|
PEN-BRE A PHORTH TYWYN
CYFERINOD GRID: SN 438010
ARDAL MEWN HECTARAU: 359.40
Cefndir Hanesyddol
Yn eu ffurf bresennol, mae Pen-bre a Phorth Tywyn yn gynnyrch y diwydiant
glo cynyddol yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yn ystod y 18fed a'r 19eg
ganrif. Mae gan Ben-bre wreiddiau cynharach o lawer, fodd bynnag; mae
eglwys y plwyf wedi'i chysegru i Illtud Sant, ac fel eglwys ar lan y môr
gyda chyfeiriadau ati mewn dogfennau sy'n perthyn i gyfnod cynnar wedi'r
Goresgyniad, mae o bosibl yn eglwys a sefydlwyd cyn y Goresgyniad. Fe'i
rhoddwyd i Fenedictiaid Abaty Sherborne, Dorset, gan Robert o Gaersallog,
Arglwydd Cyd-weli, ym 1120 (Ludlow 1998). Safai capeliaeth ganoloesol,
Capel Cynnor, yn y dyffryn serth i'r gogledd o Borth Tywyn ar un adeg,
ond llyncwyd ei safle o dan Bwll glo Cwm Capel erbyn 1840 (Jones 1983,
18). Yn ystod y cyfnod canoloesol diweddar daliwyd Pen-bre, gyda Maenordy
Penrhyn i'r gogledd, yn gyntaf o leiaf gan Arglwyddiaeth Cyd-weli, fel
brodoriaeth ac estroniaeth (Rees 1953, 200). Mwynhaodd statws maenoraidd
o leiaf mor gynnar â 1361 o dan y teulu Butler, a'i daliodd o bosibl fel
maenordy demên, ond erbyn 1630 o dan y teulu Vaughan roedd wedi mynd yn
annibynnol o Arglwyddiaeth Cyd-weli (Jones 1983, 18), ac ym 1896 fe'i
disgrifiwyd fel maenordy preifat gyda llysoedd lît rheolaidd (Jones 1983,
29). Fe'i caffaelwyd gan y teulu Ashburnham ym 1677. Saif Llys Pen-bre,
canolfan ffiwdal y maenordy, i'r gorllewin o Ardal 158 fel 'Fferm y Llys'
ac mae'n dy cain o waith maen o'r 16eg ganrif a dechrau'r 17eg ganrif,
bellach yn adfail (Lloyd 1986, 56); gorwedd ei dir y tu allan i'r ardal
hon. I'r gwrthwyneb parhaodd y llain o dir arfordirol, 'Tywyn Bach' yn
dir pori comin tan y 19eg ganrif (Ludlow 1999,23), ac ychydig o dystiolaeth
bellach a geir o weithgaredd gan ddyn tan y 18fed ganrif pan arweiniodd
y fasnach galch â Bro Gwyr i sefydlu nifer o odynau calch. Yn bwysicach
fyth oedd sefydlu pyllau glo, ar ddechrau'r 18fed ganrif, yng Nghwsgwm
i'r gogledd o Borth Tywyn (Ludlow 1999, 24), ac agorwyd nifer fawr o byllau
ychwanegol yn yr ardal drwy gydol y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Sefydlwyd
porthladd ym Mhen-bre, ym 1819, ar dir a gaffaelwyd o ystad Ashburnham,
er mwyn cludo'r glo hwn. Roedd y porthladd yn llawn llaid erbyn 1830 a
sefydlwyd un newydd ym Mhorth Tywyn ac roedd fwy neu lai wedi'i gwblhau
erbyn 1836, ac o ganlyniad i hynny datblygodd Porth Tywyn fel tref hollol
newydd. Cyrhaeddodd y porthladd benllanw ei brysurdeb yn ail hanner y
19eg ganrif ond dechreuodd ddirywio ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf a daeth
ei weithrediadau i ben i raddau helaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a symudwyd
y rhan fwyaf o ffitiadau'r porthladd oddi yno yn ystod dechrau'r 1980au.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r ardal hon o dirlun hanesyddol cymhleth, trefol yn bennaf, yn
ymestyn ar draws y gwastadeddau arfordirol ac i fyny'r llethr isaf o fryniau
arfordirol at uchafswm o 100 m. Mae'n cynnwys nifer o fân ardaloedd diwydiannol
ac ardaloedd preswyl hanesyddol: pentref Pen-bre, porthladd Pen-bre, porthladd
Porth Tywyn a phentref Porth Tywyn, sydd bellach wedi uno gan ddatblygiad
yn yr 20fed ganrif. Mae cnewyllyn bach pentref Pen-bre, sy'n cynnwys yr
anheddiad hynaf yn yr ardal ac sydd wedi'i ganoli ar yr eglwys a Fferm
y Llys, wedi mynd ar goll i raddau helaeth ymhlith datblygiadau'r 19eg
a'r 20fed ganrif. Mae porthladd Pen-bre, na chafodd ei ddatblygu'n llawn
erioed, yn goroesi ymysg y twyni tywod i'r gorllewin o'r ardal. Roedd
ei olynydd, Porthladd Porth Tywyn, yn ddibynnol ar rwydwaith cysylltiadau
a ddechreuodd gyda chamlesi a thramleiniau yn yr 1830au, ac a roddai le
amlwg hefyd i ffordd dyrpeg. Disodlwyd Camlas Cyd?weli a Llanelli gan
reilffordd ym 1866 (Ludlow 1999, 28). Roedd isadeiledd y gwasanaeth hefyd
yn cynnwys tollty, gorsaf gwylwyr y glannau, goleudy a gorsaf y bad achub.
Roedd yr elfennau uchod yn gwasanaethu nifer o ddiwydiannau cysylltiedig
a ddechreuodd pan sefydlwyd gweithfeydd copr yn y 1850au. Dechreuodd y
gwaith o ddatblygu tai, a sefydlu nifer o gapeli ac eglwysi, o dan symbyliad
perchenogion y mentrau diwydiannol hyn o 1850 ymlaen (Ludlow 1999, 29).
Yn wir, mae'r ardal gyfan yn ddatblygiad o dai teras preswyl o gerrig
a briciau a adeiladwyd yn y 19eg ganrif, gyda thai o'r 20fed ganrif mewn
amrywiaeth o arddulliau a defnyddiau yn eu plith. Erbyn hyn dilëwyd bron
yn gyfan gwbl dystiolaeth o ddiwydiant gweithgynhyrchu o'r 19eg a dechrau'r
20fed ganrif, a'r diwydiannau cynhyrchu ynni o'r 20fed ganrif yr oedd
yr aneddiadau'n dibynnu arnynt. Mae'r isadeiledd, fodd bynnag, yn goroesi
yn y porthladdoedd eu hunain, er enghraifft, a phrif reilffordd y Great
Western a agorwyd ym 1852 ac sy'n dal i gael ei defnyddio. Bydd y gwaith
cyfredol ar Barc Arfordirol y Mileniwm yn troi'r porthladdoedd lled-adfeiliedig
yn gyfleusterau twristaidd/hamdden, yn tirlunio'r safleoedd diwydiannol
gynt, ac yn creu llwybr arfordirol.
Cysylltir archeoleg y tirlun yn bennaf â'i ddatblygiad
diwydiannol ac fe'i hamlinellwyd uchod.
Mae Eglwys Illtud Sant, Pen-bre, yn adeilad rhestredig
Gradd A gyda llawer o fanylion o ddiwedd yr 16eg ganrif yn goroesi. Mae
Fferm y Llys, a berthyn i'r 16eg neu'r 17eg ganrif, sef maenordy Pen-bre,
y ty mwyaf yn Sir Gaerfyrddin o gyfnod cyn y Dadeni 'rich in corbels,
tall chimneys and mullioned windows' (Lloyd 1986, 56), yn adeilad rhestredig
Gradd II ond bellach mae'n gragen. Mae'r porthladd allanol ym Mhorth Tywyn,
a phont dros Gamlas Cyd?weli a Llanelli wedi'u rhestru'n Radd II hefyd.
O ran cymeriad mae Pen-bre a Phorth Tywyn yn ardal tirlun
hanesyddol nodweddiadol a saif mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r ardaloedd
cyfagos sydd at ei gilydd yn wledig/amaethyddol o ran cymeriad.
|