LAQUES CYFEIRNOD GRID: SN 332106 Cefndir Hanesyddol
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol Gorwedd yr ardal fach hon o dirlun hanesyddol rhwng cydlifiad Afonydd Tywi a Thaf ac yn ei ffurf bresennol mae'n Ôl-ganoloesol. Mae'n codi o lefel y môr yn dirlun o fryniau a phantiau sy'n cyrraedd uchafswm uchder o dros 130m. Mae'r rhan fwyaf o'r tir yn cael ei ffermio, a'r rhan fwyaf ohono yn dir pori wedi'i wella. Ceir clystyrau bach o goetir collddail hynafol ar lethrau serth, ond ar wahân i'r rhain mae'n dirlun agored iawn. Mae'r caeau yn tueddu i fod rhwng maint canolig a rheolaidd, yn arbennig ar lefelau uwch, gyda therfynau o wrychoedd ar wrthgloddiau. Mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da; ychydig sydd wedi tyfu'n wyllt, a phrin yw'r coed nodweddiadol yn y gwrychoedd. Ffermydd ar wasgar yw'r patrwm anheddu. Ymhlith yr archeoleg a gofnodwyd, yn ogystal â'r nodweddion tirlun Canoloesol ac Ôl-ganoloesol a nodwyd uchod, mae darganfyddiadau Neolithig ym Mhentywyn, dau faen hir posibl o'r Oes Efydd, dwy fryngaer bosibl o'r Oes Haearn. Ceir rhai adeiladau hynod ond ni restrwyd yr un ohonynt. Mae'r ffermydd yn anheddau cerrig sylweddol â thoeau llechi, yn y traddodiad Sioraidd, â chyfres o dai allan cerrig fel arfer yn ogystal ag adeiladweithiau modern; ac eithrio Laques, sydd â nodweddion Jacobeaidd o hyd ond a gafodd ei ymestyn ar ôl 1747 (Jones 1987, 97). Mae yma hefyd fythynnod Ôl-ganoloesol ac ysgol. I'r de mae clogwyni'r môr/llethr arfordirol yn ffiniau eithriadol o bendant i'r ardal hon. Yn yr un modd mae'r terfynau'n bendant i'r gorllewin yn erbyn morfa heli adferedig, ac i'r dwyrain yn erbyn pentref Llansteffan. I'r gogledd nid yw'r union derfyn rhwng y tirlun hanesyddol hwn a'r ardal gyfagos o stribedi caeau amgaeëdig mor bendant, ond serch hynny mae'r ddwy ardal nodwedd hon yn hynod.
|