Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

CYD-WELI

CYFEIRNOD GRID: SN 407068
ARDAL MEWN HECTARAU: 61.81

Cefndir Hanesyddol
Tref fach a bwrdeistref canoloesol yw Cyd-weli ac mae llawer o nodweddion tirlun hanesyddol yn goroesi. Ychydig o dystiolaeth a welir o'r cyfnod cyn y Goresgyniad, er bod y cwmwd y saif ynddo yn dwyn yr un enw 'r anheddiad. Ym 1106 fe'i rhoddwyd gan y Brenin Harri'r Cyntaf i'r Esgob Roger o Gaersallog (Avent 1991, 167) a adeiladodd y castell erbyn 1114, pan sefydlwyd Eglwys y Santes Fair fel cell o Abaty Sherborne. Ymddengys bod yr anheddiad sifil wedi perthyn i'r un cyfnod, wedi'i leoli mewn ardal a oedd yn cael ei hamddiffyn, sef pen deheuol eithaf y tri beili allanol sy'n gorwedd ar hyd ochr ogleddol Gwendraeth Fach. Ymddengys yr anogwyd i fewnddyfodiaid Ffleminaidd anheddu yno yn gyntaf, a sefydlasant ddiwydiant brethyn (Soulsby 1983, 153). Trosglwyddwyd ardal Cyd-weli rhwng yr Eingl-Normaniaid a'r Cymry yn ystod y 12fed ganrif a dechrau'r 13eg ganrif, ac yn ddiamau arafodd hyn unrhyw ddatblygiad trefol gan rwystro'r dref rhag ymestyn i'r beili(beilau) gogleddol hwyrach, ond ni tharfodd ar swyddogaeth Cyd-weli fel porthladd masnachu a ddechreuodd ar ddechrau'r 13eg ganrif. O ganlyniad i amodau mwy sefydlog ar ddiwedd y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif, o dan ddeiliadaeth y teulu Chaworth, ac, o 1327, Dugaeth Caerhirfryn, galluogwyd ehangu y tu hwnt i'r ardal a oedd yn cael ei hamddiffyn at lan ddeheuol Gwendraeth Fawr, o amgylch Eglwys y Santes Fair, a datblygodd maestref hefyd i'r gogledd-orllewin o'r ardal a oedd yn cael ei hamddiffyn. Ymddengys na chadwyd unrhyw siarter ond ym 1609 cyfeiriwyd at y dref fel 'bwrdeistref hynafol' yn cynnwys maer a thri henadur, yr oedd gan eu bwrdeistrefi 'very large and great privileges' (Rees 1953, 178). Rhoddwyd iddynt ddwy farchnad wythnosol ym 1268 ond rhoddwyd iddynt ryddid tollau mor gynnar 1106-14 (Morris 1975, 62). Ailadeiladwyd amddiffynfeydd y dref o gerrig yn y 1280au ond 'dinistriwyd' yr ardal a oedd yn cael ei hamddiffyn serch hynny yng ngwrthryfel Glyndw^r ym 1403 (Soulsby 1983, 153). Digwyddodd datblygiad wedi hynny yn bennaf o fewn y maestrefi ac erbyn y 1530au roedd y 'new town' hon 'three times as bigge as the Old' (Smith 1910, 59), yr olaf yn rhoi cyfrif am ddim ond 18 bwrdeisiaeth allan o gyfanswm o 171 (Rees 1953, 179-192). Dechreuodd Cyd-weli ddirywio ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol ac ym 1630 fe'i gwerthwyd, ynghyd gweddill yr Arglwyddiaeth, i ieirll Carbery a'i daliodd tan 1804 pan gafodd ei throsglwyddo i ystad Cawdor (Jones 1983, 18). Roedd y castell yn dal yn 'meetly kept up' yn y 1530au (Smith 1910, 59) ond rhoddwyd y gorau i'w defnyddio yn fuan wedi hynny ac, gyda'r rhenti yn yr 'old town', aeth 'i phen iddi, tra disgrifiwyd y dref yn gyffredinol, ym 1609, yn 'very poor and out of all trade' (Rees 1953, 178). Fodd bynnag, galluogodd ei breintiau fel bwrdeistref i'w phrysurdeb masnachol barhau a chafwyd rhywfaint o ddadeni o ran ffyniant Cyd-weli yn ystod diwedd yr 17eg a dechrau'r 18fed ganrif. Cynhaliwyd y masnachu o gei'r dref ar afon Gwendraeth Fach islaw'r bont, ond profodd hyn yn annigonol i ymdopi phrysurdeb masnachol cynyddol drwy gydol y 18fed ganrif, a sefydlwyd ceiau newydd ar Gwendraeth Fawr yn Frankland a Muddlescwm i'r dwyrain o'r dref (Ludlow 1991, 84). Wrth sefydlu Camlas Kymer ym 1776-8 aed rhagor o fasnach i ffwrdd o'r dre a pheidiodd masnach ar y mr bod yn ffactor yn natblygiad Cyd-weli erbyn canol y 19eg ganrif. Cyfeiriwyd prif reilffordd Great Western De Cymru drwy Gyd-weli ym 1859 pan sefydlwyd gorsaf yno. Cafwyd llawer o ddatblygu yn yr 20fed ganrif i'r de o'r afon gan gynnwys ystad dai fawr ar l yr Ail Ryfel Byd i'r dwyrain o Eglwys y Santes Fair.

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Canolbwynt y dref yw'r castell a ailadeiladwyd yn ddiweddarach o gerrig, ond sy'n cadw'r drefn wreiddiol o feili mewnol thri beili allanol o boptu iddo mewn llinell ar hyd lan ogleddol Gwendraeth Fach. Bwriadwyd pob un o'r tri beili allanol yn y lle cyntaf ar gyfer anheddiad sifil trefol, ond ymddengys mai dim ond yr un deheuol a ddatblygwyd. Adeiladwyd wal gerrig ar ben yr amddiffynfeydd gwrthglawdd yn y 14eg ganrif a goroesodd ty o waith maen o ddiwedd yr Oesoedd Canol o fewn yr ardal wal o'i chwmpas tan yr 20fed ganrif (Williams 1991, 198). Datblygodd y faestref i'r de o Gwendraeth Fawr, ar hyd strydoedd Causeway a Lady, ar l sefydlu eglwys y Santes Fair. Ymddengys bod llawer o adeiladau o fewn yr ardal faestrefol gychwynnol hon, a'r rheini i'r gogledd-ddwyrain o'r ardal wal o'i chwmpas, ar hyd Ffyrdd Llansaint a Chaerfyrddin, yn cynrychioli lleiniau o dir bwrdais gynt. Ymddengys bod rhywfaint o ddatblygu wedi digwydd ar hyd Ffordd yr Orsaf cyn sefydlu'r orsaf ym 1859. Lleolwyd neuadd y dref uwchlaw porth y de ond fe'i disodlwyd erbyn tua 1600 gan neuadd newydd ar gyffordd Lady Street a Causeway Street (Soulsby 1983, 153-4); mae bellach wedi diflannu. Safai nifer o felinau ar afon Gwendraeth Fach gan gynnwys, yn union i'r de o'r castell, melin yd a melin ban, y mae eu cafnau i'w gweld o hyd (Ludlow 1991, 84).

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud hanes Canoloesol ac l-ganoloesol y dref.

Mae'r adeiladau yn perthyn i'r 18fed a'r 19eg ganrif yn bennaf, o gerrig thoeau llechi ond ychydig o adeiladau nodweddiadol a geir. Mae'r castell yn Heneb Gofrestredig ac yn adeilad rhestredig Gradd I, mae mynedfa mur y dref sy'n goroesi yn rhestredig fel Gradd II*, ac mae Eglwys y Santes Fair, adeilad cain ar ffurf croes, y mae'r adeiladwaith sy'n goroesi ohoni yn dyddio'n bennaf o'r 14eg ganrif (Ludlow 1998), wedi'i rhestru fel Gradd A; ychydig o dystiolaeth sydd o'r adeiladau cwfeiniol ond mae'n annhebygol y byddai'r rhain wedi bod yn helaeth (Williams 1991, 195). Dim ond dau adeilad arall sydd wedi'u rhestru'n Radd II, y ddau yn perthyn i'r 18fed a'r 19eg ganrif. Fodd bynnag, mae ardal hen gei'r dref heb ei datblygu i raddau helaeth ac mae rhywfaint o warysau diwedd y 18fed ganrif yn dal i oroesi. Digwyddodd y datblygu trefol ar hyd Station Road, ac i'r de a'r dwyrain o'r dref, yn ystod y 19eg ganrif ac maent yn aml yn dai teras, gan gynnwys 'Gwendraeth Town', rhes o dai teras i weithwyr a godwyd i weithwyr Gweithfeydd Alcam Cyd-weli ym 1881 (Ludlow 1991, 84). Mae datblygu unionlin o'r 20fed ganrif yn cysylltu'r elfennau hyn ac yn ymestyn y tu hwnt i'r de a'r dwyrain.

Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol hynod, ac yn hollol wrthgyferbyniol i'r tir amaethyddol o'i chwmpas.

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]