Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

TREFENTY

CYFEIRNOD GRID: SN 296154
ARDAL MEWN HECTARAU: 832.80

Cefndir Hanesyddol
Ardal sy'n cynnwys y rhan fwyaf o hanner deheuol Arglwyddiaeth Ganoloesol Ystlwyf a orweddai'n bennaf rhwng Afonydd Cynin a Chywyn, ac a oedd yn gyffiniol yn fras ‚ phlwyf Llanfihangel Abercywyn. Roedd canolfan ffiwdal yr arglwyddiaeth yn Nhrefenty lle ceir enghraifft dda o gastell mwnt a beili, a'r hen eglwys blwyf. Cefnwyd ar y castell yn Űl pob tebyg i ffafrio Ty Trefenty erbyn y cyfnod Canoloesol diweddarach, ond mae adeiladwaith cynharaf yr adeilad presennol yn perthyn i'r 18fed ganrif. Roedd Ystlwyf yn eiddo i arglwyddi Eingl-Normanaidd San ClÍr tan 1171 pan y'i caffaelwyd gan Rhys ap Gruffydd, a gyflwynodd yr ardal i'r Abaty Sistersaidd yn Hendy-gwyn ar Daf ym 1214, fel rhan o Faenor fawr Ystlwyf (Williams, 1990). Cronnodd gweddill yr arglwyddiaeth o fewn etifeddiaeth y teulu Marshal yn ystod dechrau'r 13eg ganrif ac roedd yn aelod o Iarllaeth Penfro (Ludlow ar fin ymddangos) tan ganol yr 16eg ganrif, pan y'i caffaelwyd gan yr arglwyddi Perrot o Dalacharn (Jones 1987, 185). Mae'n bosibl bod canolfan weinyddol y faenor ym Mhant-dwfn. Yn debyg i'r rhan fwyaf o faenorau eraill mae'n debygol bod y tir yn cael ei osod a'i ffermio gan denantiaid, a sefydlodd ragflaenwyr y ffermydd modern. Mae topograffeg ar ffurf cefnen a rhych i'r dwyrain o Drefenty yn nodi bod o leiaf rhywfaint o'r tir wedi'i drin gan system caeau agored neu stribedi. Fodd bynnag, mae prisiad o'r 15fed ganrif yn nodi mai caws a defaid/gwl‚n oedd y rhan helaethaf o werth y faenor, gyda cheirch yn gyfran fach (Benson 1996), sy'n awgrymu rhywfaint o dir amgaeŽdig yn y cyfnod hwn. Roedd eglwys y plwyf hefyd yn gorwedd ar yr hyn a dybir oedd yn llwybr pererinion i Dyddewi (Hartwell Jones 1912, 372). Ychwanegodd Syr John Perrot at ddeiliadaethau Ystlwyf yn ystod y Diddymiad ym 1539 pan gaffaelodd y faenor. Priododd ei fab, Thomas ‚ Dorothy, chwaer Iarll Essex, a phriododd eu merch hwy, Penelope, ‚ Syr William Lowther, seryddwr adnabyddus, a fu farw yn Nhrefenty ym 1615 (Jones 1987, 185). Ystyria Benson (1996) gysylltiad Lowther ‚'r ystad yn bwysig iawn o ran hanes y tirlun, am iddo awgrymu mai ef oedd yn gyfrifol am sefydlu'r terfynau hirsyth sy'n rhannu'r ardal yn rhaniadau mawr, ac sydd mor nodweddiadol o'r tirlun. Mae prydlesi o ddiwedd yr 17eg ganrif yn enwi 'y Rhaniad Mawr', y 'Prif Linell' a 'pherthi rhwystro' sy'n dangos bod y gwaith mawr hwn o rannu'r tirlun wedi digwydd erbyn hynny. Nid yw'n hollol amlwg a yw'r israniadau o'r tirlun yn perthyn i'r cyfnod cyn neu wedi'r terfynau hirsyth, ond ymddengys erbyn canol y 17eg ganrif bod yr holl elfennau sydd yma heddiw o'r tirlun hanesyddol yn eu lle. Esboniad arall yw y gall fod y system yn perthyn i gyfnod cynharach o lawer. Gall rhannu'r tirlun yn ddarnau o dir amgaeŽdig sydd yn 700 metr sgw‚r ar gyfartaledd fod yn arwyddocaol o ran bod dull llym y Rhufeiniad o rannu'r tir - dull centuria - wedi'i lunio fel grid o ddarnau o dir amgaeŽdig sgw‚r yr oedd eu hochrau yn mesur 20 actus yr un, sy'n cyfateb i 710 o fetrau (Potter 1987, 101). Fel arfer, ond nid o reidrwydd, roedd y dull centuria yn cael ei weithredu yng nghyffiniau coloniae fel y byddai pob hen filwr yn derbyn rhan gyfartal, ond mae yn cynrychioli system o rannu tir yn gyflym y gellid ei gosod ar ardaloedd eraill heb eu hamgŠu; fodd bynnag ni ddaeth tystiolaeth bellach i'r amlwg fod hyn wedi ei weithredu ym Mhrydain (Rivet 1964, 101). Trosglwyddwyd Fferm Trefenty drwy'r teuluoedd Drummond a Plowden cyn ei gaffael gan ei berchenogion presennol, sef Prifysgol Cymru (Jones 1987, 185).

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Gan orwedd rhwng Afonydd Taf, Cywyn a Dewi Fawr, mae tirlun hanesyddol Trefenty o fryniau pantiog a dyffrynnoedd agored yn codi o lefel y mŰr ac yn cyrraedd uchafswm uchder o dros 50 m. Mae'r ardal gyfan bron yn dir pori wedi'i wella; ychydig iawn o goetir, tir ‚r a thir garw sydd yno. Mae'r patrwm anheddu yn un o ffermydd ar wasgar, sy'n ddeiliadaethau eithaf mawr ar y cyfan. Gorwedd y ffermydd o fewn system gaeau anarferol iawn sy'n cwmpasu terfynau syth, hir, i fyny at 4 cilomedr o hyd, gan rannu'r tirlun yn rhaniadau mawr iawn, i fyny at 700 m sgw‚r. Ni wyddys dyddiad cychwyn y system hon, ond yn sicr roedd yn bresennol erbyn yr 17eg ganrif. Isrennir y rhaniadau mawr hyn yn ddarnau o dir amgaeŽdig llai, afreolaidd. Mae'r terfynau yn wrychoedd ar wrthgloddiau. Mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da, ychydig iawn sydd wedi tyfu'n wyllt a phrin yw'r coed nodweddiadol yn y gwrychoedd. Collwyd rhywfaint o'r gwrychoedd yn ystod y degawdau diweddar. Ceir tystiolaeth o drin y tir yn y dull cefnen a rhych sy'n dyddio o gyfnod cyn y darnau o dir amgaeŽdig ‚ chloddiau o'u hamgylch yn yr ardal hon, ac yn y pen gogleddol mae'r A40, sydd fwy neu lai yn dilyn llinell y ffordd dyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif, yn torri ar draws y system yn rhannol.

Ymhlith nodweddion cynharach o'r tirlun mae tri chrug crwn posibl, dau faen hir posibl, a thomen losg o'r Oes Efydd. Nid yw'r mwnt a beili yn Nhrefenty, sy'n Heneb Gofrestredig, yn dangos unrhyw dystiolaeth o waith maen. Mae nodweddion archeolegol eraill yn cwmpasu cloddfa glai, sef yr unig weithgaredd economaidd arall yn yr ardal.

Ty ar byst dwbl yw Trefenty o'r 18fed ganrif yn bennaf ac adeilad rhestredig Gradd II; mae ei dai allan hefyd yn rhestredig Gradd II. Mae Mihangel Sant, Llanfihangel Abercywyn, yn ganoloesol i raddau helaeth a hefyd yn adeilad rhestredig Gradd II, er ei fod yn adfail bellach. Yn y fynwent ceir slabiau coffa Canoloesol cofrestredig ('beddrodau'r pererinion' fel y'u gelwir). Mae'r ffermydd yn gyffredinol yn ddeiliadaethau eithaf mawr gyda ffermdai cerrig ‚ thoeau llechi sydd yn y traddodiad brodorol gan fwyaf ac yn dyddio'n bennaf o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd un neu ddwy res o dai allan cerrig o'r 19eg ganrif yn ogystal ‚ rhes o adeiladweithiau modern. Mae adeiladau ‘l-ganoloesol eraill yn cynnwys tollborth dyrpeg a hen efail gynt ar yr A40, melin ar afon Dewi Fawr, ac adeilad a fu'n ysgol gynt.

Mae'r system gaeau anarferol yn pennu'r tirlun hanesyddol hwn i raddau llethol. I'r de a'r gorllewin pennir yr ardal hon gan forfa heli adferedig .

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]