Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

TIR AMGAEňDIG MYNYDD PEN-BRE

CYFEIRNOD GRID: SM 448034
ARDAL MEWN HECTARAU: 216.50

Cefndir Hanesyddol
Ardal o dir comin gynt ar Fynydd Pen-bre. Mynydd Pen-bre a gynrychiolai'r darn mwyaf o Faenor Penrhyn yn ystod yr Oesoedd Canol, a gafodd ei ddal, ynghyd ‚ maenor Pen-bre, gan Arglwyddiaeth Cyd-weli yn y lle cyntaf fel brodoriaeth ac estroniaeth (Rees 1953, 200). Mwynhaodd statws maenoraidd mor gynnar ag 1361 o leiaf ac erbyn 1630 roedd wedi dod yn annibynnol ar Arglwyddiaeth Cyd-weli (Jones 1983, 18). Cofnodwyd tystiolaeth ffisegol o drin y tir yn y dull cefnen a rhych yng Nghwm-y-Rhyfel i'r dwyrain o'r ardal, ond gan fwyaf roedd yn dir comin heb ei amgŠu, a alwai Rees yn 'Mynydd Rhos' (Rees, 1932). Parhaodd felly o'r Oesoedd Canol hyd at ganol y 19eg ganrif pan gafodd ei amgŠu - yn breifat, gan nad oes Deddf Seneddol yn goroesi. Efallai bod llawer o'r tir comin yn goediog yn ystod yr Oesoedd Canol (Williams 1981, 5). Efallai fod Waun Baglam/Tyllwyd a Bryn-dias, mewn ardal gyfagos, wedi datblygu fel aneddiadau sgwatwyr ar ymyl y tir comin yn y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, ac efallai fod gan y datblygiad ymylol o amgylch Heol-ddu ychydig y tu hwnt i ben gorllewinol yr ardal wreiddiau tebyg ond mae'n ddiweddarach fwy na thebyg, ac yn gysylltiedig ‚ chwarel gerllaw. Gwelodd yr 20fed ganrif adeiladu nifer o anheddau unigol ar wasgar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ardal o ddarnau o dir amgaeŽdig syth, rheolaidd o ran si‚p, o'r 19eg ganrif yn Űl pob tebyg, gyda ffyrdd a llwybrau syth, wedi'i lleoli ar hen dir comin gynt ar gopa Mynydd Pen-bre ar gyfartaledd uchder o 165 m. Mae'r terfynau, ffyrdd a'r llwybrau yn perthyn i ganol y 19eg ganrif, ac mae'r ffiniau yn wrychoedd ar wrthgloddiau sydd ar y cyfan heb eu rheoli, yn tyfu'n wyllt ac yn mynd yn ddiffaith, a ffensys gwifrau yn ychwanegol atynt. Defnyddir y tir, sydd wedi'i wella a heb ei wella, ar gyfer pori. Nid oes coetir collddail, ond plannwyd ardal fawr i'r gorllewin, Coedwig Waun Baglan, ‚ choedwig conifferau ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae'r ffermydd a'r tai gwasgaredig yn perthyn yn bennaf i'r 19eg a'r 20fed ganrif, ond awgrymwyd efallai fod Bigyn yn tarddu o'r Oesoedd Canol.

Cyfyngedig yw'r archeoleg a gofnodwyd ac mae'n cynnwys beddrod crwn posibl o'r Oes Efydd, bryngaer a chwarel o'r Oes Haearn o bosibl. Yn eu ffurf bresennol nid yw'r adeiladau yn nodweddiadol, ac maent yn perthyn i'r 19eg a'r 20fed ganrif ac wedi'u hadeiladu o amrywiaeth o ddeunyddiau.

Mae ffermdai ac anheddau eraill naill ai'n perthyn i ddiwedd y 19eg ganrif, wedi'u hadeiladu o gerrig, yn ddeulawr neu'n un llawr a hanner a thair o ffenestri bae, yn weddol fach ac yn y traddodiad brodorol, neu'n gyfoes. Nid yw tai allan ffermydd yn gyffredin, a lle bodolant maent yn fach, yn un rhes yn gyffredinol, ac yn perthyn i ddiwedd y 19eg neu'r 20fed ganrif.

Ardal tirlun hanesyddol bendant sy'n wahanol i'r patrwm o ddarnau o dir amgaeŽdig llai o faint, afreolaidd o ran si‚p, i'r gogledd orllewin a'r coetir sydd heb ei amgŠu i raddau helaeth i'r de orllewin.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]