|
WAUN BAGLAM
CYFEIRNOD GRID: SN 435037
ARDAL MEWN HECTARAU: 359.40
Cefndir Hanesyddol
Yn rhan o Faenor Ganoloesol Pen-bre gynt, mae hon yn ardal o diroedd
amgaeëdig unionlin sy'n deillio o hen gaeau hirgul gynt. Mae rhai i'w
gweld fel caeau hirgul ar fap degwm Pen-bre ym 1841, ond roedd y broses
amgáu yn fwy datblygedig nag mewn ardaloedd eraill. Dechreuodd yn yr 17eg
ganrif o bosibl, cyn yr adferwyd Mignen Pinged, a ddigwyddodd o'r 18fed
ganrif ymlaen. Gall Cilrhedyn fod yn safle anheddiad Canoloesol a gall
Fferm y Berth fod yn ddeiliadaeth 'Tir y Bearth', a oedd ym meddiant rhydd-ddaliad
Thomas Jenkin John ap John, o Arglwyddiaeth Cyd-weli, ym 1609 (Rees 1953,
204). Mae tystiolaeth o enwau lleoedd yn awgrymu bod o leiaf rhan o'r
ardal yn cael ei rheoli fel planhigfa Ôl-ganoloesol. Ar ddechrau'r 18fed
ganrif lledaenodd cynhyrchu glo i'r ardal o'i gnewyllyn o byllau cynnar
o amgylch Trimsaran a Moat, a chofnodwyd pyllau yn Waun Baglam ei hun
(Ludlow 1999, 24). Ychydig o ddatblygu tai a fu yn yr 20fed ganrif ond
erbyn hyn lleolir fferm ddofednod o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn rhan
sylweddol o'r ardal.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r ardal yn ddarnau amgaeëdig o dir unionlin, afreolaidd o ran eu siâp
a chanolig eu maint, gan ogwyddo tuag i lawr ar y cyfan tua'r gogledd-orllewin,
o 120 m i 20 m, gan gynrychioli hen gaeau hirgul a oedd yn amgaeëdig o'r
17eg ganrif hyd ddechrau'r 19eg ganrif. Gwrychoedd ar wrthgloddiau yw'r
terfynau, sydd wedi tyfu'n wyllt yn gyffredinol ac yn amgáu tir pori heb
ei wella gan fwyaf. Ceir pocedi sylweddol o goetir collddail yn arbennig
o amgylch ffermydd y Wern a'r Berth, ac mae gan rai wrychoedd a esgeuluswyd
goed nodweddiadol sy'n rhoi ymddangosiad coediog i'r tirlun; mae coetir
o'r fath, fodd bynnag, yn eilradd i gyd yn ôl pob tebyg. Nodweddir yr
anheddu gan ffermydd ar wasgar ac ymddengys bod eu hadeiladau yn perthyn
yn bennaf i'r 19eg a'r 20fed ganrif, ond mae'n bosibl bod gan Fferm y
Berth wreiddiau yn yr 17eg ganrif (Rees 1953, 204), ac mae morffoleg Waun
Baglam/Tyllwyd a Bryn-dias yn awgrymu eu bod o bosibl wedi datblygu fel
aneddiadau sgwatwyr ar ymyl Tir Comin Waun Baglan (Ardal 176) yn y 18fed
a dechrau'r 19eg ganrif.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys maen hir o'r Oes
Efydd i'r de-orllewin o'r ardal, cromlech gron o'r Oes Efydd o bosibl
ac anheddiad wedi'i amddiffyn o'r Oes Haearn. Mae tystiolaeth ffisegol
o byllau a mwyngloddiau glo o ddechrau'r 18fed ganrif ymlaen.
Mae'r adeiladau o fewn yr ardal hon yn ffermydd gan fwyaf
sy'n perthyn i ddiwedd y 19eg a'r 20fed ganrif ar y cyfan, ac maent o
gerrig â thoeau llechi, a cheir bythynnod o'r 19eg ganrif a thai eraill
ar wasgar, a datblygiad preswyl bach gwasgaredig o ddiwedd yr 20fed ganrif.
Mae'r ffermdai yn fach, yn ddeulawr a thair ffenestr fae ganddynt, yn
y traddodiad brodorol, ac mae hen adeiladau fferm lle maent yn bodoli
yn fach, yn aml yn un rhes yn unig ac wedi'u hadeiladu o gerrig neu friciau.
Mae'r bythynnod wedi'u hadeiladu o gerrig.
Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol cymharol hynod sy'n
cyferbynnu â llechwedd Mynydd Pen-bre a'r Tir a amgaëewyd gan y Senedd
i'r de a'r dwyrain. Mae'r terfyn â'r ardal i'r gogledd a'r gorllewin yn
llai pendant, ond mae amlinellau'r caeau hirgul gynt mewn gwell cyflwr
nag yn yr ardal honno.
|