|
HEN GAEAU HIRGUL HOLLOWAY
CYFEIRNOD GRID: SN 413066
ARDAL MEWN HECTARAU: 76.10
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn bwrdeistref Canoloesol Cyd-weli, sydd â hanes Canoloesol
ac Ôl-ganoloesol wedi'i dogfennu'n dda, ac yn cynrychioli caeau trefi
gynt. Rhoddwyd ardal Cyd-weli (a'r arglwyddiaeth ddiweddarach) i'r Esgob
Roger o Gaersallog ym 1106 a sefydlodd y bwrdeistref (Avent 1991, 167),
ond fe'i trosglwyddwyd rhwng dwylo'r Eingl-Normaniaid a'r Cymry yn ystod
y 12fed a dechrau'r 13eg ganrif. Cafwyd amodau mwy sefydledig yn ystod
diwedd y 13eg a'r 14eg ganrif o dan ddeiliadaeth y teulu Chaworth ac,
o 1327, Dugiaeth Caerhirfryn. Ymddengys bod o leiaf hanner gorllewinol
yr ardal wedi gorwedd o fewn ystad Muddlescwm, deiliadaeth ychydig i'r
dwyrain o fewn estroniaeth yr arglwyddiaeth, oherwydd ym 1487 rhoddwyd
'one rood at Le Halwey' (Holloway) i William Howe a Joan, ei wraig, gan
Trahaiarn ap Morgan o Muddlescwm (Jones 1985, 17). Mae'r gwaith o ddiwydiannu
Cyd-weli drwy'r 18fed a'r 19eg ganrif wedi gadael ei ôl hefyd o fewn y
tirlun ar ffurf llinell reilffordd a hen weithfeydd briciau a silica gynt.
Mae Ffordd Osgoi Cyd-weli, yr A484, yn croesi'r ardal a chafwyd rhywfaint
o ddatblygu o ddiwedd yr 20fed ganrif ar hyd y ffyrdd cefn, ond yr argraff
gyffredinol yw un o ddiffeithdra.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ardal fach o gaeau cymharol fach yn gorwedd rhwng 5 metr ac 20 metr, gan
gynrychioli system o gaeau hirgul gynt sy'n gysylltiedig â bwrdeistref
Canoloesol Cyd-weli. Mae'r stribedi gynt yn fwyaf amlwg i'r gorllewin,
o amgylch Fferm Holloway sy'n tarddu o'r cyfnod Canoloesol; maent yn llai
amlwg i'r dwyrain lle cafwyd rhywfaint o ad-drefnu terfynau. Mae'r terfynau
drwy'r ardal yn wrthgloddiau, sydd bellach wedi tyfu'n wyllt ac yn ddiffaith,
gan rannu caeau o dir pori heb ei wella sy'n cael eu hesgeuluso. Nid oes
coetir yma. Mae ffordd osgoi Cyd-weli, sy'n croesi'r ardal hon, wedi arwain
at rannu'r system caeau ymhellach.
Drwy'r ardal rhed cangen gynt o brif linell Gorllewin Cymru
o'r Great Western, a sefydlwyd yn yr 1870au i gludo mwynau a cherrig o'r
chwareli ar Fynyddgarreg, ac alcam o'r gweithfeydd gynt i'r dwyrain o
Gyd-weli (Ludlow 1991, 84). Gorweddai gweithfeydd briciau a silica 'Dinas'
gynt i'r gorllewin o'r ardal (Argraffiad Cyntaf 6" Arolwg Ordnans, Dalen
LIII. NE, 1891). Yr unig safle archeolegol arall a gofnodwyd yn yr ardal
yw hen efail Ôl-ganoloesol gynt ar yr A484.
Ychydig o adeiladau sydd yno. Soniwyd am Holloway ym 1487
a gall ei enw awgrymu gwreiddiau Canoloesol i'r ffordd y gorwedd arni
sy'n arwain o'r dwyrain i'r gorllewin; mae'r ty'n dal i sefyll ond ni
nodwyd elfennau cynnar.
Ardal tirlun hanesyddol o ddarnau amgaeëdig, cul, hir o
dir sydd ar wahân i dref Cyd-weli i'r gogledd a'r gorllewin, y caeau mwy
o faint, afreolaidd o ran eu siâp, i'r dwyrain a'r fignen/fignen gynt
i'r de.
|