|
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
- www.dyfedarchaeology.org.uk
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, sydd wedi’i lleoli yn
Llandeilo, sir Gaerfyrddin, yn sefydliad annibynnol sydd ag ymrwymiad rhanbarthol cryf
ac sydd wedi’i hymroi i ddiogelu, ymchwilio, cofnodi a hyrwyddo’r amgylchedd
hanesyddol. Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu ym 1975 fel rhan o rwydwaith o bedwar
sefydliad archaeolegol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Mae hi wedi’i ffurfio fel
Cwmni Cyfyngedig Preifat ac yn Elusen Breifat ac mae’n Sefydliad Cofrestredig
gan Sefydliad yr Archaeolegwyr.
|
|
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
www.beacons-npa.gov.uk
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (BBNPA) yn gyfrifol
am reoli eiddo Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac mae’n helpu i weithredu polisïau
ar gyfer gwarchod y dirwedd ac i hwyluso mwynhad o’r Parc. Mae wardeiniaid y Parc
yn gweithio’n agos gyda phartneriaid eraill sy’n ymwneud ag addysg, datblygu
cymunedol, cadwraeth ar ffermydd, rheoli coetiroedd a mynediad at gefn gwlad.
Yn ogystal â bod yn y Parc Cenedlaethol, mae Chwarel Herbertyn
rhan o ddaliad tir a berchnogir gan BBNPA. Mae BBNPA wedi ymrwymo i gymorth talu mewn
cynnyrch yn ystod oes y prosiect ac i warchod y safle yn barhaus ar ôl cwblhau’r
prosiect.
|
|
Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- www.museumwales.ac.uk
Mae Amgueddfa Genedlaethol Glannau’r Dwr yn Abertawe yn adrodd
hanes diwydiant ac arloesedd yng Nghymru, yn awr a thros y 300 mlynedd ddiwethaf. Bydd
y staff yn Amgueddfa Genedlaethol Glannau’r Dwr yn Abertawe yn darparu gwybodaeth
ac arbenigedd archaeoleg ddiwydiannol i CALCH. Mae hyn yn cynnwys trosolwg o dreftadaeth
Ddiwydiannol Cymru a chymorth o ran nodi cysylltiadau â diwydiannau eraill.
|
|
Canolfan y Mynydd Du -
www.brynaman.org.uk
Mae’r Ganolfan, yng nghanol cymuned leol Brynaman, yn cynnig
cyfleusterau i’r gymuned ac i ymwelwyr, gan gynnwys safle gwybodaeth i dwristiaid
a chaffi, cyfleusterau cynadledda a lle ar gyfer arddangosfeydd, wedi’u lleoli
o fewn anheddiad Brynaman Uchaf. Caiff y ganolfan ei hyrwyddo fel porth ymwelwyr i’r
safle a bydd yn cynnwys deunydd dehongli wedi’i argraffu a deunydd rhithwir. Bydd
hefyd yn helpu i ymgysylltu grwpiau cymunedol lleol a darparwyr twristiaeth â’r
prosiect.
|
|