Home >

Dyddiadur Cloddio Sain Ffraid 2011

 

Cloddiad pedair wythnos o hyd i ddatgelu cyfrinachau canoloesol cynnar Sain Ffraid yn cychwyn ar 14 Mawrth 2011. Mae gwirfoddolwyr lleol yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed i gofnodi gweddillion mynwent capel cyn iddynt gael eu ysgubo ymaith gan y môr. Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Cadw, PLANED a'r Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.


Bae Sain Ffraith


Archwilio Nab Head

14 Mawrth

Mae i gyd yn dechrau gyda addewid da - lleoliad prydferth ar arfordir Sir Benfro, yr haul yn tywynnu, digon o archeoleg diddorol i weithio arno. Dim ond un peth ar goll - y peiriant cloddio. Peidio i boeni, digon o bethau i gadw ni'n brysur - symbolau Seiri Rhyddion ar garreg fedd yn y fynwent, taith gerdded ar hyd y llwybr arfordirol i Nab Head, safle anheddiad Mesolithig, ac mae bryngaer o Oes yr Haearn gerllaw, Tower Point. Heb anghofio ysblander y Tesco yn Hwlffordd. Felly, mae popeth yn dal o hyd i fod o'n blaen, gadewch i ni obeithio bydd y tywydd yn para.

 

 

 

 

 

 


Dyn a pheiriant


Duncan a Gareth yn edrych yn fanwl ar un o'r waliau

 

15 Mawrth

Arllwys lawr y glaw! Cyrhaeddodd y periant cloddio a'r tywydd yn araf ond yn sicr yn gwellhau wrth i'r ffos gael ei hagored. Uwchbridd yn cynnwys cymysgwch o esgyrn anifeiliaid, cregyn wystrys a phâr o fflip-fflops. Mae cwpl o waliau ac arwyneb coblog posibl wedi eu datgelu yn ogystal â sawl lleoliad bedd, felly nid yw'n ddechreuad gwael. Roedd y diwrnod wedi ei wario yn glanhau yn ôl yr ardal cloddio cyn archwilio'r nodweddion hyn yn fwy manwl.

 


Bwcedi a rhawiau ar lan y mor


Mags a Flick yn brwsio lan ar eu harchaeoleg

16 Mawrth

Yr haul, y môr a rhawiau. Rydym yn parhau i lanhau y safle er mwyn datgelu nifer o doriadau bedd posibl, rhai gyda leinin carreg, capiau a marcwyr posibl. Mae'r ddau wal yn ymddangos i fod o ddyddiadau gwahanol ond mae eu pwrpas yn dal i fod ar hyn o bryd yn aneglur. Mae llif cyson o fobl yn pasio, pobl leol a bobl ar eu gwyliau, yn mwynhau'r heulwen ac yn stopio am sgwrs ac i weld sut yr ydym yn dod ymlaen.


Gweithwyr y fynwent


Duncan a Gareth yn glanhau

 

17 Mawrth

Rydym yn parhau i lanhau y ffos i ddiffinio'r archeoleg. Mae na nifer o feddau, rhai gyda cherrig capio a marcwyr posibl. Fe gloddiodd Mags ardal sy'n cynnwys nifer o garegos cwarts a gredir i fod yn gysylltiedig â ddefodau claddu canoloesol cynnar. Mae'r olygfa allan i'r môr yn diflannu yn araf drwy gydol y prynhawn fel i'r glaw ddychwelwyd.



Chris yn y bedd


Mae cynllun cyfrwys gan Hubert

 

18 Mawrth

Hwyl yn yr haul, darganfod mwy o feddau. Fe wnaeth Hubert a Irene gynllunio'r safle tra bod Chris yn di-ddaearu claddfa gyda cap cerrig arall. Mae pawb yn awyddus i ddechrau cloddio i mewn i'r toriadau bedd eu hunain - bydd yr esgyrn wedi parhau? Efallai fod y wal sylweddol a'r wyneb heol bosib sy'n gysylltiedig yn marcio llwybr sy'n arwain o'r odyn galch i lawr i'r traeth - mae hun i'w gadarnhau yn y dyfodol.



Rydym yn parhau i glanhau'r ffos ac yn dechrau arlunio'r nodweddau yr ydym wedi datguddio


Mike yn disgrifio ein darganfyddiadau i grwp o ymwelwyr o Benfro

19 Mawrth

Dydd Sadwrn heulog = bobl, pobl ym mhobman! Wel, yn gymharol ar ôl llonyddwch yr wythnos. Nofwyr tan dwr, bobl ar eu gwyliau, pobl leol, parti priodas ac aelodau o Gymdeithas Hanes Penfro, a ddaeth i lawr i weld y safle. Gyda'r cynllunio cyn-gloddio bron ar ben roeddem yn rhydd i ddechrau agor y beddau. Maent yn ymddangos i fod wedi eu pacio i mewn yn eithaf trwchus; i gyd, fel roeddem yn disgwyl, wedi eu halinio o'r dwyrain i'r gorllewin mewn ffasiwn wir Cristnogol. Sylwad cyson oddiwrth y gweledyddion â diddordeb oedd pa mor fyr ymddangosodd y beddau - yn gyffredinol, dim mwy na tua 5'5"o hyd. Fe feindiwyd caregan cwarts arall mewn un claddfa, ac mae rhai darnau o asgwrn dirywiedig wedi eu darganfod ond, hyd yma, nid oes sgerbydau i adrodd.

 

 


Gellir gweld rhes o feddau yn glir nawr


Hubert ac Emma yn arolygu mewn grid i'r arolwg geoffisegol

 

21 Mawrth

Dydd Llun oedd y dydd olaf o glirio'r safle. Yfory mae pawb yn gobeithio gallu dechrau ar y gwaith cyffrous o gloddio rhai o'r nodweddion sydd wedi cael eu datgelu. Mae un bedd pellach gyda capiau cerrig wedi ei ddarganfyddi gan Anna, tra'n glanhau yn ol yn rhan ganolog y ffos. Mae'r capiau cerrig yn diflannu o dan beth sydd nawr yn ymddangos i fod yn wal derfyn diweddarach, o bosibl yn gysylltiedig ag adeilad a ddarganfyddwyd drws nesaf i'r odyn galch cyfagos pan oeddem yn cloddio yma ddwy flynedd yn ol. Mae Hubert ac Emma wedi dechrau ar yr arolwg topograffig (lympiau a bympiau!) o'r cae i'r de o Eglwys Sain Ffraidd. Efallai yn awr y bydd oedi o ychydig o ddyddiau yn y dyddiadur cloddio am fod ein 'dewin we' ar saffari yn Ne Affrig. Bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau cyn bo hir ...



Mae Chris yn dechrau cloddio un o'r claddedigaethau yn ofalus


Un o'r claddedigaethau wedi'i leinio gan garreg
A fydd yr esgyrn y tu fewn wedi parhau yn well?


Archeolegwyr yn y niwl! Hubert a Tom yn arolygu'r safle

22 Mawrth

O'r diwedd! Rydym yn dechrau datgelu cynnwys dau o'r beddau, ond mae'n dod yn amlwg yn fuan fod yr esgyrn mewn cyflwr gwael iawn. Mae rhai asgwrn yn goroesi, ond dim ond y rhai mwy o faint ac yn fwyaf cryf sef y benglog a'r esgyrn hir. Y rheswm am gadwraeth gwael yr esgyrn yw asidedd y pridd yn y rhan hon o Sir Benfro. Mae'r esgyrn yn lythrennol wedi toddi! Rydym yn gobeithio gweld fod y claddedigaethau yn y beddau wedi'u leinio a cherrig wedi cadw yn well. Rydym hefyd yn dechrau gwneud cynllun o'r safle drwy ddefnyddio'r 'Mesurydd Pellter Electronig'.








Pete a Nick yn gwneud y geoffiseg


Tom a Emma yn ymchwilio bedd


Chris yn cynllunio bedd

 

23 Mawrth

Diwrnod prysur gyda digon o ymwelwyr, yn mwynhau'r heulwen a'r archaeoleg - mae'n teimlo fel petai'r haf wedi cyrraedd yn gynnar! Mae Pete a Nick yn dechrau'r arolwg geoffisegol yn y cae i'r gorllewin o'r eglwys. Rydym yn gobeithio dod o hyd i dystiolaeth o ffos ac adeiladau posibl sy'n dangos i fyny ar lun o'r awyr. Mae Chris yn arlunio llun graddfaddol o gladdedigaeth y wnaeth gloddio ddoe. Mae Tom ac Emma yn parhau i gloddio un o'r beddau. Mae'r beddau wedi eu gosod yn ofalus mewn rhesi, sy'n awgrymu fod y fynwent wedi ei 'rheoli'.





Judy yn glanhau y dryswch o gerrig i nodi mwy o feddau


Mae'r tim yn cymryd sbel haeddiannol yn y tywydd poeth

 

24 Mawrth

Diwrnod arall o dywydd hyfryd ac rydym yn parhau i wneud cynnydd da. Mae'r arolwg geoffisegol wedi ei orffen ac wedi cynhyrchu rhai canlyniadau diddorol ... nawr mae angen inni ddyfalu beth y maent yn golygu! Yn y cyfamser ar y cloddiad rydym wedi cael gwared rhan o un o'r waliau i ddatgelu rhai beddau sy'n ymddangos i fod yn redeg oddi tano. Ar ol symud yr esgyrn cyflwr gwael o un bedd, rydym wedi darganfod ddau fedd gynharach oddi tano. Mae hyn yn ddiddorol oherwydd gallai awgrymu fod y fynwent wedi cael ei defnyddio am gyfnod hir. Mae hefyd yn golygu y bydd yn anodd iawn datod y dilyniant o gladdedigaethau yn y gornel hon o'r cloddiad. Yfory rydym yn gobeithio i ymchwilio un o'r beddau wedi eu leinio gan garreg - mae gennym yn awr chwe enghraifft mewn amrywiaeth o feintiau.






Ar ol symud y cerrig sydd ar ben y bedd, mae'r leinin carreg yn cael ei ddatgelu. Dim ond rhan o'r benglog sydd wedi parhau


Mae'r awyr yn glir ac yn achosi cysgodion cryf, yn gwneud tynnu lluniau yn anodd ... felly mae Louise, Hubert a Chris yn creu cwmwl dros dro!


Louise yn datgelu mwy o'r bedd 'cerigos cwarts'

 

25 Mawrth

Heddiw, rydym wedi symud y cerrig gwastad sydd ar ben rhai o'r beddau wedi eu leinio a dechreuom i symud eu cynnwys. Ond yn anffodus, nid yw'r amddiffyniad ychwanegol oddi wrth y cerrig wedi helpu i gadw'r esgyrn, ac unwaith eto rydym dimond yn dod o hyd i ddarnau benglog ac ychydig o ddannedd. Ar ymyl orllewinol y safle mae Louise yn cloddio estyniad i ddatgelu yn llawn, bedd sy'n wahanol i'r rhai eraill rydym wedi nodi hyd yn hyn. Mae na nifer o gerigos chwarts gwyn ar ben ei lanw. Mae cerigos o'r fath hyn wedi cael eu darganfod mewn beddau canoloesol cynnar ar safleoedd eraill, ond nid ydym yn gwybod yn union beth y maent yn cynrychioli, maent yn ymddangos i fod yn rhan o ddefod gladdu. Er bod un hanner o'r safle yn edrych fel ei fod wedi ei 'rheoli', gyda beddau wedi eu trefnu mewn llinellau syth, mae'r hanner arall yn ymddangos yn llawer llai trefnus a defnyddiwyd llawer mwy o garreg yn y beddau.






Helen yn dangos aeoldau grwp hanes Keeston o amgylch y safle


Louise yn cynllunio'r bedd 'cerigos cwatrs'

 

26 Mawrth

Mae'r cloddiad yn gwneud cynnydd da. Wrth i ni gymeryd ar wahan un o'r waliau rydym yn dod o hyd i nifer o fertebrai pysgod, efallai fod hyn yn dystiolaeth o'r diwydiant pysgota a oedd unwaith yn seiliedig yma. Rydym yn parhau i lanhau i lawr i ddiffinio ymylon y beddau... rydym yn meddwl fod yna dystiolaeth o tua ddeg ar hugain... Wrth i ni barhau i ddarganfod mwy o feddau, mae'n dod yn amlwg tuag at gorllewin y safle fod nifer o'r beddau wedi eu torri i mewn i feddau cynharach oddi tanynt... digon i gadw ni yn brysur! Heddiw, mae gennym nifer o ymwelwyr gan gynnwys aelodau o grwp hanes Keeston ac ymwelwyr o Eingl, lle mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi cloddio rhan o fynwent arall ganoloesol gynnar sydd yn erydu i'r mor.


Pen i ben - Chris yn cloddio'r penglog


Pete yn gwneud gwaith geoffisegol


Canlyniadau geoffisegol o'r ardal is yr eglwys

 

28 Mawrth

Mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen ar y safle. Mae crafu'r tryweli yn cymysgu gyda chri aflafar y gwylanod swn piod y mor i lawr ar y traeth. Mae Chris wedi cloddio'n ofalus y benglog o un o'r beddau; y ddaear o'i gwmpas yw'r unig beth sy'n dal i gadw y darnau asgwrn at eu gilydd. Cafodd gwared o'r wal diweddarach, o slabiau cerrig tenau o bosibl wedi eu ail-ddefnyddio o gladdedigaethau, i ddatgelu toriadau bedd pellach yn rhedeg oddi tano. Cwblhauodd Pete ac Emma yr arolwg geoffisegol ar cyffiniau'r safle, y tro hwn yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch yr ardd furiog. Y gobaith yw y bydd y canlyniadau i'w cael yfory.







Bant gyda'i ben - Flick yn codi'r benglog


Ni, y nifer bach

29 Mawrth

Mae cwestiwn y wal yn parhau. A yw'n gysylltiedig a llosgi carreg galch 19eg ganrif? Efallai rhan o'r bwthyn? Neu ai wal ffin ar gyfer ein fynwent? Cafodd dim beddau eu datgelu "y tu hwnt i'r wal" tra i Chris, Tom ac Emma gloddio drwy'r gwaddodion - yn awgrymu y gallai hyn fod yr ateb. Ond arhoswch, beth oedd hyn yn gwenu o dan y wal? Asgwrn gen dynol! Felly mae'n sicr fod y wal ar ol dyddiad y fynwent. Wrth gwrs nid oes dim mor rhwydd yn archeoleg ac efallai fod y wal eto yn ffin fynwent, yn amgau ardal a oedd eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer claddedigaethau... Cwestiynau, cwestiynau! Mewn mannau eraill, mae'r beddau yn dal i gael eu cloddio a chofnodi. Cododd Flick benglog a ffemwr yn ofalus - yr unig rhannau a oedd yn goroesi o'r gladdedigaeth - a daeth Duncan o hyd i doriad bedd a dorrodd i ffwrdd oddi wrth yr arferol, yn cael ei halinio i'r gogledd-orllewin - de-ddwyrain yn hytrach na dwyrain i'r gorllewin - rhagor o gwestiynau!




Wedi golchi lan - prosesi darganfyddiadau allan o'r glaw


Mwynhau'r heulwen


"Rwyn ei hoffi pan mae cynlluniau yn dod at eu gilydd!"

 

30 Mawrth

Diwrnod o ddau hanner. Gwnaeth diwrnod llwyd, glawiog ein gorfodi i adael y safle wedi ei orchuddio mewn gorchuddion plastig gan ein bod yn ceisio feindio lloches i brosesi darganfyddiadau a diweddaru cofnodion. Yna, tua amser cinio fe wnaeth y cymylau wasgaru, dychwelodd yr haul a'r bu'r olygfa ar draws i Benmaen Dewi ddatgelu unwaith eto. Gyda'r haul daeth llif cyson o fobl ar eu gwyliau, yn chwilfrydig i ddysgu beth oeddem yn gwneud. Dim darganfyddiadau newydd heddiw, wrth i ni barhau i lanhau, cloddio a chofnodi y toriadau bedd. Yna, dodi'r plastig yn ol, i baratoi ar gyfer rhagor o law heno a addawyd. Daeth Mis Mawrth i mewn fel yr oen ac mae'n ymddangos yn benderfynol i fynd allan fel y llew diarhebol.






 

31 Mawrth

Mae'r tonnau i fyny! Mae lapio rhythmig y mor wedi ei adleoli gan drac sain llawer mwy dramatig fel mae'r tonnau yn torri ar y creigiau. Mae'r gwaith o ddatgelu a chofnodi y beddau yn parhau, gyda jig-so go iawn o gladdedigaethau sy'n torri ar draws eu gilydd yn yr hanner deheuol o'r ffos yn gyferbyniol gyda'r cynllun llawer mwy taclus mewn mannau eraill. Mae Emma yn di-ddaearu clwstwr o fwydon gwyrdd sgleiniog - a oedd yn ddiddorol.

Mae'r llun hwn wedi ei gymeryd ar draws y bae, gyda Cliff Cottage yn y blaendir. Roedd hwn yn cael ei gyfeirio ato yn draddodiadol fel 'capel y pysgotwyr' a'r drws bwa a welwyd yn y wal gefn wedi ei flocio yn caniatau pererinion, ar eu ffordd i Dy Ddewi, i dderbyn eu bendith a pharhau ar eu taith heb yr angen i ail-gerdded eu camau. Mae'r cloddiad presennol tu ol i'r ffens oren ar ben y clogwyn a'r odyn galch i'w weld ar y dde yn y llun.


Y dyn oer a'r mor - Duncan yn trefnu ei gofnodion


Ymweliad oddiwrth grwpiau hanes lleol

1 Ebrill

Tair wythnos i mewn i'r gloddiad ac mae beddau newydd yn dal i gael eu datgelu - efallai ei fod yn beth da fod y preswylwyr wedi diflannu am fod cofnodi a chodi sgerbydau yn gallu bod yn waith araf, sy'n cymeryd amser. Mae cadwraeth esgyrn coes mewn cwpl o'r claddedigaethau yn eithaf da felly dylem allu cael rhagor o ddyddiadau radio-carbon. Fe fydd yn ddiddorol i weld sut maent yn cymharu gyda'r dyddiad 9fed -10fed ganrif a gafwyd o'r asgwrn a ddarganfyddwyd ar y clogwyn ychydig flynyddoedd yn ol.

Nid oedd yr oerfel parhaus a'r glaw man cyson yn atal aelodau Grwp Castell Gwalchmai a Grwp Hanes Tredeml rhag cymeryd taith o'r safle y prynhawn yma. Mae diddordeb, brwdfrydedd a chefnogaeth grwpiau o'r fath yma yn werthfawrogus iawn i ni.

 


Mewn rhesi - y claddedigaethau wedi cloddio

 

2 Ebrill

Ddiwrnod arall o gloddio - mae'r broses o gloddio a chofnodi y claddedigaethau yn parhau yn gyson, ac rydym yn dal i ddarganfod beddau newydd. Efallai fod diffyg amlwg o sgerbydau ond mewn dau o'r beddau, rydym wedi darganfod llefydd gwag lle mae'r penglogau wedi toddi i ffwrdd yn llwyr!

Mewn rhai rhannau o'r fynwent mae cymaint o gladdedigaethau yn torri i mewn i'w gilydd, mae'r safle yn dechrau yn edrych fel caws o'r Swistir.

 


Ar y ffin - Pete ac Hubert yn arolgu'r clogwyn a'r claddedigaethau wedi eu erydu


Bedd gyda olygfa - claddedigaethau wedi eu leinio gan garreg yn ymestyn o ochr y glogwyn


Esgyrn dynol yn goroesi mewn bedd wedi ei leinio gan garreg

 

4 Ebrill

Mae rhai o'r olion dynol sydd wedi cadw yn orau wedi cael eu datgelu mewn dau fedd i'r gorllewin o'r ffos, a gloddiwyd gan Emma a Tom. Roedd y ddau fedd a cap o gerrig, ond mae'n ansicr yn union paham y dylai'r asgwrn oroesi yma tra ei fod wedi bron a diflannu yn gyfangwbl mewn mannau eraill. Efallai yr esboniad mwyaf tebygol yw eu bod yn gladdedigaethau cymharol ddiweddar - byddai'r fynwent wedi cael ei defnyddio am gyfnod hir ac mae'r gwahaniaeth amser rhwng y claddedigaethau cynharaf a'r rhai diweddaraf yn sylweddol. Gobeithio y bydd dyddiadau radio-carbon yn helpu i ddatrys y mater.

Heddiw mae ein cofnod o'r safle wedi ei ymestyn i arolygu ymylon y clogwyni lle mae'n eistedd. Mae Hubert a Pete hefyd wedi plotio lleoliad y beddau sy'n ymwthio allan o ymyl y glogwyn o ganlyniad i erydiad arfordirol. Mae'r cloddiad erbyn hyn wedi dechrau ei bedwaredd wythnos, yr wythnos derfynol, a mae'r safle yn cael ei ail-lenwi ar Ddydd Gwener.

 








Tywyd uffernol - Sian Ffraidd yn cymeryd curiad

 

5 Ebrill

Mae'r creigiau yn cymeryd curiad arall y bore yma tra bod y mor yn rhuo a bwrw yn eu herbyn. Cyfle am fwy o brosesu a chofnodi'r darganfyddiadau tra ein bod yn aros am bethau i glirio. Mae grwp o Rhosfarced wedi gwneud y daith i weld ein cynnydd, gan ddod a tywydd gwell gyda nhw.


Ymweliad arall i'r safle


Mynd i ddaear - Chris yn cloddio un o'r claddedigaethau gorllewinol


Staff Sgerbydol - (o'r chwith) Duncan, Hugh, Mike, Tom, Chris, Hubert (yn y blaen), Gareth, Flick, Anne, Emma a Pete

 

6 Ebrill

Bron ar ben - dim ond dau ddiwrnod llawn o gloddio ar ol. Fel y gwedwyd o'r blaen, mae'r olion ysgerbydol sydd wedi parhau yn orau wedi eu lleoli o fewn y gorllewin o'r ffos a dyma lle mae ein hymdrechion yn canolbwyntio, gyda rhan fwyaf ohonom yn brysur yn datguddio esgyrn, cofnodi claddedigaethau a dal yn fod i nodi toriadau bedd. Efallai fod yr amlder y claddedigaethau yn yr ardal hwn, gyda llawer yn torri i mewn i'w gilydd, yn gliw am ble mae'r capel coll wedi ei leoli? Mae Hubert wedi dechrau arlunio rhannau o'r ffos cloddio, yn cofnodi y dilyniant, dyfnder a'r mathau o haenau bridd, a oedd unwaith yn selio y toriadau bedd.

Roedd Pete wedi gosod i waith yn cloddio yn yr ardal rhwng y beddau dwyreiniol a'r wal fwyaf i sefydlu nad oedd unrhyw gladdedigaethau pellach yma - gwaith gynnes yng ngwres y dydd braf o haf. Yn anffodus fe wnaeth hyn arwain iddo at gael gwared o'i grys. Mae pawb yn pledio gydag ef i'w ddodi yn ol arno.

Daeth grwpiau o Neyland a Llanstadwell ddod o hyd i ni y prynhawn yma. Roedd yn dda i fod yn gallu dangos rhai esgyrn gwirioneddol iddynt - yn sicr beth mae pobl yn disgwyl pan fyddant yn ymweld a mynwent wedi ei chloddio. Diwrnod olaf Flick ar y cloddiad heddiw, felly fe gymerwyd llun o'r grwp. Mae nifer wedi gwirfoddoli yn ystod y pedair wythnos diwethaf ac wedi cyfrannu gwaith caled, eu brwdfrydedd a'u hiwmor da - diolch yn fawr i chi gyd!









Gwneud y newyddion - Mae Mike a'r teimlad ei fod yn cael ei wylio


Penglog plentyn tu fewn un o'r beddau cist


Chris yn meddwl am funud ei fod yn Hamlet

 

7 Ebrill

Dechreuodd y diwrnod olaf o'r cloddiad yn Sain Ffraid gyda fi yn rhoi cyfweliad yn gynnar yn y bore ar Radio Cymru - rwyn gobeithio fod pawb wedi tiwnio i mewn am 06:50?!

Fel pob tro, fe wnaeth y diwrnod olaf o gloddio daflu i fyny rhagor o archaeoleg. Fe ddiffyniwyd claddedigaeth cist arall ym mhen gorllewinol y ffos, a datgelwyd benglog plentyn wedi ei gadw'n berffaith pan i mi godi y prif garreg capio. Yn y cyfamser, roedd yr olion ysgerbydol a oedd yn gorwedd naill ochr i'r gladdedigaeth hon cael eu cloddio yn ofalus, cyn cael eu codi a'u symud o'r safle i'w dadansoddi ymhellach gan Emma a Chris.

Ar ben arall y ffos, fe ffeindiodd Pete, Tom a Gareth eu hunain yn cloddio ffos - o bosibl yn ffurfio ffin i'r fynwent - a beth oedd bod ychydig o dan y wal? Wrth gwrs claddedigaeth debygol arall.

Rhagor o sylw wrth y media, gydag ITV News yn dod allan yn y prynhawn i ffilmio ein gwaith ar gyfer darn i rhifyn heno.

Bydd Duncan, Hubert a Chris yn Saen Ffraid yfory i orffen unrhyw recordio, i oruchwylio'r ail-lenwi a pacio i fyny. Rydym i gyd wedi mwynhau ein pedair wythnos o gloddio yn yr hafan hyfryd yma. Mae'n le hardd, roedd y tywydd yn gyffredinol yn wych a'r archaeoleg yn ddiddorol. Fel Swyddog Allgymorth tair allan o'r bedair wythnos - Helen roedd wedi cyflawni rol yn yr ail wythnos - rwyf wedi cwrdd gyda bobl gwych yn ystod y cloddio. Llawer o ddiolch i bawb a gobeithio gweld chi eto cyn bo hir ... Mike.






8 Ebrill

Y diwrnod olaf! Ar ol peth cloddio munud olaf a chynllunio ffosydd mae'r diwedd wedi dod, ac mae'n amser i ail lenwi'r ardal gloddio a phacio'r offer i gyd i ffwrdd. Fydd heddwch yn teyrnasu dros Sain Ffraid eto!

Felly, beth wnaethom ddarganfod? A oedd yn holl beth werth yr ymdrech?

Rydym wedi darganfod dros ddeg ar hugain o feddau yn yr ardal gloddio, ac er nad oedd cadwraeth yr esgyrn yn dda, dylem gael wybodaeth defnyddiol am pwy a gladdwyd yn Hafan Sain Ffraid a dros pa gyfnod o amser oedd y fynwent yn cael ei defnyddio. Bydd hyn yn wybodaeth ddefnyddiol i gymharu gyda'r hyn yr ydym wedi dod o hyd iddo mewn mynwentydd eraill ganoloesol gynnar yn Sir Benfro.

Yn ddiddorol, mae tri math o 'feddau cist' wedi cael eu nodi sy'n wahanol i'r beddau sydd i'w cael yn mynwentoedd canoloesol cynnar ym Mhae Gorllewin Eingl, Brownslade a Phorthclew. Mae'r math 'newydd' o feddau yn cynnwys cerrig capio ar ben beth, heblaw hyn, yw beddau wedi eu cloddio'n syml, heb slabiau ochr yn leinio'r beddau. Mae'r ail fath a cerrig capio, ac un ochr o'r bedd wedi ei leinio a cherrig. Mae'r trydydd fath yn bedd wedi ei gloddio'n syml 'ymyl' o slabiau wedi llenwi a dwsinau o gerrig man cwarts. A yw hyn yn awgrymu bod y bobl a oedd yn Sain Fraid mewn rhyw ffordd yn wahanol i gymunedau eraill? Neu yw'r claddedigaethau yn dyddio o gyfnod wahanol i'r fynwentydd eraill yr ydym wedi ymchwilio?

Mae hefyd yn ddiddorol fod y beddau yn Sain Ffraid yn wreiddiol wedi eu gosod mewn rhesi taclus, gyda rhyw faint o dystiolaeth o farcwyr bedd ar ddiwedd ben y beddau. Efallai oedd y fynwent wedi cael ei reoli yn ofalus gan y gymuned grefyddol yn Hafan Sain Ffraid. Yn ddiweddarach, mae'r claddedigaethau yn dechrau torri i mewn i'w gilydd ac yn gorwedd ar ben y beddau cynharach. Mae hyn yn awgrymu fod yr ardal ar gael ar gyfer claddu yn gyfyngedig, efallai gan wal fynwent. Neu efallai bod y claddedigaethau yn orlawn oherwydd fod pawb eisiau claddu pobl mor agos i'r capel ag oedd yn bosib. Felly, er i ni ddim ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth o'r capel, mae dwysedd y claddedigaethau yn awgrymu y gallai fod wedi bod i'r gorllewin o'r safle, efallai lle mae'r odyn galch yn awr yn sefyll.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, gyda dadansoddiad y darganfyddiadau ac ymchwil pellach, byddwn yn cael rhywfaint o atebion i rhain a llawer o gwestiynau eraill, a byddwn yn dysgu llawer mwy am trefedigaethau eglwysig canoloesol cynnar yn Sir Benfro. Bydd yr ychydig esgyrn dynol yn cael eu hail-gladdu yn y fynwent yn Sain Ffraid. Bydd y safle yn cael ei fonitro i sicrhau bod y gwair yn tyfu yn ol cyn gynted a sy'n bosib.

Hoffwn fynegi fy niolch i'r holl wirfoddolwyr a gymerodd ran. Rydych wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r prosiect a heb eich help ni fyddai wedi bod yn bosibl i gyflawni cymaint a wnaethom. Roedd hefyd yn braf cael ymateb mor gadarnhaol wrth y nifer o fobl a bu yn ymweld a'r safle. Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yr adroddiad ar y gwaith cloddio i'w gael ar y wefan hon, felly gwyliwch yn ofalus! ...

Duncan Schlee

Cyfarwyddwr y Prosiect


 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]