Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

LLAIN-GAEAU LLAN-Y-BRI A LLANSTEFFAN

CYFEIRNOD GRID: SN 343120
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 427.60

Y Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal yn cynnwys rhan sylweddol o blwyf Llansteffan i’r gogledd-orllewin o bentref Llansteffan ac o amgylch cnewyllyn bach Llan-y-bri. Cawsai Llansteffan ei sefydlu’n faenor Eingl-Normanaidd, ac yn gapwt cwmwd ac Arglwyddiaeth Penrhyn, erbyn canol y 12fed ganrif. Bu’n blwyf yn ystod yr Oesoedd Canol, pryd y cychwynnodd hen gapeliaeth Mair yn Llan-y-bri fel capel anwes (Ludlow, 1998). Prif nodwedd y dirwedd bresennol yw patrwm o gaeau sy’n tueddu i fod yn hir a chul ac â therfynau crwm. Mae’r rhain i’w gweld amlaf yn ne-orllewin a gogledd-ddwyrain Llan-y-bri ac yn gynnyrch ffosileiddio llain-gaeau agored o’r cyfnod ar ôl y 12fed ganrif, a hynny o fewn terfynau’r caeau a sefydlwyd yn yr 17eg a’r 18fed ganrif o dan deuluoedd bonheddig megis teulu Lloyd Llansteffan a Laques. Felly, mae modd cyferbynnu’r dirwedd â thirwedd. Ardal 152 lle bu i’r amgáu ôl-ganoloesol, o dan yr un tirfeddianwyr, ddileu holl olion y cyfundrefnau maes cynharach. Yr oedd Llan-y-bri yn faenor ddemên i Arglwyddi Llansteffan a Phenrhyn ac mae’n ymddangos iddi fod yn gnewyllyn cynnar o amgylch man agored canolog wrth ymyl capel a gysegrwyd i’r Forwyn Fair ac a gawsai ei sefydlu, fel ‘Morabrichurch’, erbyn y 14eg ganrif o leiaf (Rees, 1932) ac a alwyd, yn yr 16eg ganrif, yn ‘Marbell Church’ (RCAHM, 1917, 197). Fe all mai tarddu o’r Oesoedd Canol wnaeth darn o dir comin yn y pentref. Melin Pendegy, sydd rhyw 700m i’r gorllewin o’r pentref, yw safle Melin Ganoloesol ‘Mundegy’. Yn ôl Rees (1932), bwrdeistref oedd Llan-y-bri, ac er bod hynny’n annhebygol iawn, yr oedd yr anheddiad ar gyffordd saith llwybr. I’r dwyrain o’r ardal hon mae glanfa fferi Llansteffan, fferi a gychwynnwyd o bosibl cyn y Goncwest Normanaidd (Davies, 1989, 27) ac a groeswyd ‘mewn cwch’ gan Gerallt Gymro ym 1188 (Thorpe, 1978, 138).

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
O ran nodweddion ei thirwedd hanesyddol, mae’r ardal yn cynnwys cyfundrefn o hen lain-gaeau amgaeedig ar draws cyfres o fryniau tonnog sy’n codi i ryw 100m yn ymyl pentref Llan-y-bri ac yn rhedeg i lawr i lefel y môr ger aberoedd Taf a Thywi. Caiff y rhan fwyaf o’r tir ei ffermio; tir pori wedi’i wella yw’r rhan helaethaf ohono, ond ceir ychydig o dir âr. Ar y llethrau serth ceir clystyrau bach o goetir collddail, ond nid yw coed yn gyffredin, a thirwedd agored sydd yma gan mwyaf. Mae’r aneddiadau’n cynnwys pentref bach Llan-y-bri a ffermydd gwasgaredig. Dyblu neu dreblu maint yr anheddiad yw hanes llawer o’r datblygiadau preswyl diweddar mewn amrywiaeth o arddulliau a defnyddiau ar ymylon y craidd hanesyddol. Gan amlaf, mae’r ffermydd gwasgaredig wedi’u codi o feini ac mae ganddynt amrywiaeth o dai allan o feini neu dai allan modern. Saif y ffermydd hyn mewn tirwedd o gaeau bach ac afreolaidd eu ffurf. Ar fapiau hanesyddol ac mewn rhai mannau ar lawr gwlad, mae modd gweld y lleiniau amgaeedig yn y gyfundrefn fodern o gaeau, ac mae’n amlwg bod y gyfundrefn fodern wedi deillio o gyfundrefn o gaeau agored. Ar y llethrau serth i’r gogledd a’r dwyrain o Lan-y-bri ac i’r gorllewin o Lansteffan y mae’r lleiniau amgaeëdig wedi goroesi orau. Dros y degawdau diwethaf, gwelwyd tuedd ar y tir mwy gwastad i uno’r lleiniau amgaeedig yn gaeau mwy eu maint a mwy rheolaidd eu ffurf, ac mae’n fwy anodd canfod presenoldeb hen gyfundrefn maes agored yno. Gwrychoedd a pherthi arnynt yw terfynau’r caeau. Er bod y gwrychoedd mewn cyflwr da ar y cyfan, maent yn gordyfu ar rai o’r llethrau serth i’r gogledd o Lan-y-bri, ac i’r gorllewin o Lansteffan mae rhai ohonynt yn troi’n ddiffaith.

Ymhlith y nodweddion cynharaf yn y dirwedd mae maen hir cofrestredig o’r Oes Efydd, a elwid yn yr Oesoedd Canol yn ‘Welsh Cross’ (Rees, 1932). Ceir o leiaf un maen hir arall, a dau grug crwn. Efallai fod maen arysgrifenedig wedi’i gofnodi mewn enw lle yn Llan-y-bri, ac mae ffynnon sanctaidd i’r de-ddwyrain o’r pentref.

Ymhlith yr adeiladau arbennig mae: capel canoloesol Mair, sydd wedi’i restru’n adeilad Gradd II ac sydd â thwr gorllewinol isel o’r 16eg ganrif ond sy’n adfail ers 1917; Eglwys y Drindod Sanctaidd a godwyd yn y 19eg ganrif; a chapel anghydffurfiol. Mae craidd yr anheddiad yn cynnwys ffermydd, tai a bythynnod a godwyd o feini yn ystod y 19eg ganrif, mae’n debyg, ynghyd ag adeilad a arferai fod yn hen dafarn ac efail; ymhlith yr adeiladau eraill mae melin Pendegy, pont, ffermydd a bythynnod.

Mae nodweddion tirwedd hanesyddol yr ardal yn debyg i rai’r ardal i’r de ohoni. Ceir yno ffermydd gwasgaredig a chaeau canolig eu maint, ac er mai prosesau hanesyddol gwahanol sydd wedi helpu i ffurfio’r ddwy ardal, nid yw’r ffin rhyngddynt yn rhyw bendant iawn. Yr un diffyg pendantrwydd sydd i’r ffin rhwng yr ardal hon a’r ardal i’r gogledd ohoni, a’r ardal i’r gogledd-ddwyrain ohoni. Mae’r morfa heli a adferwyd yn derfyn da yn y gorllewin, ac mae pentref Llansteffan yn derfyn pendant yn y dwyrain.


 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]