Canolfan y Mynydd Du

Ymweld a'r Safle

 

 

Ceir dau faes parcio sy'n hawdd eu cyrraedd o Chwarel Herbert.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy'n berchen ar Chwarel Herbert a'r ardal o'i chwmpas. Mae'n dir â mynediad rhydd ac mae gennych chi hawl i gerdded drosto heb gadw at y llwybrau cyhoeddus. Fel rhan o brosiect CALCH byddwn yn datblygu llwybrau diogel hunan-dywys wedi'u marcio o gwmpas y safle. Bydd y rhain yn dilyn llwybrau sy'n bodoli eisoes. Mae rhywfaint o'r tir hwn yn laswelltir twmpathog garw a thir creigiog. Gall yr ardaloedd â glaswellt byr a chreigiau fod yn llithrig mewn tywydd gwlyb. Gall pentyrrau gwastraff a llethrau sgri fod yn ansefydlog dan draed ac ni ddylid eu dringo.

Gellir crwydro Chwarel Herbert hefyd fel dargyfeiriad byr o Lwybr Pellter Hir Bannau Brycheiniog lle mae'n croesi'r A4069.

Defnyddir y tir hefyd i bori da byw ac mae'n gynefin bywyd gwyllt. Er mwyn gwarchod adar sy'n nythu, wyn a defaid beichiog, rhaid cadw cwn ar dennyn lle bynnag y ceir da byw, a bob amser rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf.

Gall y tywydd newid yn gyflym iawn. Ydy'r cyfarpar cywir gennych chi? Am ragor o wybodaeth ar sut i fwynhau cerdded yn y Parc Cenedlaethol yn ddiogel, ewch i http://www.breconbeacons.org/visit-us/outdoors-activities/be-safe

 

Cod cefn gwlad

•  Byddwch yn ddiogel. Cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion

•  Gadewch gatiau ac eiddo yn yr un cyflwr ag y cewch chi nhw

•  Gwarchodwch blanhigion ac anifeiliaid ac ewch â'ch gwastraff adref

•  Cadwch gwn dan reolaeth

•  Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Drwy gydol y flwyddyn cynhelir nifer o deithiau cerdded o gwmpas y chwareli a'r ardal o'u cwmpas. Edrychwch ar y dudalen 'Digwyddiadau' am fanylion.