DYDDIADUR CLODDIO CAPEL PORTHCLEW, AWST 2009
Cyflwyniad
Yn dilyn ymalen o'r cloddiad yn 2008, mae Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Dyfed unwaith eto yn cloddio Capel Porthclew, Freshwater
East. Mae'r safle yn profi i fod yn ddiddiorol iawn ac yn ychwanegu
i'n gwybodaeth am gapeli canoloesol cynnar yn Sir Benfro!
Blwyddyn diwethaf fe ymchwiliwyd nifer o ffosydd
amgaeadwy o amgylch y capel i geisio darganfod maint y fynwent.
Mae dyddiadu carbon yn awgrymu fod y ffosydd yn dyddiadu o 550OC
i 810OC a 1010OC, felly rydym yn gwybod fod gwreiddiad y safle yn
y canoloesoedd cynnar.
Y flwyddyn yma rydym yn gobeithio archwilio nifer
o nodweddau diddorol a welwyd ar yr arolwg geoffisegol. Rydym yn
meddwl eu bod yn rhan o drefedigaeth o amgylch y capel. Beth rydym
ddim yn gwybod yw oed y drefedigaeth ac fel y mae yn perthnasu i'r
ffosydd canoloesol cynnar.
Ar ol nifer o broblemau mae dyddiadur cloddio eleni
nawr yn fyw, felly os na allwch ymweld a'r safle ei hun (mae na
droeon o'r safle bod dydd ond am Ddydd Iau am 3yp nes Awst 21) ymwelwch
a'r Dyddiadur Cloddio i weld y datblygiadau a darganfyddiadau diweddaraf!
|
|
Fe gyllidir y prosiect
yma gan Cadw, a rheolir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Dyddiadur
Cloddio Porthclew 2008

Wedi ffeindio ac agored y ffosydd gyda JCB, mae'r cloddio
yn dechrau.

Tywydd cydnabyddus iawn!

Er gwaethaf y tywydd, rydym yn dechrau ar glanhau'r
ffosydd i weld beth sydd isod.
|
Dydd 1 - Dydd Llun Awst 3
Y flwyddyn yma mae'r tim yn cynnwys myfyrwyr archaeoleg
o Brifysgolion Nottingham, Caerdydd a Llanbedr Pontsteffan
a gwirfoddolwyr lleol. Roedd llawer o'r gwirfoddolwyr
yn rhan o'r tim blwyddyn diwethaf.
|
|

Clanhau Ffos 2
|
Dydd 2 - Dydd Mawrth Awst
4
Dydd gwlyb arall ond rydym yn parhau
i glanhau'r ffosydd ac i gloddio rhai o'r nodweddion.
Y flwyddyn yma rydym yn canolbwyntio ar siapau diddorol
a gellir eu gweld ar yr arolwg geoffisegol o'r flwyddyn
diwethaf. Rydym yn gobeithio fydd Ffosydd B a D yn
datguddio tystiolaeth o adeiladau, efallai trefedigaeth
sy'n perthnasu i'r capel a'r fynwent. Yn y ddau ffos
mae na ardaloedd tywodllyd - efallai tystiolaeth o'r
adeiladau yr ydym yn gobeithio darganfod. Mae'r tair
ffos arall (C, E a F) yn llai o faint ac wedi eu lleoli
i ddarganfod manylion am nodweddau diddorol arall
ar yr arolwg geoffisegol. Ffos A bydd y ffos olaf
i gael ei chloddio os bydd amser.
|
|
|

Fe rhoddir 'rhif cyd-destun' i bob haen yr ydym
yn cloddio ac fe gofnodwyd y cymeriadau ar 'dudalen
cyd-destun'.

Mae ffiniau pob nodwedd a ddarganfyddwyd yn cael eu
cofnodi i greu cynllun o'r safle
|
Dydd 3 - Dydd Mercher Awst
5
Mae'r tywydd yn well heddiw ac rydym
yn gwneud amser da yn clanhau a chloddio i egluro
pa fath o nodweddion sydd yn ymddangos yn y ffosydd.
|
|

Y dydd cyntaf heb waith ac mae'r tim yn bwrw'r traeth!
|
|
|

Yn Ffos C rydym yn gobeithio ffeindio beth sy'n
bosib yw rhan o amgaead anifeiliaid a nodwedd arall
a awgrymwyd gan yr arolwg geoffisegol.

Yn Ffos B rydym wedi datguddio pen wal cylch
gron a haen o rhwbel. O dan hwn mae na haen drwychus
o dywod wedi ei chwythu yno gan y gwynt. Efallai rhan
o adeilad?

Yn y gweddill o'r ffos mae sawl bedd ochr carreg
yn cael eu datguddio. Mae rhain hefyd dan haen drwychus
a dywod.

Ymweliad wrth aelodau Clwb Detector Sir Benfro,
yma i chwilio trwy'r tomennau gwastraff....

... ac yn darganfod tlws gwregus canoloesol
o ffos D!
|
Dydd 5 - Dydd Gwener Awst
7
Rydym yn dechrau archwilio'r ffosydd
lleiaf.
|
|

Yn Ffos D mae na hefyd ardal o dywod, efallai yn
cuddio rhan o adeilad arall. Ta beth, yn gyntaf rydym
yn archwilio rhai ardaloedd eraill o dywod i weld os
ydyn yn sylweddol.

Yn Ffos F mae gwaith yn dechrau ar beth oedd
yn edrych yn wreiddiol fel sgerbwd buwch ond mae nawr
yn edrych fel rhywbeth mwy cymleth.

Yn ffos B dechrau gwaith ar gael gwared o'r
tywod sydd tu fewn i beth sy'n bosib yn adeilad wal
carreg.
|
Dydd 6 - Dydd Sadwrn Awst
8
|
|

Rydym wedi cael gwared o hanner y tywod o tu fewn
y posib adeilad yn Ffos B. Mae haen dywyll o dywod yn
gorwedd yn union uwchben y llawr ac mae tystiolaeth
o le tan ar ffin y ffos.

Yn Ffos D rydym yn parhau i glanhau ac i gloddio'n
ofalus ond mae'n profi'n anodd i adnabod nodweddau ac
mae'r adeilad yr oeddem yn gobeithio amdano yn edrych
yn amheus.
|
|
|

Mae llawr yr adeilad yn Ffos B wedi cael ei ddadorchuddio
yn gyfangwbl.

Yng nghornel y ty mae na le tan, gweler y marc
rownd du. Mae'r garreg fawr yn y wal mwy na thebyg yno
yn bwrpasol i actio fel cefn tan ac i adlewyrchu gwres.
I'r dde o'r lle tan mae'r bwlch yn y wal yno fel twll
mwg i adael y mwg o'r tan i fynd allan. Mae'r ty wedi
ei dorri i mewn i'r tir o amgylch fel bod llawr y ty
yn is na lefel y llawr tu allan yr adeilad. Fydd yn
bosib i ddyddiadu'r adeilad drwy ddefnyddio'r marwor
o'r lle tan.

Wrth glanhau'r llawr fe ddarganfyddwyd carreg
gron fach gyda twll yn y canol. Efallai mai pwys gwydd
yw hon.
|
Dydd 8 - Dydd Llun Awst 10
|
|

Heddiw fe gawsom ymweliad gan grwp o wirfioddolwyr
o brosiect newydd 'Arfordir'. Mae'r prosiect yma yn
defnyddio gwirfoddolwyr lleol i foniitro a chofnodi
effeithiau newidiadau i'r treftadaeth arfordirol. (Gellir
weld fwy o fanylion yma). Fe gyflwynwyd y grwp i
rhai o'r technegau a threfnau a ddefnyddiwyd yng ngloddio
archaeolegol.

Yn Ffos C rydym yn disgwyl ar beth yw efallai yn dyllau
post sy'n rhan o adeilad bosib arall. Mae pen uchaf
y nodweddion yma yn cynnwys llawer o esgyrn a darnau
o grochenwaith gwydraeth-gwyrdd canoloesol.
Yn Ffos E rydym wedi lleoli beth sy'n bosib oedd
ffos amgaead anifeiliaid ond nid yw'n ddwfn iawn. Roedd
y pridd tu fewn y ffos yn cynnwys cregyn brenig a gwalc.
Tebyg fod rhain yn rhan o fwyd dyddiol y trigolion canoloesol
ym Mhorthclew.
|
Dydd 9 - Dydd Mawrth Awst
11
|
|

Mae'r brif ffosydd yn dechrau edrych yn wir ddiddorol
ac rydym yn parhau i egluro ffiniau sawl ffos a bedd.

Wedi cael gwared o'r tywod i gyd mae'n edrych
nawr fel petai rhaid cael gwared haen o rhwbel cerrig
cyn gweld cyfrinachau y Ffos.

Yn Ffos C efallai ein bod wedi darganfod rhan
o adeilad wedi ei adeiladu o byst.

Yn Ffos F mae beth oeddem yn meddwl oedd yn sgerbwd
buwch wedi troi mewn i ffos, i ddweud y gwir, dwy ffos
gyda twll hwyrach yn torri drwy llanw ffos gynharach.
Rydym wedi darganfod nifer o esgyrn anifeiliaid a chregyn
yma, yn awgrymu fod y twll wedi ei ddefnyddio i gael
gwared o sbwriel domestig. Y syniad diweddaraf yw fod
y ffos yma yn marcio ffin yr ardal drefedigaeth.

Rydym hefyd yn cael ymweliadau oddiwrth lleolion
a bobl ar eu gwyliau fel mae newyddion am y gloddiad
yn dod allan.
|
Dydd 10 - Dydd Mercher Awst
12
|
|
|
Dydd 11 - Dydd Iau Awst 13
Ein ail dydd heb waith. Heddiw mae
rhai o'r tim wedi bod am anturiaeth kayak mor gyda
perchenog safle capel Porthclew.
|
|

Mae'r ffosydd a thoriadau i'r beddau yn Ffos B yn
glir nawr ac felly gallwn ddechrau eu cloddio.

Yn y llun yma gellir gweld fod ffos wedi torri
drwy un o'r beddau ochr carreg yn dangos fod ganddo
sylfaen carreg fflat.

Yn hyderus, fe benderfynnom gael gwared o haen o rhwbel
yn Ffos D roeddem yn meddwl ei fod yn cuddio rhai nodweddau.
Ac o'r diwedd gallwn ddeall beth sydd yn mynd ymlaen.
Mae'n edrych nawr fel petai ddim un adeilad ond dau
ar ben eu gilydd. Mae'r ddau adeilad wedi eu adeladu
o byst pren. Roedd y ffosydd a gellir gweld yn y llun
yn cynnwys estyll pren sylfaenol. Fe adeiladwyd y tai
ar ben rhain. Fe adeiladwyd y ddau dy yn gwynebu mewn
gwahaniaeth cyfeiriadau a felly mae'r ddwy ffos yn y
llun yn croesi eu gilydd. Fe fydd yn ddiddorol iawn
i ddarganfod os yw'r adeiladau pren yn cyn-ddyddio yr
adeilad garreg yn Ffos B.
|
Dydd 12 - Dydd Gwener Awst
14
|
|

Rydym yr parhau i edrych am dyllau pyst yn Ffos
D yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch yr adeilad mwyaf
clir. Mwy na thebyg taw ardal iard oedd hon lle roedd
nifer o weithgareddau yn cael eu gwneud. Rydym wedi
darganfod digonedd o farwor, esgyrn anifail a crochenwaith
yn yr ardal yma. Beth sydd eisiau, ta beth, yw rhagor
o dystiolaeth i brofi fod mwy nag un adeilad yma.
Yn Ffos F rydym wedi dadorchuddio haen o gerrig. I ddechrau,
roeddem yn meddwl taw wal adeilad oedd rhain ond wrth
edrych yn fwy ofalus mae'n edrych fel petai'r cerrig
yn gorwedd mewn trydedd ffos yn y cloddiad yma. Mae
hyn yn cefnogi'r syniad ei bod yn ffos ffin bwysig.

Yn Ffos B, rydym wedi cloddio rhych fas sy'n torri drwy
bedd ochr carreg. Yn y llun gellir gweld fod y slabiau
cerrig ar waelod y bedd wedi eu rhan-ddadorchuddio.
Rydym yn gwybod nawr fod y ffos wedi ei thorri yn hwyrach
na'r claddedigaeth ond pa mor hwyr..?

Dimond rhagor o gloddio fydd yn rhoi'r atebion....
|
Dydd 13 - Dydd Sadwrn Awst
15
|
|

Nawr ein bod yn well yn adnabod nodweddion archaeolegol
yn y daeareg naturiol, rydym yn edrych un waith olaf
yn ffos E i weld os gallwn ddarganfod rhagor o nodweddion.
Yn Ffos D, rydym yn dal i fyny a'r llunio a nodweddi
y ffosydd a'r tyllau pyst.
Yn Ffos F, mae'r rhych newydd ei darganfod yn cael ei
hychwanegu i'r cynllun.

Yn Ffos B mae'n edrych nawr fod y beddau ochr carreg
wedi eu torri gan ddwy ffos. Blwyddyn diwethaf fe ddyddiwyd
y ffos fwyaf yn y llun i 810OC. Mae hyn yn awgrymu fod
y beddau yn gynharach nag hyn. Drwy ddatglymu yr amserau
a greuwyd y nodweddion archaeolegol, gallwn weithio
allan fel mae hanes y safle wedi datblygu drwy'r oesoedd.
Mae archaeolegwyr yn galw dilyniant yr haenau sydd yn
casglu ar y safle yn 'stratigraphy'.
|
Dydd 14 - Dydd Sul Awst 16
|
|

Mae'r tim yn parhau i archwilio cyfrinachau Ffos
B.

Rydym hefyd yn dechrau clanhau o amgylch rhai o'r claddedigiadau
i gael rhyw syniad o'u rhif a chyfeiriad.

Does ddim rhagor o nodweddion wedi eu darganfod
yn Ffos E. Mae'r cloddiad yn y Ffos yma nawr yn swyddogol
ar ben!
|
Dydd 15 - Dydd Llun Awst
17
|
|

Er gwaethaf edrych am rhagor o dyllau pyst, rydym wedi
penderfynnu fod dim ond tystiolaeth o un adeilad yn
Ffos D. Fodd bynnag, efallai fod yno sied wedi ei adeiladu
ar un pen. Hefyd, does ddim tystiolaeth wedi parhau
o wyneb llawr yn yr adeilad. A ydyw yn posib fod ganddo
lawr pren grogiannus? Efallai mae nid ty oedd yr adeilad
ac nid oedd angen llawr iawn.

Yn Ffos C, mae'r tyllau pyst a thwll bas efallai yn
rhan o adielad arall. Byddai hyn yn egluro'r digonedd
o rhannau mawr o grochenwaith yn y ffos yma ond does
ddim digon o dystiolaeth i fod yn siwr.

Yn Ffos B rydym yn gorffen cloddio un cwter a lenwyd
cyn i'r ty carreg gael ei adeiladu, ond gellir weld
ei olion ar draws y llawr. Mae yr un gwter yn torri
drwy rhai o'r beddau ochr carreg.
|
Dydd 16 - Dydd Mawrth Awst
18
|
|

Heddiw fe ymwelodd archaeolegwr amgylchyddol o Brifysgol
Llanbedr a'r safle i gymeryd samplau am ddanansoddiadau
arbennig. Gan ddefnyddio tin metal fe gasglwyd bloc
o bridd drwy yr haen organeg uwch ben llawr yr adeilad
a'r lle tan yn Ffos B. Drwy astudio'r pridd yma yn y
labordy, gallwn ddisgwyl am dystiolaeth o baill a thystiolaeth
o sut ddatblygwyd yr haen.

Os bydd paill yn parhau, fe gall ddarparu tystiolaeth
am do yr adeilad. Oedd yn do gwellt neu beidio? Neu
os oedd rhyw fath o ddefnydd ar y llawr. Bydd y samplau
o'r lle tan yn obeithiol yn rhoi tystiolaeth o pa fath
o danwydd a ddefnyddiwyd ac hefyd pa fath o lysiau a
fwytawyd.

Wedi clanhau o amgylch rhai o'r claddedigeithau yn Ffos
B, gallwn weld nawr eu bod wedi eu cyffroi gan aredig
ac wedi eu torri trwyddo gan wal yr adeilad carreg.
Beth mae hyn yn dweud i ni am y fynwent a'r capel lle
adeiladwyd y ty?
|
Dydd 17 - Dydd Mercher Awst
19
|
|
|
Dydd 18 - Dydd Iau Awst 20
Ein diwrnod diwethaf heb waith! Aeth
rhai o'r tim i brofi hyfrydwch 'Oakwood' ac yn y nos
fe aethom i'r tafarn am pryd o fwyd gwych a sgwrs
ymenyddol am wreiddiau ein gwareiddiad a phwyntiau
pwysig am archaeoleg canoloesol (yn wir!)
|
|

Ein diwrnod diwethaf ar y safle. Heddiw rydym yn
canolbwyntio ar gynllunio a chofrestri munud olaf yn
Ffos B, ac yn pacio y darganfyddiadau ac offerynau.

Fel mae'n debygol, gall nodweddion hwyrach ddinistrio
tystiolaeth trefn amserol creadigaeth nodweddion cynharach.
Yma, lle mae dwy ffos yn cwrdd mae na dorriad gan dwll
a thwll post .. ambell waith mae archaeoleg yn dryslyd
iawn!

Rydym yn cael gwared o rhai o'r cerrig o'r adeilad carreg
yn Ffos B i geisio darganfod os oedd lle ffenestr neu
lle drws wedi ei rhwystro yno. Mae'r canlyniadau yn
dangos posib droswy o gerrig fflat. Yn ystod yr archwiliad
yma rydym hefyd yn darganfod dau wrthrych haearn wedi
rhwydi. Gallwn brofi rhain dan Pelydr-X i weld a ydyn
yn darparu tystiolaeth ychwenaegol o le drws.

Llun olaf o staff YAD a myfryrwyr prifysgol
cyn i ni adael y safle.
|
Dydd 19 - Dydd Gwener Awst
21
Felly. Beth mae ail dymor a gloddio
yn dweud i ni am safle capel Porthclew? Llawer iawn!
Rydym wedi profi fod yna adeiladau ar a safle sydd
yn awgrymu fod trefedigaeth yn Mhorthclew o ddechrau
y canoloesoedd cynnar. Efallai ei fod wedi parhau
am sawl canrif.
Mae na nifer fath arall o dystioloaeth
a ddylwn cysidro, fel er engraifft enw'r lle a tystiolaeth
hanesyddol. Mae rhaid i ni feddwl hefyd fel mae'r
amgylchedd a'r tirwedd o amgylch wedi newid dros amser.
A yw yn bosib fod y drefedigaeth ym Morthclew wedi
dod i ben o achos nesau ddi-ddiwedd y tywynnau yn
y 14 ganrif?
Bydd llawer o'r manylion yn fwy clir
ar ol i ni orffen astudio'r crochenwaith, esgyrn a
darganfyddiadau eraill, ond gallwn ddweud yn ddiogel
fod hanes Porthclew a Freshwater East yn fwy hir na
feddylwyd yn gynt. Fydd canlyniadau'r cloddiad yn
gwneud cyfranniad bwysig i'n dealltwriaeth o fel roedd
bobl yn byw yn Sir Benfro trwy'r canoloesoedd.
Diolch yn fawr i'r gwirfodolwyr a
weithiodd ar y gloddiad. Ni fyddai'n bosib i gyflawni
gymaint heb eich cymorth a egni! Eto, diolch mawr
i perchnogion y tir am rhoi hawl i ni gloddio a'u
haelrwydd ddi-ben a'u brwdfrydedd!
Hwyl i bawb!
|
|
|