Map 3D

Uwch Dechnoleg yn Chwarel Herbert!

Mae arolwg o’r awyr wedi ei wneud o Chwarel Herbert gyda thechneg sy’n defnyddio laserau o’r enw LiDAR (Light Detection and Ranging - Canfod a Mesur gyda Golau). Y canlyniad yw map cyfuchlin manwl ianw wedi ei wneud allan o 8,757,573 o bwyntiau LiDAR!

 

 

 

Ar ei ben ei hun gall yr arolwg Lidar fod yn anodd i'w ddeall ond drwy ddefnyddio cyfrifiaduron gall y data LiDAR ei arddangos mewn ffyrdd gwahanol i'w wneud yn hawsach i'w ddeall.


Model tir digidol o Chwarel Herbert


Delwedd tir wedi’i harlliwio o’r un ardal

 

Gallwn hefyd daenu ffotograff o’r awyr dros yr arolwg LiDAR er mwyn cynhyrchu delwedd 3D o’r safle.

Gallwn ddefnyddio’r olwg hon o’r awyr i’n helpu i ddeall y safle cyfan.

Drwy gymharu’r safle fel ag y mae heddiw gyda hen fapiau o’r un ardal gallwn weithio allan sut mae’r safle wedi newid dros y blynyddoedd, a pha rannau yw’r rhai hynaf.

Beth am archwilio’r safle mewn 3D o gyfforddusrwydd eich cadair freichiau i weld beth allwch chi ei ddarganfod!

Wrth i’r prosiect ddatblygu caiff delwedd y map 3d ei datblygu.

Er mwyn gweld y map 3d bydd angen i chi gael Cortona 3D wedi’i osod ar eich cyfrifiadur. Gallwch ei lawr lwytho am ddim yma,
http://www.cortona3d.com/install.aspx

Bydd angen i chi wybod a yw eich system weithredu yn un 32-bit neu 64-bit cyn penderfynu pa fersiwn i’w lawr lwytho.

Lawr lwythwch y rhaglen a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin, wedyn adnewyddwch y dudalen hon i weld y map. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r gwyliwr 3D Cortona mewn ffurf PDF yma trwy glicio ar y cysylltiad ar ochr dde'r dudalen.