Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

YR HUGDEN

CYFEIRNOD GRID: SN 290104
ARDAL MEWN HECTARAU: 66.86

Cefndir Hanesyddol
Ardal o dir a ddaliwyd o dan ddeiliadaeth faenoraidd Arglwyddiaeth Ganoloesol Talacharn. Ym 1278-82 rhoddodd Syr Guy de Brian, Arglwydd Talacharn, diroedd penodol, gan gynnwys 'Yr Hugden', i fwrdeisiaid Talacharn (Williams, n.d.). Ffermiodd y bwrdeisiaid Yr Hugden gan ddefnyddio'r system caeau stribed neu agored. Mae'r system hon o ffermio wedi parhau hyd heddiw ac fe'i disgrifiwyd gan Davies (1955). Byddai stribedi o dir wedi'u neilltuo yn flynyddol i fwrdeisiad Talacharn a Llansadyrnin, ond erbyn 1842 daeth yr arfer hon i ben a chyfunwyd y stribedi i 20 cyfran y byddai pob bwrdeisiad yn eu dal am oes. Telir un swllt yn flynyddol am bob cyfran i Gorfforaeth Talacharn; ar gyfartaledd mae un gyfran yn 7-9 erw ac yn cynnwys 5-12 stribed. O fewn pob cyfran ceir un prif stribed ar draws copa Yr Hugden a nifer o stribedi ategol ar lethrau is, sydd weithiau'n serth. Rhennir y stribedi gan drumiau pridd a elwir yn landsgar neu landsger. Ers 1842 sefydlwyd gwrych gan rannu'r brif gyfran yn ddwy.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Yn ei hanfod mae'r Hugden yn fryn crwn heb ei amgŠu lle yr arferir dull o ffermio caeau agored. Mae'r bryn yn codi o 50m ar ei lethrau deheuol i dros 110m ar ei bwynt uchaf. Yn y gorffennol ymgymerwyd ‚ ffermio tir ‚r. Nifer o flynyddoedd yn Űl cafodd rhai o'r stribedi ar y tir eu haredig, ond ni nodwyd unrhyw un ohonynt o dan y dull hwn o amaethu ym 1999. Defnyddir y stribedi bellach ar gyfer gwair ac er mwyn cadw gwartheg dros y gaeaf. Lleolir y stribedi hiraf a lletaf o fewn y cae dros gopa'r bryn; nodwyd y rhain yn aneglur ar y tir. Mae ffiniau mwy pendant i'r stribedi llai ar lethrau'r bryn ac mae trumiau pridd rhwng stribedi i'w gweld yn glir, yn arbennig lle y bŰnt ar lethrau serth neu ar draws llethrau. Yn yr enghraifft olaf maent yn ffurfio glasleiniau sydd dros 1m o uchder ac yn gyforiog o brysgwydd neu eithin mewn rhai esiamplau. Rhoddwyd y gorau i stribedi llai ffafriol ac maent bellach yn brysgwydd a rhedyn. Ceir un gwrych o'r 19eg ganrif ar lethr isel ar draws copa'r bryn, ond caiff yr Hugden ei wahanu oddi wrth y ffermdir amgaeŽdig cyfagos gan wrychoedd pellach ar lethrau sy'n perthyn i'r ardal tirlun hanesyddol o'i amgylch. Nid oes unrhyw ardaloedd coediog yma. Mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi'i chyfyngu i nodweddion amaethyddol. Nid oes unrhyw adeiladau yma. Mae'r system caeau agored hon yn ardal tirlun hanesyddol hynod ag iddi ffiniau pendant. O'i chwmpas ceir tir amgaeŽdig.

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]