Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

CAEAU HIRGUL LLANDYRY A PHINGED

CYFEIRNOD GRID: SN 426043
ARDAL MEWN HECTARAU: 223.30

Cefndir Hanesyddol
Llain o dir i'r de-ddwyrain o Fignen Pinged a oedd, fel yr ardaloedd cyfagos, yn rhan o Faenor Pen-bre yn ystod y cyfnod Canoloesol ac, ynghyd ‚ Maenor Penrhyn i'r gogledd-ddwyrain, roedd yn cael ei dal yn y lle cyntaf gan Arglwyddiaeth Cyd-weli fel brodoriaeth ac estroniaeth (Rees 1953, 200). Roedd yn mwynhau statws faenoraidd ers 1361 o leiaf o dan y teulu Butler, a'i daliai fel maenor ddemÍn, ac erbyn 1630 o dan y teulu Vaughan roedd wedi dod yn annibynnol ar arglwyddiaeth Cyd?weli (Jones 1983, 18). Fodd bynnag, honnwyd bod 'one tenement in the said foreignry (of Kidwelly) at a place called Pinget (sic), late in the tenure of John Ungoed, containing six acres of lands or thereabouts' yn rhan o ddemÍn Cyd?weli ym 1609 (Rees 1953, 206). Ymddengys y cafwyd aredig cefnen a rhych o fewn rhan o'r ardal o leiaf, ac mae'n amlwg o fap degwm Pen-bre ym 1841 bod y terfynau o fewn yr ardal, ac o amgylch Pinged yn arbennig, yn nodi bod y caeau hirgul gynt wedi'u hamgŠu. Mae hyn wedi peri tiroedd amgaeŽdig unionlin sy'n debyg i'r rheini o fewn Ardal 166, ond ym 1841 ymddengys bod y broses heb ddatblygu cymaint yn Ardal 165, a'i bod felly o bosibl yn ffenomenon lled ddiweddar. Ymddengys bod y ffermydd presennol Ty Mawr, Ty-canol, Ty Cornel a Moat i gyd yn perthyn i gyfnod heb fod yn gynharach na diwedd y 18fed ganrif. Gorwedd yr ardal o fewn plwyf Pen-bre ac i'r gogledd mae Llandyry, capel anwes, a roddwyd ym 1353, ynghyd ag Eglwys Pen-bre, i New College Caerlyr (Ludlow 1998). Nid oes tystiolaeth gadarn o ddefnydd crefyddol i'r safle cyn y goresgyniad. Rhoddwyd iddi'r hawl i gynnal claddedigaethau ym 1876. Yn ei phen gogledd-ddwyreiniol eithaf mae'r ardal yn treiddio i'r maes glo ac yma y digwyddodd y newid mwyaf i'r tirlun pan sefydlwyd nifer o byllau glo a gweithfeydd haearn, rai ohonynt mor gynnar ‚'r 17eg ganrif (Thomas, 1937, 2) ac, ym 1814-24, un o ganghennau camlas Cyd-weli a Llanelli a oedd yn arwain i byllau glo Trimsaran (gweler Ardal 156). Daeth llinell rheilffordd yn ei lle ym 1865 (Ludlow 1999, 18). Gwelwyd datblygu tai fesul tipyn yn yr 20fed ganrif, ac erbyn hyn lleolir fferm ddofednod o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn rhan o'r ardal.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r ardal yn llain o dir hirgul sy'n rhedeg o'r de?orllewin i'r gogledd?ddwyrain gan ogwyddo tuag i lawr ar y cyfan tua'r gogledd-orllewin, o 20 m hyd ychydig uwchlaw lefel y mŰr. Mae'n cwmpasu darnau o dir amgaeŽdig unionlin, afreolaidd o ran si‚p a chanolig eu maint, sydd, yn arbennig o amgylch Pinged a Llandyry, yn gaeau hirgul gynt. Mae'r terfynau'n perthyn i'r 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif yn bennaf, ac maent yn wrychoedd ar wrthgloddiau, rai ohonynt wedi tyfu'n wyllt gyda choed nodweddiadol, ac yn amgŠu tir pori wedi'i wella a heb ei wella. Nodwyd tystiolaeth yn y caeau o aredig cefnen a rhych mewn dau leoliad o fewn rhan ogleddol yr ardal. Ychydig o goetir sydd yno. Mae ffermydd ar wasgar yn nodweddiadol o'r anheddiad er bod anheddau cnewyllol llac yn safleoedd hanesyddol Llandyry a Phinged. Mae tystiolaeth ffisegol o nifer o byllau haearn a glo cynnar yn yr ardal, rai ohonynt mor gynnar ‚'r 17eg ganrif. Mae arglawdd rheilffordd/Camlas Cyd?weli a Llanelli yn dal yno ynghyd ‚'r ddyfrbont a adeiladwyd yn Moat ym 1814-24.

Nodweddir yr archeoleg a gofnodwyd yn bennaf gan y nodweddion diwydiannol a nodwyd uchod, a chan adeiladweithiau. Fodd bynnag, adnabuwyd hefyd ddarn o dir amgaeŽdig a amddiffynnwyd o'r Oes Haearn.

Eglwys Ganoloesol ar ffurf croes yw Eglwys Llandyry a adnewyddwyd ym 1876 (Ludlow 1998), ond ymddengys nad yw gweddill yr adeiladau o fewn yr ardal yn gynharach na'r 18fed ganrif ac mae'r rhan fwyaf yn dyddio i ail hanner y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Ymhlith yr anheddau mae ffermdai bach, tai a bythynnod bach eraill. Mae anheddau'r 19eg ganrif wedi'u hadeiladu o gerrig, yn ddeulawr ‚ thair ffenestr fae yn y traddodiad brodorol. Mae anheddau'r 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau. Mae nifer o fythynnod, tai a safleoedd bythynnod o'r 19eg ganrif, ac ysgol ym Mhinged, yn ogystal ag anheddau o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae tai allan ffermydd o'r 19eg ganrif o gerrig ac yn weddol fach, gan gynnwys un rhes yn unig fel arfer. Fodd bynnag, mae Moat yn fferm sylweddol sy'n cwmpasu adeiladau o ansawdd da o'r 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae'r bont dros y gamlas ym Moat wedi'i rhestru fel Gradd II.

Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol cymharol hynod sy'n cyferbynnu'n gyfan gwbl ‚'r fignen adferedig i'r gogledd a'r gorllewin. Mae'r terfyn ‚'r ardal i'r de a'r dwyrain yn llai pendant, ond mae amlinellau'r caeau hirgul gynt mewn cyflwr gwell yma nag yn yr ardal gyfagos.

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]