|
MORFA BACH
CYFEIRNOD GRID: SN 430069
ARDAL MEWN HECTARAU: 366.70
Cefndir Hanesyddol
Estroniaeth Arglwyddiaeth Cyd-weli (Rees 1953, 205-212), gyda hanes
y tirlun yn y cyfnod wedi'r Goresgyniad wedi'i gofnodi'n dda. O'r 14eg
ganrif o leiaf, roedd deiliadaeth Muddlescwm yn hanner deheuol yr ardal,
tra'r oedd Coedwig Glyn sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol yn ymestyn i ogledd
yr ardal o gwmpas Morfa Bach (Rees 1932). Soniwyd am Muddlescwm am y tro
cyntaf ym 1342 pan y'i rhoddwyd i Thomas Peerys (Jones 1985, 15). Nid
yw union statws y ddeiliadaeth, a natur ei deiliadaeth yn hysbys. Ym 1394
prydlesodd John Vachan 'faenor' Muddlescwm 'except a wood at Modelyscom
and a tenement in Le Langstret', a gall fod yn gysylltiedig ag anheddiad
blaenorol, ond roedd bob amser yn atebol i'r llys estroniaeth yng Nghyd-weli
(ibid.). Ym 1408 roedd yn cynnwys '2 messuages, 4 carucates, 12 acres
of meadow, 100 acres of wood, and 8 acres of marsh and pasture' (ibid.);
mae'n bosibl bod amgau'r tiroedd maenoraidd eisoes wedi dechrau. Erbyn
canol y 15fed ganrif caffaelwyd y ddeiliadaeth gan y teulu Dwnn o Benallt,
a ddaeth yn un o brif deuluoedd bonedd a sylwebyddion Cymru. Gwnaed arolwg
lled fanwl o'r ardal hon ym 1609 pan ddisgrifiwyd Cwm Hêd, fel 'Combeheade',
fel 'moor.containing two acres or thereabouts'. Rhyngddo a Muddlescwm
roedd tir comin a oedd yn eiddo i rydd-ddeiliaid yr estroniaeth, tra'r
oedd Morfa Bach yn dir comin ar gyfer pori hefyd ac yn cynnwys 4 erw 'or
thereabouts' (Rees, 1953, 209). Trosglwyddwyd Muddlescwm yn ddiweddarach
i'r teulu Morgan, teulu'r Mansel ar y pryd, ac mae bellach yn fferm rydd-ddaliad.
Dim ond rhyw fymryn o effaith gafodd y diwydiant glo ar yr ardal hon a
gadawodd ei ôl ar y rhan fwyaf o'r tirluniau o amgylch, ond roedd golchfa
lo, a sefydlwyd ym Muddlescwm, sydd bellach wedi'i dymchwel, yn dal yn
weithredol tan tua 1990. Camlas Kymer o 1766-6, a ddisodlwyd gan reilffordd
ym 1865, yw terfyn deheuol yr ardal.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ardal o ddarnau mawr, amgaeëdig, unionlin o dir sy'n gorwedd rhwng
5 m a 90 m ac sydd, o leiaf yn rhannol, fwy na thebyg yn dyddio o ddiwedd
y cyfnod Canoloesol. Gall fod y lleiniau o goetir collddail pendant yng
Nghoed Mawr, Cwm Hêd a Morfa Bach yn Ganoloesol hefyd, ac yn cynrychioli
coetir hynafol. Mae'r defnydd presennol o'r tir bellach i gyd yn dir pori
wedi'i wella gydag ychydig o dir âr. Rhennir y caeau gan lethrau pridd
â chloddiau sydd mewn cyflwr da yn gyffredinol, er bod nifer fach yn tyfu'n
wyllt; mae ffensys gwifrau yn helaeth. Mae'r anheddu yn cwmpasu ffermydd
ac anheddau gwasgaredig sy'n perthyn i'r 19eg ganrif neu'n gyfoes yn bennaf.
I'r cyfnodau Canoloesol ac Ôl-ganoloesol y perthyn yr archeoleg
a gofnodwyd o fewn yr ardal yn bennaf, ond mae'n cynnwys maen hir o'r
Oes Efydd. Mae olion o gapeliaeth Ganoloesol, sy'n gysylltiedig â ffynnon,
sef Capel Mihangel, ychydig i'r gorllewin o Muddlescwm (Jones 1985, 12).
Mae ail gapeliaeth a ffynnon, sef Capel Teilo, a grybwyllwyd ym 1593 (Jones
1991, 255-259) tua gogledd yr ardal. Mae'r safleoedd ac adeiladweithiau
Ôl-ganoloesol yn bennaf gysylltiedig â'r diwydiant glo ac yn cynnwys Camlas
Kymer, cei a phontydd Muddlescwm, y llinellau rheilffordd a chilffyrdd
diweddaraf, yr olchfa lo gynt a thy tafarn.
Mae'r plasty presennol yn Muddlescwm yn perthyn i'r 17eg
ganrif ond mae iddo wreiddiau cynharach, a gall fod yn gysylltiedig ag
anheddiad Canoloesol; nid oedd wedi'i restru ym 1999. Mae'r ffermydd eraill
yn perthyn i'r 19eg ganrif yn bennaf gyda ffermdai wedi'u hadeiladu o
gerrig, yn ddeulawr â thair ffenestr fae yn y traddodiad brodorol, er
bod rhai tai o'r 20fed ganrif yn bresennol. Mae gan lawer o ffermydd resi
cymharol fawr o dai allan o'r 19eg ganrif, rai ohonynt wedi'u trefnu'n
lled ffurfiol o amgylch iard, yn ogystal ag adeiladau amaethyddol modern.
Ardal tirlun hanesyddol nodweddiadol o ddarnau amgaeëdig
mawr, Canoloesol o bosibl, o dir sy'n wahanol i'r fignen adferedig i'r
de a'r dwyrain a chaeau llai hirgul blaenorol i'r gogledd a'r gorllewin.
|