Cartref >

Ty Machynys 2016 - Crynodeb

Saif Ty Machynys ar y safle a elwir ‘Machynys Mound' yn lleol; dyma ardal o dir uchel a oedd, yn hanesyddol, yn ffurfio ynys o dir uchel wedi'i amgylchynu gan wlyptiroedd arfordirol ar ymyl ogleddol aber afon Llwchwr. Tybir bod y ty (Ffotograff 1) yn dyddio o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau'r 17eg ganrif, ond mae'n bosibl ei fod yn tarddu o gyfnod cynt o lawer, o'r canol oesoedd. Erbyn y 19eg ganrif, roedd yn dy ffarm gyda thai allan, adeiladau fferm a gerddi cysylltiedig. Cafodd yr adeiladau eu dymchwel ddechrau'r 1970au.


Ffotograff 1: Wyneb gorllewinol Ty Machynys yn dangos porth gorllewinol yr ardd, tua 1970, ychydig cyn dymchwel yr adeilad (Cyfeirnod CRO : DX/35/2).

 

Bellach, mae'r safle ar ochr ddeheuol Ffordd Gyswllt yr Arfordir y B4304, wrth ymyl y gylchfan ar gyfer Llynnoedd Delta a Phentre Nicklaus (Ffigur 1). Y B4304 yw ffin ogleddol y safle ac mae Pentre Nicklaus i'r de. Mae Pentre Nicklaus yn ddatblygiad cymharol newydd, fel y mae cwrs golff Machynys, sydd bellach yn sefyll ar lawer o'r hen gorstir adferedig i'r de-ddwyrain.


Ffigur 1: Map o'r lleoliad (dangosir safle Ty Machynys ar ffurf dot coch) yn seiliedig ar yr Arolwg Ordnans.

Cafodd y corstir o amgylch Machynys ei adfer pan adeiladwyd argloddiau o amgylch y penrhyn yn ystod yr 19eg ganrif i'w amddiffyn rhag llifogydd o'r môr. Pan ffynnodd cynhyrchu diwydiannol yn Llanelli yn ystod y 19eg ganrif, codwyd tai, ffatrïoedd, gweithfeydd brics a gweithfeydd cemegol o amgylch Ty Machynys, wedi'u hadeiladu ar y tir adferedig (Ffigur 2). Nid oes dim yn weddill o'r adeiladau hyn mwyach, dymchwelwyd y cyfan yn ystod y 1960au a'r 70au.


Ffigur 2: Detholiad o ail argraffiad map 25” yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ym 1907. Saif Ty Machynys o fewn y blwch coch.

 

Heddiw, mae'r ardal yn safle tir llwyd gydag ardaloedd o laswelltir a phrysgoed trwchus. Yr unig olion yw waliau terfyn gorllewinol a deheuol Ty Machynys (Ffotograffau 2 a 3).


Ffotograff 2: Edrych tua'r dwyrain at olion wal orllewinol yr ardd a phorth Ty Machynys.

 


Ffotograff 3: Edrych tua'r de-ddwyrain ar draws safle Ty Machynys yn dangos tai Pentre Nicklaus yn y cefndir.

Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n berchen ar y tir ac mae ganddo gynlluniau hirdymor i adfywio'r ardal. I archwilio gwreiddiau cynnar posibl y ty, fe wnaeth Cadw ariannu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i ymgymryd â gwerthusiad archaeolegol o ôl troed yr adeilad, gyda chymorth aelodau'r gymuned leol. Bwriadwyd y byddai'r gwaith hwn yn ymestyn y ddealltwriaeth o hanes Machynys a chynnig cyfleoedd i'r gymuned leol ymddiddori yn ei threftadaeth ar yr un pryd.

Clirio'r safle

Ddechrau Medi, roedd y mieri trwchus a orchuddiai'r safle wedi'u clirio gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin a gwirfoddolwyr o Mencap (Ffotograffau 4 a 5).


Ffotograff 4: Clirio'r mieri o flaen wal orllewinol yr ardd, gyda thai Pentre Nicklaus yn y cefndir.


Ffotograff 5: Clirio'r mieri o flaen wal orllewinol yr ardd gyda chymorth tîm Mencap.

Ar ôl clirio'r llystyfiant, fe wnaeth cloddiwr mecanyddol godi haen fas o bridd a deunydd dymchwel. O dan y rwbel hwn, roedd ôl troed pen gorllewinol y ty i'w weld yn glir (Ffotograff 6), ynghyd ag amlinelliad o ardaloedd y seleri. Fodd bynnag, yn ystod y gwaith mecanyddol, daeth i'r amlwg fod llawer o ddarnau o asbestos ar hyd a lled safle'r adeilad wedi'i ddymchwel.


Ffotograff 6: Wal orllewinol flaen Ty Machynys a ddatgelwyd yn ystod y peiriannu.

Archwiliwyd y deunydd hwn gan labordy trwyddedig a darganfod mai asbestos Amosite oedd, sef sylwedd peryglus yn amgylcheddol. Yn anffodus, gan fod yr asbestos wedi'i ledaenu ar draws y safle cyfan, penderfynwyd na ellid gwneud unrhyw with pellach yn ardal y ty wedi'i ddymchwel.

Nid oedd y newid hwn mewn amgylchiadau wedi'i ragweld, felly roedd angen cynllun newydd ac, yn dilyn trafodaeth â Cadw, penderfynwyd gwneud gwaith archwilio yn yr ardal heb ei datblygu i'r gorllewin o'r ty, i chwilio am dystiolaeth o anheddiad cynt, cynhanesyddol efallai, ym Machynys. Cyn adfer y corstir arfordirol ar raddfa fawr yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, byddai ardal uchel Machynys wedi ffurfio ynys gyda gwlyptiroedd o'i hamgylch; mae'n dra thebyg y byddai'r ynys wedi'i defnyddio fel anheddiad yn ystod y cyfnod cynhanesyddol.

Gwaith maes archaeolegol – Hydref 2016

Ffosydd 1-4 a Thyllau Prawf 1-10

Cafodd nifer o ffosydd (Ffigur 3) eu cloddio gan gloddiwr mecanyddol.


Ffigur 3: Cynllun o'r ffosydd a'r tyllau prawf a gloddiwyd yn ystod 2016, dros ddetholiad o argraffiad cyntaf map 25” yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ym 1880.

 


Ffotograff 7: Edrych tua'r dwyrain at Ffosydd 1 a 2.


Ffotograff 8: Edrych tua'r gogledd ar hyd Ffos 3.

Ni fu'n bosibl adnabod ond nifer bach iawn o nodweddion archaeolegol o fewn y ffosydd, heblaw am nifer o olion amaethu a hen lwybr a groesai ar draws Ffos 4 (Ffotograff 9).


Ffotograff 9: Tystiolaeth o hen lwybr ar draws Ffos 4. Wrth raddfa 1m

 

Cafodd deg twll prawf 1m sgwâr eu cloddio â llaw. Cafodd yr holl bridd ei ridyllu i geisio cael gafael ar arteffactau bychain (Ffotograffau 10-12).


Ffotograff 10: Ruth a Rob yn rhidyllu'r pridd o Dwll Prawf 1.


Ffotograff 11: Menna, Amanda a Sue yn rhidyllu'r pridd o Dwll Prawf 4.


Ffotograff 12: Rhidyllu'r pridd o Dyllau Prawf 5, 6 a 7.

Datgelodd tystiolaeth o'r tyllau prawf i'r gorllewin o Ffos 4 darfu sylweddol ar ben gorllewinol yr ardal yn y gorffennol diweddar. Roedd hi'n ymddangos fod yr ardal hon wedi'i mewnlenwi â gwastraff diwydiannol (slag, cerrig a brics) o un o'r gweithfeydd haearn niferus cyfagos efallai, yn llenwi pant yn y tir neu hyd yn oed hen chwarel, o bosibl?

Roedd yr olion amaethu llinol bas, tenau sydd i'w gweld yn nhyllau prawf 2 a 3 yn mynd o'r gogledd i'r de ac roedd pob un ohonynt yn cynnwys talch o grochenwaith gwydrog gwyrdd, ysgrafelledig.

Nifer siomedig o fach o naddion fflint gafodd eu darganfod yn y tyllau prawf. Roedd yr holl dystiolaeth a gasglwyd yn awgrymu pa mor ddwfn yr oedd y pridd wedi'i amaethu a'i drin yn y gorffennol. Roedd y pridd yn cynnwys llawer iawn o ludw a chalch wedi'u cloddio iddo ac roedd yn cynnwys rhywfaint o lo, slag, gwydr (potel a ffenestr), plastr calch, deunydd adeiladu seramig, esgyrn anifeiliaid, crochenwaith o'r 19eg a'r 20fed ganrif, a chregyn cocos a chregyn gleision. Ni ddarganfuwyd lefelau mawr o'r un o'r arteffactau hyn, ond fe'u cafwyd ar ffurf dernynnau bychain, ysgrafelledig ar draws y priddoedd.

Cafodd taeniad helaeth o gerrig llyfngrwn, treigledig, ei ddatgelu yn hanner deheuol Ffos 1; mae'n bosibl mai lefelau arwyneb y ddaear yn yr ardal hon fu'n gyfrifol am hyn.

 


Ffotograff 13: Hubert a Dave yn gosod theodolit gweithfan gyfansawdd.


Ffotograff 14: Jenny a Laurie ar ddechrau'r gwaith cloddio yn Ffos A.

 

Ffosydd A, B ac C – wyneb gorllewinol wal yr ardd

Cloddiwyd tair ffos fechan (A, B ac C) yn erbyn wyneb gorllewinol wal yr ardd (Ffigur 3).


Ffigur 3: Cynllun o'r ffosydd a'r tyllau prawf a gloddiwyd yn ystod 2016, dros ddetholiad o argraffiad cyntaf map 25” yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ym 1880.

Cloddiwyd Ffos A o flaen y porth a datgelodd fod y porth wedi'i addasu sawl gwaith (Ffigur 4, Ffotograffau 15 ac 16).


Ffigur 4: Gweddlun o'r porth gorllewinol i Dy Machynys.


Ffotograff 15: Ffos A – yn dangos pileri'r porth gorllewinol. Wrth raddfa 1m

Yn y gorffennol, bu'r porth gorllewinol yn fwy llydan o lawer, ychydig dros 2.0m o led. Y naill ochr a'r llall i'r porth hwn, roedd pileri wedi'u hadeiladu o frics a wnaed â llaw; mae'r rhain i'w gweld heddiw (Ffotograff 15). Roedd arwyddion y gallai'r pileri hyn fod yn ychwanegiad diweddarach at y wal gerrig. Tua diwedd y 19eg ganrif/dechrau'r 20fed ganrif, mae'n debyg, adeiladwyd dau biler newydd o frics a wnaed â pheiriant, gan leihau maint y fynedfa i 1.12m. Arweiniodd llwybr ag ymylon brics at ddrws ffrynt y ty. Ni ddatgelodd Ffos A unrhyw lwybr diffiniedig tebyg i'r gorllewin o'r porth, ond roedd hi'n amlwg bod y tir yn yr ardal hon wedi'i erydu, gan awgrymu ei ddefnydd fel mynedfa.


Ffotograff 16: Caralinda yn cloddio lefelau is Ffos A.

Datgelodd Ffosydd A, B ac C ddyfnder sylweddol sylfeini wal yr ardd; yn Ffos B, roeddent yn ymestyn tua 0.60m islaw arwyneb presennol y tir (Ffotograff 19) a thua 0.85m islaw yn Ffos C (Ffotograff 22). Roedd rhywfaint o dystiolaeth o doriad adeiladu cul yn gyfochrog â'r wal; roedd hi'n anodd ei weld ar ffurf cynllun ond yn weladwy ar ffurf trychiad. Nid oedd unrhyw arteffactau y gellid bod wedi'u dyddio wedi'u darganfod o'r toriad i helpu i amcangyfrif dyddiad adeiladu'r wal.


Ffotograff 17: Yr haenau o lwch, clincer a sialc a oedd wedi cronni yn erbyn y wal orllewinol yn ardal y porth. Wrth raddfa 0.5m


Ffotograff 18: Lynn yn cloddio Ffos B.


Ffotograff 19: Edrych tua'r gogledd-ddwyrain wrth Ffos B yn dangos sylfeini sylweddol wal yr ardd. Wrth raddfa 1m.

O'r tair ffos hyn, gellir dod i'r casgliad fod y toriad adeiladu ar gyfer y wal wedi'i gloddio drwy silt tywodlyd, brown canol, rhydd. Yn gorchuddio'r toriad adeiladu wedi'i ôl-lenwi yr oedd nifer o ddyddodion benben â'r wal, yn awgrymu bod deunydd a sbwriel wedi'u gollwng yno ar sawl achlysur, dros gyfnod hir. Roedd y gwaddodion yn cynnwys llawer o lwch a chlincer, gwydr ffenestri wedi'u torri a graean; yn wahanol i'r tyllau prawf, roedd y rhain yn cynnwys rhywfaint o grochenwaith o'r 18fed, 19eg a'r 20fed ganrif, gwydr ffenestri a photeli, llechi, gwrthrychau haearn yn cynnwys rhywfaint o hoelion, esgyrn anifeiliaid - llawer ohonynt yn dangos olion bwtsiera, dernynnau o bibellau clai, a chregyn cocos a chregyn gleision. Yn Ffosydd A a B, roedd y dyddodion hyn yn gorchuddio dyddodiad amlwg o sialc a chnapiau fflint (Ffotograff 17). Yn Ffos C, roeddent yn gorchuddio haen drwchus o gerrig llyfngrwn o fewn matrics silt, yn debyg i'r hyn a gofnodwyd yn hanner deheuol Ffos 1.

 


Ffotograff 20: Rob yn tynnu llun o'r trychiadau o fewn Ffos B.


Ffotograff 21: Laurie a Jenny yn cloddio lefelau is Ffos C.


Ffotograff 22: Edrych tua'r dwyrain ar sylfeini wal yr ardd. Wrth raddfa 1m

Casgliadau

Yn anffodus, bu llawer mwy o ymyrryd â'r ardal i'r gorllewin o'r ty yn y gorffennol nag yr oeddem wedi'i obeithio. Datgelodd tyllau prawf 5-7, 9 a 10 fod pen gorllewinol yr ardal hon wedi'u defnyddio, mae'n debyg, yn domen ar gyfer gwastraff diwydiannol yn y gorffennol diweddar. Rhoddodd gweddill y tyllau prawf a Ffosydd 1-4 dystiolaeth fod y tir o flaen wal orllewinol Ty Machynys wedi'i drin yn helaeth dros y blynyddoedd. Prin oedd y dystiolaeth o unrhyw weithgarwch cynhanesyddol cynt. Fe wnaeth y gwaith cloddio ddatgelu tystiolaeth o'r ymdrechion a wnaed wrth adeiladu'r wal derfyn sylweddol a'r cyfnodau o adeiladu'r porth, mae'n debyg yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, ac o'r deunydd a daflwyd, cawsom gipolwg i fywyd y bobl a fu'n byw yma.

Mae'r posibilrwydd y gallai Ty Machynys fod wedi tarddu o'r cyfnod canoloesol yn ddirgelwch o hyd, ond gallai tystiolaeth barhau yn y tir ac, ar wahân i'r asbestos, efallai y bydd modd archwilio'r ardal eto rhyw ddydd.

Diolch yn fawr i'n holl wirfoddolwyr am eu hymroddiad a'u gwaith caled; cafodd Menna, Hubert a minnau amser bendigedig yn gweithio gyda chi oll. Diolch hefyd i Cadw am ariannu'r prosiect ac i Fenter ar y cyd Morlan Elli am eu cefnogaeth. Mae'r fenter hon ar y cyd yn bartneriaeth flaenllaw rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin, a ffurfiwyd yn wreiddiol yn ystod y 1990au gan Gyngor Bwrdeistref Llanelli ac Awdurdod Datblygu Cymru.


Ffotograff 23: Laurie yn gwneud arolwg ar y diwrnod olaf, gyda Throstre yn y cefndir.


Ffotograff 24: Ein safle picnic wrth ochr y ffordd.

 

 

 

 

[click for navigation menu if not present]

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]