2014

Prosiect CALCH Cam 1: 2012 (wedi'i ariannu gan Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog)

 

Fe wnaethom rhoi sgyrsiau am Brosiect CALCH i ddeg grwp cymunedol lleol ac mewn digwyddiadau treftadaeth yn ystod 2012.

 

 

Cyfarfod Cyhoeddus i lansio CALCH

Cynhaliwyd y cyfarfod 'Rhanddeiliaid' cyntaf ym mis Chwefror a'r cyfarfod cyhoeddus cyntaf yng Nghanolfan y Mynydd Du, Brynaman.

Dydd Agored CALCH yn Llandeilo

Ym mis Ebrill cynhaliwyd Diwrnod Agored CALCH yn swyddfeydd Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed. Crëwyd cyfres o bosteri i'w harddangos mewn sgyrsiau, digwyddiadau ac arddangosfeydd. Aeth gwefan CALCH yn fyw. Mae CALCH hefyd yn cael sylw ar safleoedd Facebook a Twitter Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed. Cafwyd sgyrsiau am CALCH yn Rhydaman, Myddfai, cymuned Llanddeusant, WI Llanddeusant, Gwynfe a Llangadog, yn Amlwch ar Ynys Môn i Banel Archaeoleg Ddiwydiannol Cymru. Hefyd cafwyd arddangosiad a chyflwyniad gan CALCH yn y Diwrnod Agored yng Nghanolfan Tywi yn Llandeilo ym mis Ebrill. Mae erthyglau am CALCH wedi ymddangos mewn nifer o bapurau newydd a chylchgronau.

 

Teithiau Tywys

Ar 21-22 Gorffennaf cynhaliwyd deuddydd llwyddiannus o deithiau tywys o gwmpas y chwareli i ddathlu Gwyl Archaeoleg Cyngor Archaeoleg Prydain mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Geoparc Fforest Fawr. Cafwyd teithiau o'r safle hefyd gan Bwyllgor Ail-ddilysu Geoparc Fforest Fawr, Pwyllgor Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog a Chyfarfod Blynyddol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed.

 

LiDAR

Cwblhawyd dadansoddiad archaeolegol o ddata LiDAR mewn cysylltiad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac mae hyn wedi galluogi i ni cynllunio'r chwareli a nodweddion cysylltiedig dros ardal o tua 100 hectar ar y Mynydd Du.

 

 

Mapio

Y gwaith hwn oedd sail arolwg maes odynau Chwarel Herbert, a wnaed gyda chymorth gwirfoddolwyr lleol.

 

Arolwg Maes

Mae gwirfoddolwr arall wedi bod yn edrych ar adroddiadau Cyfrifiad hanesyddol y cymunedau o gwmpas y chwareli i ganfod pobl oedd yn ymwneud â'r diwydiant calch. Mae'r rhain wedi'u cofnodi ar dabl GIS, a byddan nhw'n sail i ymchwil yn y dyfodol.

 

Archwilio

Mae Menna Bell (Archaeolegydd Cymunedol Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed) a Sarah Rees (lleoliad gwaith Bwrsariaeth Archaeoleg Gymunedol CBA) wedi recordio cyfweliadau gyda phobl a fu'n ymwneud â chloddio mwynau ar y Mynydd Du. Mae wardeniaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd wedi bod yn siarad â ffermwyr lleol am eu hatgofion o'r chwareli. Mae Menna, Sarah ac Ed Davies (ein lleoliad gwaith Bwrsariaeth Archaeoleg Gymunedol CBA newydd) hefyd wedi bod yn cysylltu ag ysgolion a grwpiau cymunedol i'w hannog i ddatblygu cysylltiadau â CALCH.

 

 

Arolwg ystlumod

Mae arolwg cynhwysfawr o ystlumod wedi'i gomisiynu i ganfod pa gyfyngiadau'n gysylltiedig ag ystlumod y gallai fod angen eu hystyried yn ystod y prosiect.

Y gweithdy dehongli

Cynhaliwyd 'Gweithdy Dehongli' i staff Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gydag Ymgynghorwyr Dehongli i alluogi creu Cynllun Dehongli i'r prosiect, sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae Cynllun Cadw a Rheoli hefyd ar waith.