TREF TALACHARN A BROADWAY CYFEIRNOD GRID: SN 301108 Cefndir Hanesyddol Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol Mae tref fechan Talacharn wedi'i chanoli ar y castell Canoloesol. Mae'r adeiladwaith hwn yn tra-arglwyddiaethu'r blaendraeth a'r dref. Un o nodweddion allweddol y dref yw'r adeiladau ysblennydd o garreg a stwco o'r 18fed a'r 19eg ganrif sydd ar hyd Stryd y Brenin, gan orffen yn neuadd y dref a Thy'r Castell. Mae'r tai yn y strydoedd eraill yn tueddu i fod yn llai mawreddog, ond er hynny mae'r bythynnod o garreg a'r rhesi o dai teras, sydd fel arfer wedi'u eu rendro a'u paentio'n lliw, gyda thoeon talcen llechi yn sicrhau arddull unffurf. O fewn y craidd hanesyddol mae tai mwy diweddar yn fwy dinod o ran cymeriad, ac yn cynnwys anheddau unigol neu ystadau bach. Mae datblygiadau mwy o faint yn Broadway yn cynnwys ystad o dai cyngor yn edrych dros y dref i'r de, ag ysgol gerllaw, a chlwstwr o anheddau mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau. Saif eglwys Sant Martin, adeiladwaith croesffurf o ganol y 15fed ganrif, i'r gogledd o'r dref gyda chlwstwr llac o dai o'r 19eg ganrif yn bennaf. Cysyllta datblygiad hirgul o'r 20fed ganrif yr ardal hon â'r brif dref. Mae datblygiad y diwydiant twristiaid yn cynnwys canolfan wyliau fawr o gabanau yng Nglan-y-môr, maes carafanau yn Ants Hill a gweithfeydd llai amlwg yn gysylltiedig â Thy Cychod Dylan Thomas a Chastell Talacharn. Mae'r archeoleg a gofnodwyd o fewn y dref yn ymwneud â'i hanes Canoloesol yn bennaf - y castell, yr eglwys, muriau'r dref a safle'r felin, a'i hadeiladwaith domestig Ôl-ganoloesol. Fodd bynnag, ceir darn amgaeëdig o dir o'r Oes Haearn yng Nglan-y-môr, a nodwyd yr Heneb Gristnogol Gynnar a'r fynwent gist yn yr eglwys. Prin oedd y diwydiant Ôl-ganoloesol ond mae odyn galch ar y blaendraeth a gefail yn Broadway. Mae gan y fferm o ddiwedd yr Oesoedd Canol yng Nghastell Roche dalwrn Ôl-ganoloesol cysylltiedig. Nodwyd natur nodweddiadol nifer o adeiladau Talacharn. Yn ogystal â'r castell, sy'n Heneb Restredig, ac yn cynnwys dau adeilad rhestredig ar Radd I ac adeilad rhestredig ar Radd II, mae yna 51 o adeiladau rhestredig eraill, i gyd ar Radd II neu II*; maent yn bennaf o'r 18fed ganrif ac yn adeiladau domestig, sy'n cynnwys neuadd y dref a'r eglwys ganoloesol hefyd.
|