Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

CAEAU HIRGUL CYD-WELI A LLANSAINT

CYFEIRNOD GRID: SM 389085
ARDAL MEWN HECTARAU: 345.60

Cefndir Hanesyddol
Ardal sy'n gorwedd o fewn terfynau bwrdeistref Canoloesol Cyd-weli i'r dwyrain, a Llanismel i'r gorllewin ac a ddelid fel estroniaeth Arglwyddiaeth Cyd-weli (Rees 1953, 175-212). Mae iddi hanes Canoloesol ac ‘l-ganoloesol sydd wedi'i ddogfennu'n dda. Rhoddwyd yr ardal i'r Esgob Roger o Gaersallog ym 1106 (Avent 1991, 167), a ragflaenodd ei ad-drefnu ar linellau maenoraidd. Fe'i trosglwyddwyd rhwng dwylo'r Eingl-Normaniaid a'r Cymry yn ystod y 12fed a dechrau'r 13eg ganrif, ond cafwyd amodau mwy sefydlog ar ddiwedd y 13eg a'r 14eg ganrif o dan ddeiliadaeth y teulu Chaworth ac, o 1327, Dugiaeth Caerhirfryn. O fewn estroniaeth Llanismel i'r gorllewin mae eglwys yr Holl Saint yn Llansaint, a saif ar ganol anheddiad cnewyllol y cytunir yn gyffredinol yw safle 'Halkyn' neu 'Hawkin' a welir ar fapiau cynnar (James 1991, 144-5; Rees 1953, 174). Gall enwau caeau cyfagos 'Parc Whitland' a 'Park y Prior' fod yn coffŠu tir mynachaidd gynt. Galwyd rhan o hanner dwyreiniol yr ardal hon, a orweddai o fewn bwrdeistref Cyd-weli, yn 'Shilland Field' (sharelands?) yn ystod y cyfnod ‘l-ganoloesol cynnar ac fe'i rhannwyd yn dir pori comin uwchlaw 90 m a chaeau hirgul agored islaw hynny. Mae'n bosibl bod ardal gyfagos, 'Burghylle', wedi bod yn eiddo i Briordy Cyd-weli (Barnie and James, 1977, 45). Cofnodir lleiniau sy'n eiddo i arglwydd y faenor (Coed yr Arglwydd), a theulu lleol o'r enw Barret, mewn enwau tenementau o 1609 (Rees 1953, 207); mae'r hen enw'n awgrymu presenoldeb coetir a dorrwyd yn y cyfnod canoloesol. Ym 1630 gwerthwyd arglwyddiaeth Cyd-weli i ieirll Carbery a'i daliodd hyd nes 1804 pan y'i trosglwyddwyd i ystad Cawdor (Jones 1983, 18); bu datblygiadau wedi hynny ar raddfa fach.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ardal sy'n gorwedd rhwng 25 m a 150 m, ac yn wynebu'r de yn gyffredinol. Mae natur faenoraidd y ddeiliadaeth o fewn yr ardal yn ystod y cyfnod canoloesol wedi creu tirlun a nodweddir gan ei system o gaeau hirgul creiriol, ac roedd yr hen leiniau gynt yn dal yn amlwg ym 1840 (mapiau degwm Cyd-weli a Llanismel). Ychydig o goetir sydd yno, y cyfan yn eilradd. Ceir ffermydd a safleoedd bythynnod arferol ar wasgar. O fewn estroniaeth Llanismel i'r gorllewin, gorwedd anheddiad cnewyllol o amgylch Eglwys Llansaint - sydd mewn lleoliad canolog, hynod o fewn y pentref - ar ganolbwynt i nifer o ffyrdd o fewn ardal ar wah‚n o hen gaeau hirgul. Mae'r brif ffordd rhwng Cyd-weli a Glan-y-fferi yn dilyn llinell llwybr Canoloesol a elwir yn 'Ferry Way', a arweiniai o Gyd?weli i Fferi Llansteffan dros aber afon Tywi (Rees 1932). Un o ganghennau'r llwybr hwn yw un o'r llwybrau sy'n cydgyfarfod yn Llansaint ac a elwid yn 'Portway'. Bellach mae'r hanner hwn o'r ardal i gyd yn dir pori wedi'i wella gyda darnau amgaeŽdig o dir hir, o faint canolig, wedi'u rhannu gan wrychoedd ar wrthgloddiau, mewn cyflwr da ar y cyfan. Yn hanner dwyreiniol yr ardal, a orweddai o fewn bwrdeistref Cyd-weli, mae nifer o lasleiniau hirgul islaw 90 m, ac uwchlaw iddynt roedd tir pori comin (Barnie and James, 1977, 45) a oedd yn dymhorol o bosibl. Nodwedd o'r tirlun yma hefyd yw ceuffordd a dyfodd yn wyllt, 'The Summerway', a gofnodwyd ym 1396. Ymddengys bod argloddiau a chloddiau yn yr ardal hon erbyn yr 16eg ganrif ac mae nifer o derfynau a cherrig terfyn creiriol (Barnie and James 1977,42). Fodd bynnag, cafodd cyfeirio ffordd dyrpeg drwy'r ardal rhwng 1763 a 1811, hy, yr A484 bresennol (M S C Evans 1988, 66), effaith ar ad-drefnu rhai o'r terfynau; dilynodd llwybr cynharach gwrs tebyg ac mae ei derfynau yn dal yn bresennol. Mae'r hanner dwyreiniol hwn yn ardal o dir pori wedi'i wella yn y bŰn ond ceir rhywfaint o redyn ar lethrau serth. Rhennir y darnau amgaeŽdig o dir hir, o faint canolig, gan wrychoedd ar wrthgloddiau, rai ohonynt yn tyfu'n wyllt ac yn ddiffaith gyda choed nodweddiadol, ond maent mewn cyflwr da ar ymyl y ffyrdd. Yn y ddwy ardal mae'r patrwm anheddu presennol yn un o ffermydd gwasgaredig yn bennaf, ac ychydig o ddatblygu modern a fu o fewn anheddiad cnewyllol Llansaint.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd, yn ogystal ‚'r nodweddion a grybwyllwyd uchod, yn cynnwys elfennau o dirluniau gwaelodol megis dwy (tair o bosibl) o feini hirion a dwy gromlech bosibl, o'r Oes Efydd, a chylch pridd posibl o'r Oes Efydd neu gaer o'r Oes Haearn. Rhestrwyd Eglwys Ganoloesol yr Holl saint, yn Llansaint, ‚ thirnod, yn Radd B. Mae'r ardal hefyd yn nodweddu nifer o bistylloedd a ffynhonnau naturiol, y sonnir am rai ohonynt mewn adroddiadau Canoloesol diweddar, a safle posibl capel a ymgysegrwyd i Sant Thomas yn ymyl Cyd-weli (Rees, 1932). Cynrychiolir yr archeoleg ddiweddarach gan adeiladau yn bennaf.

Mae'r ffermdai yn perthyn i'r 19eg ganrif yn gyffredinol, ac maent wedi'u hadeiladu o gerrig ac iddynt doeau llechi, yn ddeulawr, a thair ffenestr fae iddynt, wedi'u rendro ac yn y traddodiad brodorol. Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd dwy res neu fwy o dai allan o gerrig o'r 19eg ganrif yn ogystal ag adeiladau amaethyddol modern. Nodweddir pentref Llansaint gan glwstwr o dai cerrig o'r 19fed ganrif o gwmpas yr eglwys gyda chylch llac o ffermydd a datblygiad preswyl modern o'i amgylch. Mae hen efail gynt yn Llansaint, a dau fuarth.

Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol cymharol hynod sy'n cyferbynnu ‚'r patrwm o ddarnau amgaeŽdig mwy rheolaidd o dir i'r de a'r dwyrain, a'r darnau amgaeŽdig rheolaidd iawn o dir i'r gogledd a'r gorllewin.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]