Arianwyr

Rhestr o'r arianwyr sydd wedi cyfrannu i prosiect CALCH.

 

Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog

Mae Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog yn Elusen Gofrestredig a sefydlwyd yn 2009. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ystyried mai ei rôl yw galluogi cymunedau a sefydliadau gwirfoddol lleol, sy’n byw ac yn gweithio yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, i warchod a gwella eu hamgylchedd lleol yn gadarnhaol er mwyn cyfrannu at ansawdd bywyd cyffredinol y bobl sy’n byw neu’n gweithio yn y Parc, neu’n ymweld ag ef.

 

Cronfa Datblygu Cynaliadwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn grymuso cymunedau i adeiladu gwell dyfodol. Amcan Cronfa Datblygu Cynaliadwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw cefnogi prosiectau sy'n ystyried materion economaidd, amgylcheddol, cymunedol a diwylliannol, a phrosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd cymunedau yn y Parc.

 

Cronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau ar gyfer Cymru

Mae Cronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau ar gyfer Cymru yn cefnogi prosiectau cyfalaf sy'n cael eu heffeithio gan echdynnu agregau gan gynnwys prosiectau amgylcheddol a threftadaeth sy'n gysylltiedig â'r diwydiant cloddio. Gweinyddir y Gronfa gan Lywodraeth Cymru.

 

Prosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw

Mae Prosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw yn gweithio gyda chymunedau, partneriaid treftadaeth a'r sector twristiaeth ar draws Cymru i ddarparu amrywiaeth mwy integredig o weithgareddau twristiaeth treftadaeth. Bydd yn helpu i godi gwerth economaidd treftadaeth drwy gynyddu nifer, hyd a gwerth ymweliadau â Chymru ac yn helpu i agor treftadaeth eithriadol Cymru i gynulleidfa ehangach. Mae'r Prosiect wedi'i ran-gyllido gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.