Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

BROOKLANDS

CYFEIRNOD GRID: SN 408024
ARDAL MEWN HECTARAU: 144.90

Cefndir Hanesyddol
O ran cymeriad mae hon yn ardal hynod iawn o hen forfa heli gynt y tu ôl, ac i'r dwyrain, o Dwyni Tywod Pen-bre, a ddatblygodd pan oedd y morlin o amgylch y twyni gryn dipyn ymhellach i'r dwyrain ac i'r de nag ydyw heddiw. Cyfeiriwyd at ran o'r ardal o leiaf fel 'King's Marsh alias Pembrey Marsh' mewn arolwg yn 1638 (James 1991, 152), pan ymddengys iddi fod yn forfa heli agored a neilltuwyd i'w ddefnyddio gan fwrdeisiaid Cyd-weli, yr amgaeëwyd chwe deg erw ohonynt yn ddiweddar gan Syr Richard Vaughan. Yn ôl pob tebyg y darnau o dir amgaeëdig hyn yw'r caeau a welir ar fap ystad Maenordy Caldicot ym 1681 fel 'King's Warth' ('Morfa Brenin' ar fap degwm Pen-bre, 1841). Dangosir y pedwar darn mawr o dir amgaeëdig yn hanner gogleddol yr ardal, a isrannwyd yn feintiau amrywiol, fel tir sydd â therfynau yn union yr un fath â rhai heddiw, ond gydag amrywiadau o fewn yr israniadau. Mae un o'r terfynau hyn, fodd bynnag, yn cynrychioli llinell y morglawdd a adeiladwyd fel 'Y Bwlwarc', ym 1629 yn ôl pob tebyg (James, 1991, 152). Mae Draen Swan Pool a wnaed gan ddyn, yn croesi'r ardal o'r gogledd i'r de, ac fe'i sefydlwyd yn ôl pob tebyg erbyn 1762 i wacáu pwll a orweddai yn Ardal 163, i'r de-ddwyrain, i hen gilfachell gynt y tu hwnt i'r Bwlwarc, yn Ardal 157. Mae llawer o weddill Maenordy Caldicot bellach o dan Faes Glanio Pen-bre (Ardal Tirlun 157). Mae fferm Brooklands ei hun yn greadigaeth ddiweddarach ac nid yw i'w gweld ar fap degwm Pen-bre ym 1841. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd Llinell Aros y Rheolaeth rhwng Bae Ceredigion a Môr Hafren, rhan o'r amddiffynfeydd sy'n dilyn Draen Swan Pool (Page 1996, 20).

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r ardal hon yn cynnwys mignen adferedig, wastad ar lefel y môr neu'n agos i hynny. Mae bellach yn dir pori wedi'i wella yn bennaf a rannwyd yn ddarnau afreolaidd o ran siâp o dir amgaeëdig canolig ei faint gan ffosydd, sy'n dyddio o'r 17eg ganrif. Mewn rhai mannau mae gwrychoedd prysglog wedi'u plannu ar hyd y ffosydd; mae ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu yma ac acw. Ar hyd ymylon y llwybrau mae'r gwrychoedd mewn cyflwr gwell ac yn cadw anifeiliaid rhag crwydro. Nid oes coetir yno.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi'i chyfyngu i nodweddion draenio.

Nid oes unrhyw adeiladau nodweddiadol. Yn ddiweddar ailadeiladwyd fferm ddiweddarach Brooklands o'r 19eg ganrif o friciau; mae ganddi gasgliad mawr o adeiladau fferm modern a dyma'r unig anheddiad yn yr ardal hon. Ceir dwy gaer danddaearol o'r Ail Ryfel Byd o fewn yr ardal.

Dim ond i'r gorllewin yn erbyn y goedwig y ceir ffiniau pendant i derfynau ardal tirlun hanesyddol Brooklands. I'r gogledd orllewin y gorwedd tirlun modern Maes Glanio Pen-bre, ac i'r gogledd-ddwyrain tir Mignen Pinged a amgaeëwyd yn ddiweddarach. I'r de ceir rhagor o goedwig a mignen adferedig mwy sefydlog, sydd wedi'i hamgáu'n fwy dwys.