Cartref > Dyddiadur Cloddio 06 >

 

Dyddiadur Cloddio Ffynnonwen 06     

FFERMYDD CYNHANESYDDOL A FFERMYDD RHUFEINIG AMDDIFFYNEDIG YN NE CEREDIGION
CLODDIAD AC AROLWG GEOFFISEGOL YN FFYNNONWEN

 

 

Mae nifer o amgaeadau ag ôl cnydau arnynt yn ne Ceredigion sy’n dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol a Rhufeinig-Brythonig wedi’u gweld o ganlyniad i ffotograffiaeth awyr. Mae bryngaerau ac amgaeadau amddiffynedig llai o faint yn nodwedd o dde orllewin Cymru ar ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol. Fel arfer mae hyn yn golygu fod yna gloddiau a ffosydd amddiffynedig o amgylch ardal siâp hirgrwn. Weithiau ceir amgaeadau hirsgwâr, ond prin iawn yw’r rheini. Ar yr adeg pan oedd y gwaith darganfod yn cael ei wneud yn ne Ceredigion daeth yn fwy fwy amlwg bod canran yr amgaeadau hirsgwâr yn uchel (32 o’r 59).

Roedd yr amgaeadau hirsgwâr yn hynod o debyg gyda ffosydd 3m i 5m o led yn amgáu ardal 45m i 55m ar draws gyda mynedfa hanner ffordd ar hyd un ochr. Er bod y ffosydd yn dangos fod ganddynt swyddogaeth amddiffynnol, nid yw’r amgaeadau hirsgwâr wedi’u lleoli mewn lleoliadau amddiffynnol; mae’r rhan fwyaf o’r rhai yn ne Ceredigion wedi’u lleoli ar lethrau bryniau yn aml iawn ychydig islaw’r copa.

Yn ystod haf 2004 wnaeth arolwg geoffisegol ar wyth safle (Gweler yr adroddiad mewn ffurf PDF - Yn agored mewn ffenstr newydd) ddangos bod archaeoleg bwysig yn debygol o oroesi o dan y ddaear ac yn ogystal yn ffosydd yr amgaead. Yn arbennig darganfuwyd rhigolau crwn, gan ddynodi yn fwy na thebyg lleoliad tai crwn, aelwydydd, tyllau pyst a rhaniadau mewnol yr amgaead ar rai safleoedd.

Yn ystod haf 2005, dewiswyd Troedyrhiw i’w gloddio ar y sail ei bod yn enghraifft dda o amgaead hirsgwâr ac un lle’r oedd yr arolwg geoffisegol yn debygol o ddangos fod yna archaeoleg wedi goroesi o dan y ddaear. Nid yw arteffactau yn bethau cyffredin ar safleoedd cynhanesyddol yng ngorllewin Cymru. Serch hynny, y lle mwyaf tebygol o ddod o hyd i ddarganfyddiadau yw ym mhen pellaf y ffosydd ger y mynedfeydd. Felly dewiswyd yr ardal hon i’w chloddio. Ymgymerwyd ag arolygon geoffisegol ar bedwar safle arall, gan gynnwys amgaeadau hirgrwn yn ogystal â rhai hirsgwâr.

Yn 2006, dewiswyd safle Ffynnonwen (a elwir hefyd yn Waunlle) fel man i gynnal cloddiad. Amgaead crwn yw hwn a leolir o fewn amgaead hirgrwn llawer iawn mwy o faint. O ganlyniad i’r arolwg geoffisegol gwelwyd fod yna bedwar ty crwn o leiaf o fewn i’r amgaead crwn. Penderfynwyd i ddefnyddio’r un fath o strategaeth ag yn Nhroedyrhiw – gan gloddio pen y ffos fynedfa a rhan fechan o’r amgaead mewnol.

Ymgymerir â’r prosiect ar y cyd gyda Phrifysgol Efrog. Derbynnir cymorth grant gan Cadw. Ceir ganiatâd i gynnal y gwaith cloddio yn Ffynnonwen trwy garedigrwydd John a Helen Thomas.

 

Andy Greef yn marcio’r cloddiad yn Ffynnonwen
Andy Greef yn marcio’r cloddiad yn Ffynnonwen

Lloyd Bosworth a Richard Jemicz yn trafod yr arolwg geoffisegol yn Berry
Lloyd Bosworth a Richard Jemicz yn trafod yr arolwg geoffisegol yn Berry

Diwrnod 1 16eg Gorffennaf

Roedd y diwrnod cyntaf yn golygu cael trefn ar bethau – cludo offer i’r safle a marcio’r ffosydd ar gyfer y gwaith cloddio y diwrnod canlynol. Mae’r safle yn gorwedd yn agos at gopa bryn ac mae yna olygfeydd godidog oddi yno, gellir gweld Mynyddoedd y Preseli i’r de, Môr Iwerddon i’r gorllewin, ac Eryri i’r gogledd.

Mae arolwg geoffisegol ar ddetholiad o amgaeadau o’r Oes Haearn yn cael ei wneud. Dewiswyd caer bentir i mewn i’r tir yn Berry ger Trefdraeth yn Sir Benfro fel y safle cyntaf eleni. Cafodd rhywfaint o waith arolygu ei wneud ar y safle yn 2005, ond cafodd ei gadael oherwydd i’r offer fethu.

 

 

Tynnu’r uwchbridd yn Ffynnonwen
Tynnu’r uwchbridd yn Ffynnonwen

 

Diwrnod 2 17eg Gorffennaf

Tynnwyd tua 70% o’r uwchbridd o amgaead Ffynnonwen gan beiriant. Y bwriad oedd cloddio rhan fechan o du fewn yr amgaead mewnol a’r fynedfa sy’n mynd trwodd i’r amgaead mewnol. Mae ffotograffau awyr ac arolwg geoffisegol a wnaed yn 2005 wedi dynodi bod y fynedfa yn gorwedd naill ai ar yr ochr ogleddol neu ddeheuol. Gwelwyd fod hyn yn anghywir. Felly mae’n rhaid bod y fynedfa yn gorwedd o dan glawdd ar yr ochr ddwyreiniol ac nid yw ar gael i’w gloddio.

Parhawyd â’r gwaith ar arolwg geoffisegol Berry.


 

Gwaith glanhau cychwynnol yn amgaead Ffynnonwen
Gwaith glanhau cychwynnol yn amgaead Ffynnonwen

Hubert Wilson a Rosie Bishop yn gosod y grid ar safle Ffynnonwen
Hubert Wilson a Rosie Bishop yn gosod y grid ar safle Ffynnonwen

Plot geoffisegol Berry. Arolwg geoffisegol Berry lle mae’r plot wedi’i gwblhau
Plot geoffisegol Berry. Arolwg geoffisegol Berry lle mae’r plot wedi’i gwblhau

 

Diwrnod 3 18fed Gorffennaf

Cwblhawyd y gwaith o dynnu’r uwchbridd a dechreuwyd ar y gwaith o lanhau’r safle. Roedd y tywydd yn boeth a sych iawn. Gan mai creigwely maluriedig sy’n ffurfio’r ddaeareg oddi tano gwelwyd mai brwsio caled gan ddefnyddio brwshes iard oedd y modd mwyaf effeithiol o lanhau. Ar unwaith bron daeth rhigolau un ty crwn o leiaf i’r golwg gan gynnwys rhigolau eraill, pyllau a thyllau pyst.

Mae’r arolwg sydd wedi’i gwblhau ar safle Berry yn dangos amgaead y ffos gyda mynedfa ynghyd â ffosydd mewnol llai o faint.

 

 

Harley Brunson a Tom Morgan yn dechrau ar gloddio ffos fewnol yr amgaead, ochr ogleddol
Harley Brunson a Tom Morgan yn dechrau ar gloddio ffos fewnol yr amgaead, ochr ogleddol  

Lloyd Bosworth a Chaz Randle gyda’r offer geoffisegol yn Ffynnonwen
Lloyd Bosworth a Chaz Randle gyda’r offer geoffisegol yn Ffynnonwen

 

Diwrnod 4 19eg Gorffennaf

Cwblhawyd y gwaith o lanhau’r safle, gan gadarnhau fod yna dy crwn. Mae’r pridd yn sych iawn ac felly roedd yn anodd iawn gweld y pyllau bach a’r tyllau pyst. Felly dechreuwyd ar y gwaith cloddio ar y prif rannau o’r ffosydd, gyda rhannau wedi’u torri trwy ffos fewnol yr amgaead a ffos allanol yr amgaead ar yr ochr orllewinol. Hefyd dechreuwyd trwy dorri trwy’r ffos fewnol ar ochr ogleddol yr amgaead mewnol lle byddai mynedfa yn debygol o fod yn ôl ffotograffau awyr a’r arolwg geoffisegol. Wrth lanhau gwelwyd fod yna ffos yma, ond union wrth ddechrau cloddio darganfuwyd creigwely ychydig islaw’r wyneb, gan ddynodi o bosib fod y fynedfa yma mewn gwirionedd. Bydd y gwaith cloddio yn parhau yn y fan hon.

Arolwg geoffisegol yn y cae wrth ymyl y cloddiad yn Ffynnonwen gyda’r bwriad o archwilio’r amgaead cyfan.

 


 

Diwrnod 5 – 20fed Gorffennaf

Parhau wnaeth y gwaith cloddio ar y rhannau o ffosydd, gyda’r gwaith yn mynd yn dda. Mae ymddangos nad yw ffos yr amgaead allanol mor ddwfn â’r disgwyl, efallai tua 1m o ddyfnder. Parhau wnaeth y gwaith ar yr arolwg geoffisegol yn Ffynnonwen.

Richard Jemicz, David Knight a Miranda Horan yn cloddio’r ffos allanol.
Richard Jemicz, David Knight a Miranda Horan yn cloddio’r ffos allanol.

Leslie Bowers a Charles Whyte yn y ffos fas ar yr ochr ogleddol yn dangos creigwely ychydig o dan yr wyneb.
Leslie Bowers a Charles Whyte yn y ffos fas ar yr ochr ogleddol yn dangos creigwely ychydig o dan yr wyneb.

Lloyd Bosworth, Andrew Kurtzman a Mya Robinson yn lawr lwytho data o’r arolwg geoffisegol ar gyfrifiadur clun.
Lloyd Bosworth, Andrew Kurtzman a Mya Robinson yn lawr lwytho data o’r arolwg geoffisegol ar gyfrifiadur clun.

 

Diwrnod 6 – 21ain Gorffennaf

Cyrhaeddwyd gwaelod y ffos allanol gan ddangos ei bod wir tua 1m o ddyfnder a siâp V i’r ochrau. Does dim wedi’i ddarganfod ynddi. Serch hynny, mae’n ymddangos fod y ffos fewnol yn ddyfnach. Ar ochr ogleddol yr amgaead mae’r hyn a ystyriwyd i fod o bosib yn fynedfa bellach yn ymddangos i fod yn ffos fas iawn wedi’i thorri i mewn i’r creigwely caled. Mae’n ymddangos fod y graig yn y fan honno mor galed nad oedd hi’n bosib i’r adeiladwyr gwreiddiol dorri trwyddi. Parhau wnaeth y gwaith ar y geoffiseg.


 

Tom Morgan gyda’r troellen cogail o’r ffos fewnol.
Tom Morgan gyda’r troellen cogail o’r ffos fewnol.

Andrew Kurtzman yn y ffos allanol.
Andrew Kurtzman yn y ffos allanol.

 

Diwrnod 7 – 23ain Gorffennaf

Dechreuwyd ar y gwaith o gloddio rhigol o amgylch y ty crwn sydd yng nghanol y safle. Darganfuwyd arteffact cyntaf y tymor ym mhridd uchaf y ffos fewnol ar yr ochr ddwyreiniol – troellen cogail wedi ei wneud o ddarn o grochenwaith Rhufeinig o Ddyffryn Hafren wedi’i ail-ddefnyddio. Parhawyd â’r cloddio ar y rhannau eraill o’r ffos a gwnaed cynnydd ar yr arolwg geoffisegol.





Andy Greef gyda’r microlithig o’r rhigol o amgylch y ty crwn.
Andy Greef gyda’r microlithig o’r rhigol o amgylch y ty crwn.

Cloddio’r rhigol o amgylch y ty crwn.
Cloddio’r rhigol o amgylch y ty crwn.

Yr arolwg geoffisegol o Ffynnonwen sy’n datblygu.
Yr arolwg geoffisegol o Ffynnonwen sy’n datblygu.

Diwrnod 8 – 24ain Gorffennaf

Darganfuwyd microlithig Mesolithig fflint – pen saeth bychan – yn ystod y gwaith o gloddio’r rhigol o amgylch y ty crwn. Cafodd y gwaith cloddio yn y ffos allanol ei gwblhau fwy neu lai, gyda’r gwaith glanhau yn cael ei wneud yn barod ar gyfer tynnu ffotograffau. Mae’r ffos fas ar ymyl gogleddol yr amgaead mewn cyflwr tebyg. Mae’r tywydd yn dwym ac yn sych o hyd, heb unrhyw argoel o law. Y gobaith yw y bydd rhywfaint o gymylau fydd yn caniatáu i ni dynnu ffotograffau. Parhau wnaeth yr arolwg geoffisegol.





Golygfa banoramig o Ffynnonwen.
Golygfa banoramig o Ffynnonwen.

Meg Chaby yn cofnodi rhan o’r ffos allanol.
Meg Chaby yn cofnodi rhan o’r ffos allanol.

Y twll postyn cyntaf ar y safle yn cael ei gloddio gan Harley Brunson.
Y twll postyn cyntaf ar y safle yn cael ei gloddio gan Harley Brunson.

 

Diwrnod 9 – 25ain Gorffennaf

Dechreuwyd ar y gwaith o dynnu ffotograffau a chofnodi’r ffos allanol. Parhau wnaeth y gwaith cloddio ar rigol y ty crwn, gyda ffurf crwn y rhigol yn dechrau dod i’r amlwg. Mae’r tywydd sych twym yn parhau i rwystro’r broses o adnabod y tyllau pyst bychain, pyllau a rhigolau, ond dechreuwyd ar y gwaith o gloddio’r nodweddion mwy o faint.

Parhau wnaeth yr arolwg geoffisegol ar safle Ffynnonwen.

 




Richard Jemicz yn darlunio rhan o’r ffos allanol.
Richard Jemicz yn darlunio rhan o’r ffos allanol.

Cloddio a chofnodi’r rhigol o amgylch y ty crwn.
Cloddio a chofnodi’r rhigol o amgylch y ty crwn.

 

Diwrnod 10 – 26ain Gorffennaf

Does dim sôn hyd yn hyn o waelod y ffos fewnol ar ochr ddwyreiniol yr amgaead. Mae wedi’i gloddio i lawr i tua 1.5m o ddyfnder ac mae ymylon y ffos fwy neu lai yn fertigol. Am resymau diogelwch bydd yn rhaid lledu rhan o’r ffos. Darganfuwyd darn o slag yn rhigol y ty crwn. Parhau wnaeth y gwaith cofnodi ar y ffos allanol.
Parhau wnaeth yr arolwg geoffisegol, gyda’r arolwg yn dechrau yn y cae lle mae’r cloddiad yn cael ei gynnal.




 

Mya Robinson yn lledaenu’r ffos fewnol.
Mya Robinson yn lledaenu’r ffos fewnol.

Golygfa gyffredinol o’r safle yn dangos y rhigol o amgylch y ty crwn.
Golygfa gyffredinol o’r safle yn dangos y rhigol o amgylch y ty crwn.

Arolwg geoffisegol yn dangos yr amgaead a’r tai crwn y tu allan i’r ffos hirgrwn allanol.
Arolwg geoffisegol yn dangos yr amgaead a’r tai crwn y tu allan i’r ffos hirgrwn allanol.

Diwrnod 11 – 27ain Gorffennaf

Dechreuwyd ar y gwaith o ledu’r ffos fewnol ar ochr ddwyreiniol yr amgaead, a mwy neu lai ar unwaith daeth darn o slag i’r golwg, sy’n dangos bod haearn wedi’i smeltio ar y safle. Cloddiwyd llawer iawn o rigol y ty crwn a pharhau wnaeth y gwaith o gofnodi’r rhannau. Dechreuwyd cloddio’r hyn sy’n ymddangos i fod yn balisâd. Mae’r ffos hon yn hyn na’r ty crwn a ffos y brif amgaead.

Mae’r arolwg geoffisegol wedi datgelu tai crwn y tu allan i’r amgaead allanol, mae un ohonynt yn gorwedd o fewn amgaead hirsgwâr bychan.





Glanhau’r safle lle lleolir y ty crwn oherwydd fe ddisgwylir glaw.
Glanhau’r safle lle lleolir y ty crwn oherwydd fe ddisgwylir glaw.

 

Diwrnod 12 – 28ain Gorffennaf

Parhau y mae’r tywydd twym a sych, ond mae’r rhagolygon tywydd yn addo glaw ar gyfer y penwythnos. Felly treuliwyd rhywfaint o amser yn glanhau’r safle yn barod ar gyfer y glaw gyda’r gobaith y byddai’n haws adnabod y pyllau, tyllau pyst a rhigolau pan fyddai’r tywydd yn wlyb. Parhau wnaeth y gwaith cloddio ar nodweddion eraill. Mae rhan o’r ffos fewnol ar ochr ddwyreiniol yr amgaead wedi’i wneud yn ddyfnach am resymau diogelwch – aed lawr i ddyfnder o tua 1.5m ond doedd dim sôn o gyrraedd gwaelod y ffos.

Cwblhawyd yr arolwg geoffisegol ar Ffynnonwen. Y syndod oedd anecs bychan gyda thy crwn y tu allan i’r amgaead hirgrwn mawr.

Yr arolwg o Ffynnonwen wedi’i gwblhau yn cynnwys data o arolwg 2005
Yr arolwg o Ffynnonwen wedi’i gwblhau yn cynnwys data o arolwg 2005

 

Golygfa gyffredinol o’r cloddiad gydag olion o’r ail dy crwn i’w gweld yn y blaen.
Golygfa gyffredinol o’r cloddiad gydag olion o’r ail dy crwn i’w gweld yn y blaen.

Eva Suarez yn cloddio’r ffos amddiffynnol.
Eva Suarez yn cloddio’r ffos amddiffynnol.

Ian Pegler yn dysgu’r grefft o ddewinio am ddwr i Adam Jenkins
Ian Pegler yn dysgu’r grefft o ddewinio am ddwr i Adam Jenkins

 

 

Diwrnod 13 – 30ain Gorffennaf

Methu wnaeth y glaw trwm a chael unrhyw effaith gan nad oedd hi’n fwy posib gweld y nodweddion archaeolegol na phan oedd hi’n sych, ac erbyn canol bore roedd y safle’n hollol sych unwaith eto oherwydd y cyfuniad o haul a gwynt. Serch hynny roedd yna ail dy crwn yn amlwg yn y pridd gwlyb yn gynnar yn y bore. Cloddiwyd llinell grom sef wal y prif dy crwn o fewn y rhigol ddraenio. Parhawyd gyda’r gwaith o wneud y ffos fewnol yn fwy dwfn ac unwaith eto doedd dim golwg o’r gwaelod.

Wnaeth Ian Pegler o Gymdeithas Dewinio am Ddwr Prydain dynnu sylw at ffosydd claddedig posib a nodweddion archaeolegol posib y tu allan i’r amgaead hirgrwn mawr.

O ganlyniad i arolwg geoffisegol yn amgaead Penpedwast, ger Castell Henllys yn Sir Benfro darganfuwyd ffosydd amddiffynnol yn amgáu ty crwn. Bydd yr arolwg yn parhau ar y safle hwn wedi ychydig o ddiwrnodau o wyliau.





 

Plot Penpedwast fel ag y mae ar hyn o bryd.
Plot Penpedwast fel ag y mae ar hyn o bryd.

Cysgodi rhag glaw’r bore.
Cysgodi rhag glaw’r bore.

Arolwg geoffisegol yn dangos yr amgaead yn safle Tre-cefn Isaf yn ymddangos.
Arolwg geoffisegol yn dangos yr amgaead yn safle Tre-cefn Isaf yn ymddangos.

Diwrnod 14 – 31ain Gorffennaf

Gohiriwyd gwaith y bore oherwydd y cawodydd trwm. Erbyn diwedd y bore roedd hi’n bwrw’n gyson ac erbyn dechrau’r prynhawn rhoddwyd y gorau i’r gwaith am y dydd, ond nid cyn darganfod gwaelod y ffos fewnol. O ganlyniad i waith geoffisegol cychwynnol ar safle newydd – Tre-cefn Isaf yn agos at gloddiad y llynedd yn Nhroedyrhiw – datgelwyd dechrau amgaead.



Golygfa gyffredinol o’r cloddiad gyda’r ail dy crwn i’w weld yn y blaen.
Golygfa gyffredinol o’r cloddiad gyda’r ail dy crwn i’w weld yn y blaen.

Terry Bourland yn cloddio twll postyn yn yr hyn sydd o bosib yn ysgubor.
Terry Bourland yn cloddio twll postyn yn yr hyn sydd o bosib yn ysgubor.

Mya Robinson yn glanhau’r ffos amddiffynnol fewnol.
Mya Robinson yn glanhau’r ffos amddiffynnol fewnol.

Yr arolwg geoffisegol o Tre-cefn Isaf wedi’i orffen
Graham French a Piers Collins yn mesur y safle yng Nhre-cefn Isaf. Gwelir y cloddiad yn Ffynnonwen ar yr wybren i’r dde o’r offer.

Diwrnod 15 – 1af Awst

Roedd yna drydydd ty crwn yn weladwy o ganlyniad i’r glaw trwm y diwrnod cynt, i’w weld gan dri o ffosydd sydd fwy neu lai yn grwn, sydd o bosib yn dynodi tri chyfnod adeiladu. O ganlyniad i gloddio wal yr ail dy crwn datgelwyd lleoliad y tyllau bach o fewn ffos grom fas. Y tu allan i’r ty crwn, mae’r pedwar o dyllau-pyst mawr sydd wedi’u trefnu’n siâp sgwâr tua 2.5m ar wahân fwy na thebyg yn olion o ysgubor lle oedd y llawr wedi’i godi neu ryw adeilad arall ar gyfer cadw pethau. Gwnaed y gwaith o lanhau rhannau o’r ffos fewnol fawr yn barod ar gyfer tynnu ffotograffau ac arlunio.

Wnaeth arolwg geoffisegol o Tre-cefn Isaf ddatgelu amgaead is-hirsgwâr sydd tua 40m ar draws gyda thy crwn mewnol a thyllau pyst ar gyfer strwythur pedwar postyn posib.





Yr arolwg geoffisegol o Tre-cefn Isaf wedi’i orffen
Yr arolwg geoffisegol o Tre-cefn Isaf wedi’i orffen

Y rhan o’r ffos amddiffynnol fewnol wedi’i chwblhau gyda Mya Robinson.
Y rhan o’r ffos amddiffynnol fewnol wedi’i chwblhau gyda Mya Robinson.

Andrew Kurtzman yn cloddio’r rhigol ar ochr ogleddol y safle.
Andrew Kurtzman yn cloddio’r rhigol ar ochr ogleddol y safle.

Cloddio’r ail dy crwn.
Cloddio’r ail dy crwn.

 

Diwrnod 16 – 2il Awst

Cwblhawyd y gwaith terfynol o lanhau’r ffos fewnol a dechreuwyd ei gofnodi. Parhawyd â’r gwaith o gloddio’r ail dy crwn. Parhawyd hefyd a chofnodi’r rhigol ar ochr ogleddol y safle. Mae’r farn ar y rhigol hon yn newid yn ddyddiol – mae’n bosib y gallai fod yn ddraen neu yn sail i ffos ar gyfer palisâd. Bydd y gwaith cloddio dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf yn datrys y broblem.
Parhau wnaeth yr arolwg geoffisegol ar safle Troed y Rhiw. Cloddiwyd y safle hwn yn 2005. Mae wedi’i rannu’n ddau hanner gan lôn a dim ond y cae lle wnaed y gwaith cloddio sydd wedi’i arolygu. Eleni mae’r cae yr ochr arall i’w arolygu.




 

 

Cloddio’r hyn sydd o bosib yn ffos balisâd.
Cloddio’r hyn sydd o bosib yn ffos balisâd.

Golygfa gyffredinol o’r cloddiad ar waith
Golygfa gyffredinol o’r cloddiad ar waith

Oli Wilson gyda’i sbectol i’w ddiogelu rhag y gwynt a’r llwch a wnaed yn arbennig ganddo
Oli Wilson gyda’i sbectol i’w ddiogelu rhag y gwynt a’r llwch a wnaed yn arbennig ganddo

Diwrnod 17 – 3ydd Awst

Roedd hwn yn ddiwrnod o atgyfnerthu, trwy ddarlunio rhannau o’r ffos fewnol, parhau gyda chloddio’r tai crwn a’r ffos balisâd bosib. Am y pedwerydd diwrnod yn olynol wnaeth y gwynt cryf wneud gwaith yn anodd, yn enwedig gyda’r llwch sych dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf.







Arolwg 2006 o Droed y Rhiw wedi’i gwblhau.
Arolwg 2006 o Droed y Rhiw wedi’i gwblhau.

Golygfa gyffredinol o’r cloddiad yn parhau yn dangos y ty crwn cyntaf ac ail a’r adeilad pedwar postyn ar ochr chwith y ffotograff.
Golygfa gyffredinol o’r cloddiad yn parhau yn dangos y ty crwn cyntaf ac ail a’r adeilad pedwar postyn ar ochr chwith y ffotograff.

Yr arolwg geoffisegol o Penpedwast wedi’i gwblhau. Mae pob un o sgwariau’r arolwg yn 20m wrth 20m. Mae’n ymddangos fod yr adeiladwyr wedi gwneud camgymeriad ar y rhan uchaf ar y dde; yn cloddio ffos oedd yn rhy hir. Dylid nodi hefyd fod yna dy crwn unigol.
Yr arolwg geoffisegol o Penpedwast wedi’i gwblhau. Mae pob un o sgwariau’r arolwg yn 20m wrth 20m. Mae’n ymddangos fod yr adeiladwyr wedi gwneud camgymeriad ar y rhan uchaf ar y dde; yn cloddio ffos oedd yn rhy hir. Dylid nodi hefyd fod yna dy crwn unigol.

Canlyniadau’r arolwg geoffisegol yn Nhroed y Rhiw yn ymddangos ynghyd â’r rheini yn 2006. Ffordd yw’r darn gwag sydd yn mynd i lawr y canol.
Canlyniadau’r arolwg geoffisegol yn Nhroed y Rhiw yn ymddangos ynghyd â’r rheini yn 2006. Ffordd yw’r darn gwag sydd yn mynd i lawr y canol.

Diwrnod 18 – 4ydd Awst

Parhawyd â’r gwaith o gloddio’r ail dy crwn, gyda’r ffos ddraenio a llinell y wal fwy neu lai wedi’i gwblhau. O ganlyniad i waith archwilio ar ochr ogledd ddwyreiniol y safle darganfuwyd grw^p o byllau a thyllau pyst. Bydd gwaith ar y rhain yn parhau dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf, ond mae’r canlyniadau cychwynnol yn nodi bod o leiaf rhai o’r nodweddion hyn yn dyddio’n gynharach na’r tai crwn a’r brif ffos fewnol.

Dychwelodd y syrfewyr geoffisegol i Penpedwast gan gwblhau’r arolwg.

 


Ken Murphy yn tynnu sylw at nodweddion o ddiddordeb yn y ffos fewnol i grwp o ymwelwyr.
Ken Murphy yn tynnu sylw at nodweddion o ddiddordeb yn y ffos fewnol i grwp o ymwelwyr.

Rhan o amgaead Penpedwast yn cael ei fesur ar gydraniad uchel (sgwariau yn 10m x 10m) yn dangos manylion o’r ty crwn canolog a strwythurau eraill.
Rhan o amgaead Penpedwast yn cael ei fesur ar gydraniad uchel (sgwariau yn 10m x 10m) yn dangos manylion o’r ty crwn canolog a strwythurau eraill.

 

Diwrnod 19 – 6ed Awst

Wnaeth erthygl fer yn y papur newydd lleol a phosteri a rhoddwyd mewn siopau ddenu mwy na 200 o bobl i ddiwrnod cloddio agored. Rhoddwyd teithiau tywysiedig a chafwyd arddangosfa ar bosteri er mwyn cynnig mwy o wybodaeth. Diolch byth wnaeth hi gadw’n sych, o leiaf tan ddiwedd y dydd, er roedd yn wyntog. Parhau wnaeth y cloddio ar yr ail dy crwn ac ar byllau eraill a thyllau pyst.

Gan fod rhai o’r staff yn brysur gyda’r diwrnod agored, cymerwyd y cyfle i arolygu rhan o amgaead Penpedwast a arolygwyd cynt er mwyn dod i well penderfyniad, gyda thrawsteithiau o 0.5m yn hytrach na’r 1 m arferol. Gwelir y canlyniadau yma.



 

Sue Middleton a Mya Robinson yn cloddio mwy o fur ffos y ty crwn cyntaf a ddaeth i’r golwg oherwydd y glaw.
Sue Middleton a Mya Robinson yn cloddio mwy o fur ffos y ty crwn cyntaf a ddaeth i’r golwg oherwydd y glaw.

Rhan o’r ffos yn dangos clogfaen fawr o gwarts a gloddiwyd gan Andy Greef.
Rhan o’r ffos yn dangos clogfaen fawr o gwarts a gloddiwyd gan Andy Greef.

Golygfa gyffredinol o’r safle.
Golygfa gyffredinol o’r safle.


Diwrnod 20 – 7fed Awst

O ganlyniad i’r glaw mân dros nos datgelwyd pyllau, tyllau pyst a rhigolau na welwyd ers y glaw wythnos yn ôl, yn ogystal â rhai newydd, a chymerwyd y cyfle i wneud cynllun o’r rhain fel modd o baratoi ar gyfer y cloddiad. Erbyn canol bore roedd y safle wedi sychu yn yr haul a gwyntoedd cryf, a diflannu wnaeth y pyllau, tyllau pyst a rhigolau. Dechreuwyd ar y gwaith o gloddio’r rhain, trwy gymorth y cynllun. Wnaeth rhan fer trwy’r brif ffos fewnol ar yr ochr ddwyreiniol ddatgelu clogfaen fawr o gwarts, sydd mae’n bosib wedi dymchwel o wrthglawdd o glawdd ar ymyl mewnol y ffos (roedd y clawdd wedi mynd yn llwyr).

Wnaeth arolwg geoffisegol ar safle newydd, Cwmhowni, ddatgelu amgaead afreolaidd ei siâp gyda darnau mwdlyd a allai o bosib fod yn dai crwn.





 

 


Nigel Martin a Natalie yn cloddio’r ffos balisâd ar ochr ogleddol y safle.


Y cloddiad cychwynnol o’r trydydd dy crwn.


Y plot terfynol yn amgaead Cwnhowni.
Y plot terfynol yn amgaead Cwnhowni.

Diwrnod 21 – 8fed Awst

Dechreuwyd ar y gwaith o gloddio rhigolau’r trydydd dy crwn. Roedd yn bosib gweld tri rhigol yn cynrychioli tri cham y gwaith adeiladu. Mewn mannau eraill ar y safle daeth y gwaith cloddio terfynol a chofnodi’r pyllau a thyllau pyst i ben fwy neu lai gan baratoi ar gyfer tynnu ffotograffau ar y diwrnod olaf.

Cwblhawyd yr arolwg geoffisegol yng Nghwmhowni.

 

 

 

Y rhigolau draenio yn ymddangos yn y trydydd dy crwn.
Y rhigolau draenio yn ymddangos yn y trydydd dy crwn.

Ffotograff o’r grwp ar ddiwedd y gloddiad
Ffotograff o’r grwp ar ddiwedd y cloddiad


Diwrnod 22 – 9fed Awst

Diwrnod olaf y cloddiad. Cloddiwyd rhannau o rigolau’r trydydd dy crwn.

Roedd y rhain yn fas iawn, dim ond ychydig gentimedrau i mewn i’r creigwely, ac mae’n ymddangos eu bod yno er diben draenio yn hytrach nag ar gyfer diben strwythurol. Cymerwyd y ffotograffau olaf o’r safle.





 

 

Golygfa banoramig o’r safle gyda’r cloddio wedi’i gwblhau.
Golygfa banoramig o’r safle gyda’r cloddio wedi’i gwblhau.

Ail-lanw’r safle.
Ail-lanw’r safle.

Golygfa o’r parti ar ddiwedd y cloddiad.
Golygfa o’r parti ar ddiwedd y cloddiad.

Clirio’r gwersyll a pharatoi i fynd adref.
Clirio’r gwersyll a pharatoi i fynd adref.

Diwrnod 23-24 10fed-12fed Awst

Dechreuwyd ar y gwaith o ail-lanw’r safle ar ddiwrnodau 22 a 23. Cafwyd parti ar noson diwrnod 23, ac ar ddydd Sadwrn 24ain Awst, diwrnod 24, wnaeth pawb adael y gwersyll a chychwyn ar eu siwrneion pell ac agos adref.


 

 

 

  


 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]