Ydych chi’n byw
ger yr arfordir, neu’n ymweld yn rheolaidd? Hoffech
chi ein helpu ni i ganfod mwy am dreftadaeth arfordirol
Cymru, ac a oes gennych awr neu ddwy i’w sbario
bob hyn a hyn?
Mae angen pobl i ganfod mwy am safleoedd
archaeolegol rydym yn gwybod amdanynt eisoes ac i adnabod
rhai sydd newydd gael eu darganfod. Yn ogystal, mae
arnom angen gwirfoddolwyr i ymweld â safle yn
fynych gan gofnodi newidiadau yng nghyflwr y safle.
Bydd prosiect ‘Arfordir’
yn darparu hyfforddiant, ynghyd â phecyn gwybodaeth
ac ychydig o offer y gellir eu benthyg. Yn achos safleoedd
sy’n hynod o bwysig mae’n bosibl y byddwn
yn gallu eich helpu i wneud mwy, cynnal arolwg neu gloddiad
efallai, neu gynhyrchu taflen neu gynnal digwyddiad.
Mae fyny i chi.
Bydd yr holl wybodaeth newydd hyn
yn ein helpu i adeiladu’r darlun mawr –
beth yw ein treftadaeth arfordirol, a sut mae’n
newid?
|