyd rhai gwrychoedd, ond nid yw hyn yn
ddifrifol ac mae gwifrau yma yn cadw anifeiliaid allan. Ym mhentrefi Pentywyn,
Llansadyrnin a Llanddowror mae'r anheddu wedi'i glystyru o amgylch yr
eglwysi. Mae anheddau hyn yn cynnwys ffermydd a bythynnod mewn amrywiaeth
o arddulliau a deunyddiau yn dyddio'n bennaf o'r 18fed a'r 19eg ganrif
ac ychwanegwyd anheddau diweddarach mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau
yn yr 20fed ganrif. Fodd bynnag, nid yw datblygiad modern wedi cymryd
y pentrefi hyn drosodd yn llwyr. Ffermydd mawr yma ac acw ar draws y tirlun
a welir yn bennaf yn yr anheddiad amaethyddol. Mae ffermdai yn dyddio
yn bennaf o'r 19eg ganrif ac maent wedi'u hadeiladu o garreg, yn aml gyda
rhes o dai allan o garreg yr ychwanegwyd adeiladau ffermydd modern atynt
yn ddiweddar. Adeiladwyd anheddau modern, ond heb fod yn rhy amlwg, a
Cross Inn yw'r unig glwstwr sylweddol o dai y tu allan i'r pentrefi hanesyddol.
Mewn ardal mor fawr mae'r archeoleg yn gyfoethog ac amrywiol,
a chynrychiolir y rhan fwyaf o'r cyfnodau. Mae yna nifer o feini hir,
a safleoedd meini hir posibl, safleoedd anheddiad o'r Oes Haearn, aneddiadau
Canoloesol, eglwysi a melinau, a nifer mawr o fythynnod a ffermydd Ôl-ganoloesol.
Mae'r adeiladau wedi'u hadeiladu yn bennaf o garreg gyda
thoeon llechi. Mae eglwysi Canoloesol Llan-dawg a Phentywyn, sydd ag elfennau
canoloesol iddynt yn rhestredig ar Radd II, tra bod eglwys Llanddowror
yn rhestredig ar Radd B. Fodd bynnag, mae adeiladau nodweddiadol yn gymharol
anghyffredin, ac ychydig o dai bonedd a geir. Mae Great House Pentywyn,
gyda cholofnau ar y gatiau, yn rhestredig ar Radd II, ac yn ôl pob tebyg
mae'n dyddio o'r 17eg ganrif, gydag addasiadau diweddarach. Mae yna 10
o adeiladau rhestredig eraill, i gyd ar Radd II ac yn bennaf yn rhai amaethyddol,
ar wahân i un ciosg K6.
I'r de, y de orllewin a'r dwyrain mae nifer o ardaloedd
tirlun â nodweddion gwahanol iawn yn ffiniau pendant. I'r de orllewin
mae rhostir agored Mynydd Marros a llethr arfordirol serth. I'r de mae
datblygiad modern ym Mhentywyn a Llanmiloe, llinell glogwyn hynod goediog,
greiriol neu fignen adferedig. I'r dwyrain mae tref Talacharn a'r systemau
caeau agored a oroesodd neu rai amgaeëdig. Mae'r ffiniau mewn mannau eraill
yn fwy o broblem, gan nad oes unrhyw derfyn clir - yn gyffredinol i'r
gogledd a'r gorllewin mae'r tirlun yn llai cyson, gyda maint y caeau yn
amrywio ond maent yn tueddu i fod yn fawr ac yn rheolaidd o ran eu siâp,
ac mae'r anheddu yn fwy gwasgaredig.
|