|
MEYSYDD
CYFEIRNOD GRID: SM 41901
ARDAL MEWN HECTARAU: 130.30
Cefndir Hanesyddol
Ardal nodweddiadol a ddatblygodd y tu ôl i Dwyni Tywod Pen-bre ac i'r
dwyrain ohonynt. Mae'r ardal ddwyreiniol yn cwmpasu bryniau tywod o darddiad
cymharol ddiweddar, a ddatblygodd ers yr 17eg ganrif o leiaf ond nid cyn
y cyfnod Canoloesol (James 1991, 159). Ar yr un pryd ag y gwnaed gwaith
adfer i'r tir mewn ardaloedd cyfagos yn ystod y 18fed a dechrau'r 19eg
ganrif, datblygwyd corstir a llaciau tywod, yn yr ardal hon, i'r de-ddwyrain
o lafn o dir sych a orweddai wrth droed Mynydd Pen-bre. Ymddengys bod
yr ardal hon, a ffurfiai ran o Faenordy Pen-bre, wedi bod yn wlyb a chorsog,
ac mewn rhan ohoni roedd pwll, 'Swan Pool', a welir ar fap o 1762 ac sy'n
dal yno ar ddiwedd y 19eg ganrif (James 1991, 154). Ceir cyfeiriadau at
y 'Swan Pools' ym Mhen-bre mewn cofnodion maenoraidd o 1642 pan fyddent
mae'n debyg yn fagwrfa i elyrch a physgod ar gyfer bwrdd bwyd Arglwyddi
Maenordy Pen-bre (Jones 1983, 19). Ymddengys y gelwid gweddill yr ardal
yn 'Black Marsh', elfen a welir mewn tri o enwau'r caeau presennol. Adeiladwyd
sianel, sef 'Swan Pool Drain', yn ôl pob tebyg erbyn 1762 er mwyn draenio'r
ardal, ac roedd yn gwacáu i gilfach gynt y tu hwnt i'r morgloddiau i'r
gogledd-orllewin. Adferwyd y fignen ar ôl 1762 (James 1991, 154); ymddengys
i hyn ddigwydd fesul tipyn, gan ddatblygu'n ardal tirlun ar wahân yn cynnwys
caeau bach, afreolaidd o ran eu siâp, a oedd i gyd o dan berchenogion/tenantiaid
gwahanol ym 1841, a heb aneddiadau (map degwm Pen-bre). Yn croesi hanner
dwyreiniol yr ardal roedd Camlas Pen-bre, a adeiladwyd ym 1823-4 i wasanaethu'r
'hen' borthladd gynt ym Mhen-bre mewn ardal i'r dwyrain (Nicholson 1991,
126). Sefydlwyd fferm Meysydd ers 1841, a saif drws nesaf i lwybr a drowyd
yn gainc o brif reilffordd y Great Western ar ddechrau'r 20fed ganrif,
i wasanaethu'r Ffatri Ordnans Frenhinol gynt yn Ardal 167 (Page 1996,
15). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd Llinell Aros y Rheolaeth rhwng
Bae Ceredigion a Môr Hafren, ac y mae rhan o'r amddiffynfeydd yn dilyn
Draen Swan Pool (Page 1996, 20).
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r ardal yn dirlun hynod o fignen adferedig ychydig uwchlaw lefel
y môr sydd bellach yn dir pori heb ei wella, ac a rannwyd yn glytwaith
o gaeau afreolaidd o ran eu maint, ac yn unionlin at ei gilydd, gan ffosydd,
ffensys gwifrau a ffensys pyst a rheiliau. Mae'r terfynau i gyd yn perthyn
i gyfnod ar ôl 1792 ac nid oes coed aeddfed yno. Ceir anheddau a thai
allan ar wasgar. Pennir terfyn gogleddol yr ardal gan arglawdd prif reilffordd
y Great Western yng Ngorllewin Cymru a agorodd ym 1852 (Ludlow 1999, 28).
Mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi'i chyfyngu i'r cyfnod
Ôl-ganoloesol diweddar ac ymddengys nad oes nodweddion tirlun cynharach.
Mae Draen Swan Pool yn dal i weithio ond nid yw olion camlas Pen-bre,
a welir ym 1891 (Argraffiad Cyntaf 6" Arolwg Ordnans, Dalen LIII SW),
yn glir bellach. Mae arglawdd y rheilffordd yn goroesi ac mae yno gaer
danddaearol sy'n perthyn i'r Ail Ryfel Byd.
Mae'r anheddau a'r tai allan yn perthyn i'r 20fed ganrif
yn bennaf, yn rhai amaethyddol, ac mewn amrywiaeth o ddeunyddiau.
Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol gyda ffiniau pendant
Pen-bre a Phorth Tywyn i'r gogledd, darnau mawr o dir amgaeëdig i'r gorllewin,
a Pharc Gwledig Pen-bre i'r de a'r dwyrain.
|