DELACORSE
CYFEIRNOD GRID: SN 303116
ARDAL MEWN HECTARAU: 115.20
Cefndir Hanesyddol
Ardal yn union i'r dwyrain ac i'r gogledd o dref Talacharn, a orweddai
o fewn Arglwyddiaeth Ganoloesol Talacharn ac a ddaliwyd o dan ddeiliadaeth
faenoraidd. Yn ôl pob tebyg cafodd ei gynnwys pan roddwyd tir i fwrdeisiaid
Talacharn gan Syr Guy de Brian ym 1278-82 (Williams, n.d.) ac fe'i ffermiwyd
gan fwrdeisiaid Talacharn o dan y system caeau agored. Mae'n debyg bod
y system hon wedi'i defnyddio drwy gydol y cyfnod Canoloesol ond roedd
yn dod i ben erbyn y cyfnod modern cynnar, gan fod dogfennau sy'n dyddio
o ddiwedd y 16eg a'r 17eg ganrif yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at greu
amgaefeydd o fewn Cae Dwyreiniol Talacharn. Nid yw'n eglur pam yr addaswyd
Cae Dwyreiniol yn ddarnau tameidiog o dir amgaeëdig tra bod Yr Hugden
(Ardal 148) wedi parhau'n system caeau agored, ac y cafodd caeau agored
tybiedig eraill eu llwyrfeddiannu a'u rhannu'n ddarnau mawr o dir amgaeëdig
rheolaidd o ran eu siâp. Beth bynnag y bo'r rheswm dros hynny, creodd
y darnau amgaeëdig hyn o dir tameidiog batrwm arbennig o gaeau hir crymion
sy'n adlewyrchu patrwm y stribedi o fewn y system caeau agored Canoloesol.
Mae'n debygol bod y ddwy fferm yn yr ardal hon, sef Delacorse a Maesyderi,
wedi'u creu wrth i'r system caeau agored drawsnewid i'r hyn ydyw heddiw.
Sefydlwyd bythynnod, aneddiadau sgwatwyr posibl, yn y 18fed neu'r 19eg
ganrif ar y llethrau serth sy'n edrych dros aber Taf. Cefnwyd ar y rhain
bellach ac mae'r llethrau'n goediog iawn.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ardal fach yn cynnwys caeau stribed neu agored amgaeëdig yn gorwedd
ar lechweddau o dir pori ar oleddf graddol sy'n amrywio mewn uchder o
25m i 100m bron. Mae'r caeau yn adlewyrchu'r stribedi blaenorol ac maent
yn cynnwys darnau amgaeëdig o dir hir crymion, er bod rhai wedi uno'n
gaeau mwy hirsgwar, rheolaidd o ran eu siâp ers yr 19eg ganrif. Gwrychoedd
ar wrthgloddiau yw'r ffiniau. Mae ychydig o goed nodweddiadol yn y gwrychoedd,
ond ar wahân i goetir eilaidd ar lethrau arfordirol serth, sy'n cuddio'r
bythynnod y cefnwyd arnynt yn y ganrif ddiwethaf, nid oes yna dir sylweddol
wedi'i blannu â choed yn yr ardal hon. Mae'r ffermdai wedi'u hadeiladu
o garreg â thoeon llechi arnynt, ac mae tai allan iddynt; mae gan Faesyderi
dai allan modern.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys maen hir a charreg
ag arysgrif arni o gyfnod Cristnogol Cynnar posibl.
Ychydig o adeiladau nodedig sydd yno ond mae gan Mapsland
ffermdy ar byst dwbl o gyfnod Sioraidd diweddar, yn rhestredig ar Radd
II.
Mae patrwm y caeau yn yr ardal hon yn ei gwahaniaethu oddi
wrth y tir amgaeëdig o'i chwmpas.
|