Cartref >

DYDDIADUR CLODDIO MAENCLOCHOG 2007   

CLODDIAD CYMUNEDOL AR SAFLE CASTELL MAENCLOCHOG

Cyflwyniad
Mae cymuned Maenclochog wedi mynegi diddordeb mawr mewn hanes ei haneddiad ac yn arbennig ‘safle’r castell’. Er bod cymaint o syniadau a straeon, mae’r cwestiynau “Beth oedd yno?” a “Phryd?” yn parhau heb atebion.

Mae ymchwil dogfennol wedi dangos y gallai’r ardal o dan sylw fod yn safle castell Canoloesol wedi’i gofnodi, y lleoliad posibl o loc amddiffynnol o Oes yr Haearn a’r safle hysbys o Ffald y Faenor wedi’i dyddio o leiaf o’r 18fed ganrif (Arolwg Castell Maenclochog, Medi 2006, Jenny Hall a Paul Sambrook (Trysor), comisiynwyd gan Cymdeithas Clochog).

Yn bresennol, defnyddir y safle fel maes parcio cymunedol ac, yn sgil hynny, does dim llawer i’w weld ar lefel wyneb y tir. Er hynny, i’r dde-orllewin mae teras bychan tu allan i’r clawdd sy’n awgrymu y gallai fod olion o ffos amddiffynnol allanol ac, i’r de, brigiad craig sydd efallai yn weddillion mwnt castell.

Y Cloddiad
Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed , gyda chefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a PLANED, yn gweithio gydag aelodau Maenclochog a chymunedau agos i ddatblygu a gwneud cloddiad archeolegol o safle’r castell dros bythefnos (Medi 19eg - 30ain). Hefyd bydd y dilyniant, y dadansoddiad ar ôl y cloddiad a’r adroddiad yn cynnwys aelodau’r gymuned.

Bydd y cloddiad hwn yn galluogi’r gymuned leol i gymryd rhan yn weithredol mewn ennill gwell ddealltwriaeth o hanes eu cymuned. Ynghyd â’i arwyddocâd hanesyddol mawr fel rhan o ddatblygiad Maenclochog, mae’r safle wedi cael ei adnabod fe un pwysig i welliannau arfaethedig y pentref. Bydd yr wybodaeth a enillir yn helpu’r gymuned i wneud penderfyniadau ar oruchwyliaeth ddyfodol y safle. Bydd hefyd yn helpu nhw i ddarparu gwybodaeth am y pentref ar gyfer trigolion, ymwelwyr a thwristiaid.

Mae PLANED yn cefnogi’r cloddiad cymunedol hwn fel rhan o brosiect treftadaeth trawswladol sydd yn cael ei ariannu gan yr UE gyda’r nod o hyrwyddo cymunedau i ddathlu eu treftadaeth a diwylliant.

Aelod tîm cymunedol Maenclochog wrthi’n glanhau Ffos 1 yn fedrus

Aelod tîm cymunedol Maenclochog wrthi’n glanhau Ffos 1 yn fedrus
Aelodau tîm cymunedol Maenclochog wrthi’n glanhau Ffos 1 yn fedrus

Lle tân tebygol (yn onest!)

19 Medi 2007 - Diwrnod 1

Dechreuon ni lanhau’r ddwy ffos a dorrwyd ddoe gan Jac Codi Baw. Bron ar unwaith dechreuon ni ddarganfod amlinellau pydewau tebygol, tyllau-pyst a ffosydd. Mae aelwyd neu le tân hyd yn oed. Darganfuwyd tameidiau o grochenwaith canoloesol hefyd.

Dewiswyd lleoliad Ffos 1 er mwyn chwilio am olion adeiladau oedd tu fewn y castell ac eisoes mae’n debyg y gallwn ni weld bod Castell Maenclochog yn goroesi o dan y maes parcio!

Ar ôl cinio daeth y glaw trwm â chloddio’r diwrnod i’r ben, ond nid cyn inni ddechrau glanhau yn Ffos 2. Yma daethon ni o hyd i rannau hen wal y ‘ffald’ lle cynhaliwyd marchnadoedd da byw ers llawer dydd.

Glanhau wal y ‘ffald’ yn Ffos 2 cyn y glaw trwm
Glanhau wal y ‘ffald’ yn Ffos 2 cyn y glaw trwm

Cloddio bedd y ci
Cloddio bedd y ci

A dyma fe wedi ei orffen!
A dyma fe wedi ei orffen!

Wrth hi yn galed yn gweithio
Wrth hi yn galed yn gweithio

20 Medi 2007 - Diwrnod 2

Dechreuom archwilio toriad sgwâr yr olwg yn Ffos 1, a dod ar draws rhai esgyrn. I ddechrau meddylion ni roeddent yn ddynol ond, wrth i ni ddatguddio’r ên, daeth yn amlwg roedd yn gi. Daethom o hyd i ardal fach o gerrig gwastad oedd petai yn cael eu hamgylchu gan dyllau polion. Efallai bod hyn yn lloc anifeiliaid.

Parhâi i lanhau yn Ffos 2 a darganfod ffos tu allan i wal y ffald.

Disgrifiodd Polly Groom o APCAP sut i gofnodi gwybodaeth ar y cerrig coffa a beddi o fewn y fynwent.

Tyllau post wedi eu cloddio
Tyllau post wedi eu cloddio

Clanhau tu allan i wal y ffald
Clanhau tu allan i wal y ffald

Wal y ffald yn dangos ffos a thwll y postyn yn y blaen
Wal y ffald yn dangos ffos a thwll y postyn yn y blaen

21 Medi 2007 - Diwrnod 3

Diwrnod gwlyb ofnadwy. Rhy wlyb i gloddio yn y bore.

Eisteddem o gwmpas a siarad am hanes yr ardal ac edrych ac ychwanegu i CAH (Cofnod Amgylchedd Hanesyddol) Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar y gliniadur.

Wedi i'r glaw orffen, rhagor o lanhau yn Ffos 2 yn y prynhawn. Wedi darganfod twll-postyn mawr yma, y tu allan i’r ffos.

Roedd y tywydd llawer gwell heddiw
Roedd y tywydd llawer gwell heddiw

Dechrau archwilio olion yr adeiladau canoloesol
Dechrau archwilio olion yr adeiladau canoloesol

Sylfaen adieilad canoloesol?
Sylfaen adieilad canoloesol?

22 Medi 2007 - Diwrnod 4

Dyn ni wedi datgloddio twll postyn gyda cherrig pacio pyst yn Ffos 1 ac wedi dechrau cloddio ffos sydd efallai yn ffos sylfaenol ar gyfer adeilad ffrâm bren oedd yn cynnwys yr aelwyd tan a welom ar ddiwrnod 1.

Dechreuom gloddio Ffos 2 tu allan i wal y ffald cyn bwrw tystiolaeth o wal gynt. Meddyliwn efallai taw wal amddiffynnol y castell yw hon. Felly mae’r ffos tu hwnt wal y ffald yn debyg i fod yn ffos sylfaenol wal y castell.

Ar ben de Ffos 2, dechreuon ni archwilio ffos amddiffynnol allanol bosib.

Golwg cyntaf y wal o dan wal y ffald
Golwg cyntaf y wal o dan wal y ffald

23 Medi 2007 - Diwrnod 5

Wedi dechrau cynllunio a chofnodi’n gyd-destunol. Mae’n debyg nad yw’r ffos sylfaenol bosibl yn ffos 1 yn ffos sylfaenol adeilad gan fod yn ymddangos troi - efallai bod yn ffin eiddo - neu yn dy crwn o Oes yr Haearn gydag aelwyd ganolog!

Ffos 1 – mae Richard wedi bod yn cloddio i lawr tu mewn wal y ffald. Wedi gwagio ffos sylfaenol wal y castell a pharhau i gloddio’r ffos amddiffynnol allanol. Ond mae’n debyg hefyd bod stratigraffaeth sy’n goroesi rhwng y ffos allanol a wal y castell. Efallai bod yn dystiolaeth o amddiffynfeydd Oes yr Haearn. Pwy a wyr ar hyn o bryd?

24 Medi 2007 - Diwrnod 6

Heddiw cyrhaeddon ni’r safle a ffeindio ein ffosydd yn llawn dwr ar ôl y glaw trwm neithiwr!
Heddiw cyrhaeddon ni’r safle a ffeindio ein ffosydd yn llawn dwr ar ôl y glaw trwm neithiwr!

Ymwelodd pedwar grwp o Ysgol Maenclochog â ni.
Ymwelodd pedwar grwp o Ysgol Maenclochog â ni.

Yn Ffos 1 dechreuon ni dynnu lluniau’r nodweddion bod ni wedi’u darganfod hyd yn hyn, a chloddio rhai tyllau pyst posibl.
Yn Ffos 1 dechreuon ni dynnu lluniau’r nodweddion bod ni wedi’u darganfod hyd yn hyn, a chloddio rhai tyllau pyst posibl.

Yn Ffos 2 dechreuon ni gloddio twll postyn mawr a phalu i lawr er mwyn darganfod os oes clawdd Oes Haearn tu allan i wal y castell canoloesol.
Yn Ffos 2 dechreuon ni gloddio twll postyn mawr a phalu i lawr er mwyn darganfod os oes clawdd Oes Haearn tu allan i wal y castell canoloesol.Hefyd dechreuon ni gloddio ffos amddiffynnol allanol bosibl ar ben de’r ffos. A yw hi’n Ganoloesol neu o Oes yr Haearn?

25 Medi 2007 - Diwrnod 7

Heddiw roedd gweithio’n anodd oherwydd y tywydd ofnadwy.  Er y glaw, ymwelodd yr Ysgol Steiner leol â ni.
Heddiw roedd gweithio’n anodd oherwydd y tywydd ofnadwy. Er y glaw, ymwelodd yr Ysgol Steiner leol â ni.

Yn Ffos 1 dalion ymlaen â’r gwaith papur, a chofnodi’r nodweddion bod ni wedi’u darganfod hyd yn hyn.
Yn Ffos 1 dalion ymlaen â’r gwaith papur, a chofnodi’r nodweddion bod ni wedi’u darganfod hyd yn hyn.

Yn Ffos 2 dechreuon ni dynnu cynllun o wal y ffald a wal y castell canoloesol.   Mae wal y Castell yn 2.20m droedfedd o drwch. Hefyd cloddion ni’r twll postyn mawr a pharhau i symud defnydd y clawdd posibl.

26 Medi 2007 - Diwrnod 8

Ar ôl i gychwyn gwlyb a wyntog arall, gwellai’r tywydd ac roedd yn bosib glanhau’r ffosydd.
Ar ôl i gychwyn gwlyb a wyntog arall, gwellai’r tywydd ac roedd yn bosib glanhau’r ffosydd.

Yn Ffos 1 cloddion ni ffos y ty crwn, wrth ddod o hyd i dystiolaeth fod e’n cynnwys tyllau pyst yn gynt.  Hefyd cloddion ni dyllau pyst eraill gyda cherrig pacio, tu allan i’r ty crwn.
Yn Ffos 1 cloddion ni ffos y ty crwn, wrth ddod o hyd i dystiolaeth fod e’n cynnwys tyllau pyst yn gynt. Hefyd cloddion ni dyllau pyst eraill gyda cherrig pacio, tu allan i’r ty crwn.

Yn Ffos 2 ro’n ni parhau i symud defnydd y clawdd posibl er mwyn datgelu’r derfynlin pridd wedi’i chladdu oddi tano.
Yn Ffos 2 ro’n ni parhau i symud defnydd y clawdd posibl er mwyn datgelu’r derfynlin pridd wedi’i chladdu oddi tano.

27 Medi - Diwrnod 9

Heddiw buon ni’n cloddio llenwad yr aelwyd ar ganol y ty crwn o Oes y Haearn. Byddwn ni’n prosesu llenwad yr aelwyd er mwyn ceisio darganfod hadau rhuddedig fydd yn dweud wrthym beth oedd trigolion Maenclochog yn ei fwyta yn Oes yr Haearn!

Gan fod ni wedi cloddio y rhan fwyaf o’r tyllau pyst erbyn hyn, oes gennym efallai ail dy crwn?
Gan fod ni wedi cloddio y rhan fwyaf o’r tyllau pyst erbyn hyn, oes gennym efallai ail dy crwn?

Y ffos grom wedi’i chloddio. Efallai bod hon yn ‘gwter diferion’ i ddraenio dwr oedd yn rhedeg oddi ar do’r ty crwn.
Y ffos grom wedi’i chloddio. Efallai bod hon yn ‘gwter diferion’ i ddraenio dwr oedd yn rhedeg oddi ar do’r ty crwn.

Yn Ffos 2 parheuon ni i symud y clai melyn oedd efallai yn glawdd amddiffynnol yn Oes yr Haearn.

28 Medi - Diwrnod 10

Ffos 2- Mae'n dechrau edrych fel rydym yn wir wedi darganfod ffos a chlawdd allanol amddiffynnol, ond does dim tystiolaeth ddyddio i gadarnhau inni os oedd yn ganoloesol neu o Oes yr Haearn.
Ffos 2- Mae’n dechrau edrych fel rydym yn wir wedi darganfod ffos a chlawdd allanol amddiffynnol, ond does dim tystiolaeth ddyddio i gadarnhau inni os oedd yn ganoloesol neu o Oes yr Haearn.

Yn Ffos 1, mae Lucy yn dechrau cloddio rhagor o dyllau pyst!  Efallai bod y rhain yn ffurfio waliau'r ty crwn o Oes yr Haearn.
Yn Ffos 1, mae Lucy yn dechrau cloddio rhagor o dyllau pyst! Efallai bod y rhain yn ffurfio waliau’r ty crwn o Oes yr Haearn.

Mae Heather a Joan yn cloddio rhan o lawr clai'r ty crwn
Mae Heather a Joan yn cloddio rhan o lawr clai'r ty crwn

Mae tyllau pyst y ty crwn yn amlwg erbyn hyn.  Mae'n bosibl bod y rhes o dyllau pyst ar ben y llun yn weddillion parwydydd oedd yn rhannu lle mewnol y ty crwn.
Mae tyllau pyst y ty crwn yn amlwg erbyn hyn. Mae’n bosibl bod y rhes o dyllau pyst ar ben y llun yn weddillion parwydydd oedd yn rhannu lle mewnol y ty crwn.

29 Medi - Diwrnod 11

Diwrnod prysur, gyda llawer o gloddio, arlunio, tynnu lluniau ac ysgrifennu disgrifiadau i'w gwneud o bob nodwedd yr ydym wedi'i darganfod.
Diwrnod prysur, gyda llawer o gloddio, arlunio, tynnu lluniau ac ysgrifennu disgrifiadau i’w gwneud o bob nodwedd yr ydym wedi’i darganfod.

Gan fod ni wedi symud i ffwrdd pridd y clawdd melyn clai erbyn hyn, rydym wedi amlygu haen lwyd dywyll.  Mae hwn yn 'bridd claddedig' - wyneb y ddaear cyn i'r ffos a chlawdd gael eu creu.

Gan fod ni wedi symud i ffwrdd pridd y clawdd melyn clai erbyn hyn, rydym wedi amlygu haen lwyd dywyll. Mae hwn yn ‘bridd claddedig’ – wyneb y ddaear cyn i’r ffos a chlawdd gael eu creu.
Gan fod ni wedi symud i ffwrdd pridd y clawdd melyn clai erbyn hyn, rydym wedi amlygu haen lwyd dywyll. Mae hwn yn ‘bridd claddedig’ – wyneb y ddaear cyn i’r ffos a chlawdd gael eu creu.

Dechreuodd Tessa ar waith cofnodi arysgrifau ar gerrig beddau ym mynwent eglwys y Santes Fair. Yn y diwedd efallai bod hwn yn cael ei ychwanegu i arolwg fwy o fynwentydd Sir Benfro.

30 Medi - Diwrnod 12

Diwrnod olaf y cloddiad, gyda llawer o dasgau i'w gorffen. Cyflwynodd Alice y tîm i Ymchwilio i adeiladau sy'n sefyll, er mwyn chwilio am gliwiau i'w hanes a defnydd  oedd yn newid dros amser.
Diwrnod olaf y cloddiad, gyda llawer o dasgau i’w gorffen. Cyflwynodd Alice y tîm i Ymchwilio i adeiladau sy’n sefyll, er mwyn chwilio am gliwiau i’w hanes a defnydd oedd yn newid dros amser.

Yn Ffos 2 cloddion ni drwy bridd claddedig i gadarnhau nad oedd rhagor o archeoleg i'w phalu.

Yn Ffos 2 cloddion ni drwy bridd claddedig i gadarnhau nad oedd rhagor o archeoleg i’w phalu.
Yn Ffos 2 cloddion ni drwy bridd claddedig i gadarnhau nad oedd rhagor o archeoleg i’w phalu.

Yn Ffos 1, a yw’r llinell hwn o dyllau polion yn ffens derfyn rhwng dau dy crwn?
Yn Ffos 1, a yw’r llinell hwn o dyllau polion yn ffens derfyn rhwng dau dy crwn?

1 Hydref - Diwrnod 13

Heddiw cafodd y ffosydd eu hôl-lenwi.  Cafodd y man gladdu ci ei gadael mewn hedd ac mae gorffennol hynafol Maenclochog wedi'i guddio o dan y ddaear unwaith eto.
Heddiw cafodd y ffosydd eu hôl-lenwi. Cafodd y man gladdu ci ei gadael mewn hedd ac mae gorffennol hynafol Maenclochog wedi’i guddio o dan y ddaear unwaith eto.

Mae’r cloddiad wedi atynnu llawer o ddiddordeb yn hanes y pentref sydd wedi dod o hyd i’w wreiddiau cynhanes ynghyd ag ailddarganfod ei gastell canoloesol.

Ar 26ain Tachwedd am 7yh, bydd Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cyflwyno’r canlyniadau cychwynnol o’r cloddiad i’r gymuned yn Neuadd Gymunedol Maenclochog.

Hoffai tîm Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ddiolch i bobl Maenclochog am ei chroeso a diddordeb yn ystod y cloddiad, ac i PLANED a lwyddodd i gael arian am y prosiect.

Ac mae llawer o ddiolch yn ddyledus i’r tîm o wirfoddolwyr lleol sydd wedi gweithio’n galed i ddangos yn llwyddiannus hanes Maenclochog sy’n gudd o dan y maes parcio.

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]