Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

MORFA HELI PEN-BRE

CYFEIRNOD GRID: SN 384054
ARDAL MEWN HECTARAU: 641.20

Cefndir Hanesyddol
Ardal o forfa heli o boptu aber Gwendraeth. Datblygodd yr ochr ddeheuol yn bennaf ers adeiladu Banc-y-lord, y morglawdd mawr sy'n ffurfio ymyl ddeheuol yr ardal, ym 1817-18 (James 1991, 156-7). Bu ochr ogleddol yr aber yn agored i erydiad yn hytrach na dyddodiad, ond roedd lle amlwg i gei, sef Cei Berwyn (neu 'Ballast'), tan ganol y 19eg ganrif (Morris 1988, 77). Sefydlwyd cei yn Pill Tywyn ym mhen eithaf Camlas Ashburnham tua 1801 cyn yr adeiladwyd Banc-y-lord yn l pob tebyg (James 1991, 156-7). Gerllaw roedd allfa Draen Swan Pool, a ddraeniodd y corstir gynt i'r dwyrain.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Yr unig beth yn yr ardal hon yw morfa heli datblygol heb ei amgu sy'n gorwedd ychydig uwchlaw cyfartaledd y Nod Penllanw ac a groesir gan nentydd a chaerau tanddaearol. Arglawdd prif linell rheilffordd De Cymru, a agorwyd ym 1852 (Ludlow 1999, 28), yw ymyl ogleddol yr ardal.

Yr unig nodweddion archeolegol a gofnodwyd yw'r ceiau a ddisgrifiwyd uchod, y morgloddiau a dau longddrylliad.

Ni cheir adeiladau yma.

Mae hon yn ardal tirlun nodweddiadol sy'n gorwedd rhwng y Nod Penllanw a bryniau tywod Twyni Pen-bre i'r de a Thwyni Cyd-weli i'r gogledd.

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]