|
Peilot
prosiect yw ‘Arfordir’, neu ‘Coastline’
a sefydlwyd er mwyn cofnodi, deall a monitro newidiadau yn ein treftadaeth
arfordirol.
Bydd y prosiect yn dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd i adnabod
a chofnodi safleoedd treftadaeth arfordirol a’r newidiadau
sy’n digwydd iddynt, gyda chymorth archaeolegwyr proffesiynol.
|
|
| |
|
Ers canrifoedd bu’r
môr yn ffurfio tirwedd Cymru, a bywoliaeth ac agweddau
pobl.
Un o drysorau Cymru yw ei harfordir, gyda’i thraethau
ysgubol tywodlyd, clogwyni aruthrol, cilfachau diarffordd
a bywyd gwyllt toreithiog. Am filoedd o flynyddoedd fe ddenwyd
pobl i’r arfordir hwn ac maent wedi gadael eu holion
ar ei hyd yn gyfan gwbl. O bentrefi bach sy’n nythu
o amgylch harbwr i gaerau anferth a adeiladwyd i ddiogelu
dyfrffyrdd strategol, o gyfnodau cynhanesyddol i’r hyn
sydd o fewn cof, mae treftadaeth arfordirol Cymru heb ei hail.
|
|


|

|
Pob peth a phob man! Edrychwch
yn ofalus wrth i chi gerdded ar hyd yr arfordir, ac fe welwch
dystiolaeth o weithgareddau dynol.
Dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd helwyr-casglwyr
yn defnyddio’r arfordir hwn; gallwn ddod o hyd i’w
harfau cerrig hyd y dydd heddiw. Yn y parth llanw –
rhwng y llanw uchel a’r llanw isel – gallwn weld
olion hen fforestydd ar adegau, a foddwyd gan lefelau’r
môr sy’n codi.
Tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl adeiladwyd caerau o’r
Oes Haearn ar y pentiroedd ac ar ben y clogwyni, ac ers hynny
mae’r bobl yn parhau i ddiogelu eu harfordir. Bellach,
fe erys y caerau a’r tyrrau ar wyliadwriaeth ddistaw,
ac mae’r gorsafoedd radar a’r safleoedd drylliau
gwag yn adleisiau o’r gwrthdaro a fu.
Mae olion diwydiant yn hollol amlwg gyda phorthladdoedd, odynnau
calch a chwareli’n tystio i waith pobl; ceir tystiolaeth
o wahanol fath yn y capeli, eglwysi ac allorau lle'r oedd
pererinion a theithwyr yn cynnig diolch am deithio’n
ddiogel dros y môr.
Yn bentrefi pysgota ac ierdydd cychod, ceiau, porthladdodd
a dociau...mae yma gannoedd o adeiladau sy’n dogfennu
ein perthynas â’r môr.
Gall ein harchaeoleg arfordirol ein cynorthwyo i ddweud yr
holl hanes am aneddiad dynol Cymru. Ond mae llawer i’w
ddarganfod o hyd, ac mae’n bosibl bod llawer ohono dan
fygythiad.
|
|
|