Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

MAES GLANIO PEN-BRE

CYFEIRNOD GRID: SN 399037
ARDAL MEWN HECTARAU: 250.30

Cefndir Hanesyddol Ardal fach ac ar wahn o laciau twyni y tu l i Dwyni Tywod Pen-bre lle saif hen Faes Glanio Pen-bre gynt (Page 1996, 15). Mae'r twyni tywod eu hunain yn system o dwyni a grwyd i raddau helaeth yn ystod y cyfnod hanesyddol, ac mae'r twyni yn ganlyniad amrywiol gyfnodau o adfer. Mae'r tirlun bron yn gyffiniol Maenordy Caldicot a grybwyllwyd am y tro cyntaf yn y 13eg ganrif (Page 1996, 13), ac fe'i hehangwyd o ganlyniad i adfer tua 1629 pan godwyd morglawdd o'r enw 'Y Bwlwarc'. Roedd yr hanner gogleddol yn dal yn agored i orlifo rheolaidd hyd nes yr adeiladwyd morglawdd arall, Banc-y-Lord, gan Pinkerton ac Allen ym 1817-18 (James 1991, 156). Yn ddiweddarach ymgorfforwyd yr ardal o fewn Maenordy Pen-bre, o dan deulu'r Ashburnham, ac ar fap degwm Pen-bre 1841 fe'i gwelir wedi'i rhannu'n gaeau afreolaidd o ran sip, canolig eu maint. O'r ddwy fferm a welir ar y map hwn, ymddengys bod un ohonynt - Fferm Tywyn Mawr - ar safle un o'r tair fferm a welir ar Fap Ystad o tua 1681 (James, 1991, 153). Bu rhan o'r adran ogledd-ddwyreiniol eithaf yn agored i fesur cau tir y Senedd ym 1854 (Carms R O, AE3). Safai odyn friciau o'r 19eg ganrif yn rhan ddeheuol yr ardal ar un adeg, gan wneud defnydd o bocedi o glai llifwaddod yn l pob tebyg (Argraffiad cyntaf 6" Arolwg Ordnans, Dalen LIII SW). Hefyd yn croesi'r ardal o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain roedd Draen Swan Pool a grewyd gan ddyn, a sefydlwyd erbyn 1762 fwy na thebyg i wacu pwll a arferai fod yn Ardal 163, i'r de-ddwyrain, i mewn i hen gilfachell gynt y tu draw i'r Bwlwarc. Yn y lle cyntaf cyfres o leiniau glanio glaswelltog a sefydlwyd fel gorsaf awyrennau rhyfel oedd y maes glanio, ond mae'r cynllun presennol yn dyddio o 1941-44 ar l iddo fynd yn gartref i Ysgol Saethu Awyr (Page 1996, 15, 20). Erbyn hyn mae'n gylchffordd rasio ceir ac, ers 1996, yn faes glanio i awyrennau ysgafn.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

D isgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Gorwedd Maes Glanio Pen-bre ar fignen adferedig ar lefel y mr neu'n agos i hynny, ac fe'i hamddiffynnir rhag y mr gan forglawdd a godwyd o bridd. Bellach mae'n dirlun yr 20fed ganrif yn ei hanfod, gan y collwyd holl elfennau cynharach y tirlun pan sefydlwyd y maes glanio ym 1940, gyda dau eithriad - hyd o Gamlas Ashburnham a adeiladwyd ym 1796-1801 sy'n croesi'r gornel ogledd-ddwyreiniol, a Banc-y-Lord sy'n wrthglawdd sylweddol sy'n ffurfio ymyl ogleddol yr ardal. Cliriwyd y ffermydd a'u caeau a gofnodwyd ym 1841 a'r system Caeau Seneddol a sefydlwyd ym 1854 pan adeiladwyd Maes Glanio Pen-bre cyn yr Ail Ryfel Byd. Mae rhai o brif adeiladau'r maes glanio yn goroesi, y rhan fwyaf ohonynt mewn cyflwr adfeiliedig, gan gynnwys sied awyren hyfforddi synthetig math 'F', ond mae Cromen Hyfforddi Saethu yn goroesi mewn cyflwr da. Ymgorfforwyd rhannau o'r lleiniau glanio yn gylchffordd rasio ceir, a defnyddir rhannau eraill gan Faes Awyr Pen-bre ar gyfer awyrennau ysgafn. Codwyd adeiladau newydd i wasanaethu'r ddwy swyddogaeth hon. Yn yr ardal hefyd mae canolfan/safle bach, modern yr Awyrlu Brenhinol.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi'i chyfyngu i'r nodweddion l-ganoloesol nodweddiadol.

Mae'r adeiladau o'r 20fed ganrif yn nodweddiadol.

Mae ffiniau pendant i Faes Glanio Pen-bre i'r gogledd lle mae morglawdd yn ei wahanu o'r morfa heli, ac i'r gorllewin lle mae'n ffinio choedwig. Ar yr ochrau eraill elfennau modern yr ardal tirlun hanesyddol hon sy'n ei gwahaniaethu o'i chymdogion.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]