Cyflwyniad
Yr Arfordir Newidiol
Sut i Ymuno
Gweithgareddau
Prosiectau
Adroddiadau
Ffurflennau
English

Mae ein harfordir yn newid yn rheolaidd oherwydd erydiad, defnyddio’r tir a newid yn yr hinsawdd.
Mae’r newidiadau hyn yn dylanwadu ar ein treftadaeth arfordirol, yn niweidio neu’n difetha safleoedd archaeolegol rydym yn gwybod amdanynt, a datgelu rhai newydd drwy erydiad.

   


Mae symudiad di-dor y môr yn newid y stribyn arfordirol yn rheolaidd; yn datgelu, gorchuddio ac, ar adegau, yn difetha ein treftadaeth arfordirol.

…hinsawdd gyfnewidiol
Mae’r newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd lefelau’r môr yn parhau i godi, a bod digwyddiadau eithriadol o stormus yn fwy tebygol. Mewn nifer o ardaloedd bydd erydiad yn digwydd yn llawer cyflymach, gan arwain at newidiadau – rhai newidiadau dramatig ar adegau – i’n harfordir.

...traddodiad sy’n newid
Mae’r modd rydym yn defnyddio ein harfordir wedi newid yn ddramatig. Mae rhai diwydiannau traddodiadol, fel pysgota ac adeiladu cychod, wedi dirywio. Ond mae mwy a mwy o bobl allan ar yr arfordir, ac mae’r diwydiant hamdden wedi ffynnu.

Gall newid arfordirol ac erydiad ddatgelu safleoedd archaeolegol cudd. Er enghraifft, ar ôl i storm aeafol sgwrio’r tywod o’r traeth, gall llongddrylliadau a fu’n guddiedig ers amser ddod i’r golwg. Gall strwythurau a gladdwyd ddod i’r wyneb wrth iddynt ddechrau erydu allan o ochrau clogwyni. Er bod y wybodaeth ychwanegol yn dderbyniol, mae’r safleoedd hyn hefyd o dan fygythiad yr arfordir cyfnewidiol.
Mae ein treftadaeth yn unigryw. Ar ôl iddi ddiflannu, ni ellir ei rhoi yn ôl.