Cartref >

Capel y Groes 2010 - Dyddiadur Cloddio

 

Mae pentref bach Swyddffynnon, sy'n gorwedd ar ffiniau gogledd-orllewinol Cors Caron, Ceredigion, yn ymddangos i fod yn dyddio o'r canoloesoedd. Mae melin canoloesol adnabyddus yn eistedd yn y canol, ond mae ymchwil gan staff a myfyrwyr o Brifysgol Llanbedr Pont Steffan wedi dangos y posibilrwydd fod hon yn rhan o setliad Abaty Ystrad Fflur 3½ milltir i'r dwyrain, ac efallai hyd yn oed yn ganolfan weinyddol ar gyfer y maenor mynachaidd canoloesol o Fefenydd.

Mae hen fapiau yn dangos adeilad bach o'r enw 'Capel y Groes' yng nghornel cae ar ffin y pentref, a gallai fod yn gapel faenor mynachaidd canoloesol. Nid oes dim yn awr yn parhau uwchben y ddaear, ond mae arolwg geoffisegol diweddar yn dangos yn glir fod gweddillion yn parhau o dan y pridd, ynghyd a nifer o lwybrau sydd hyd yn hyn yn anadnabyddus ac amgaeadau, rhai ohonynt efallai yn gynhanesyddol.

Gyda chyllid gan Cadw, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, ynghyd a grwpiau hanes lleol a gwirfoddolwyr, yn cynnal gwaith cloddio archeolegol ar y capel posibl, yn gobeithio datgelu tystiolaeth pwysig o grefydd canoloesol ac anheddiad, a chliwiau am sut roedd prif dirberchnogion fel Ystrad Florida yn trefnu tirwedd Ceredigion yn y canoloesoedd. Mae'r cloddiad yn rhedeg o Ddydd Llun 13 Medi hyd at Ddydd Mercher 22 Medi.

 

Dydd 1 – Dydd Llun 13 Medi

Ar ddiwrnod gwlyb ym mis Medi, mae Richard yn gwylio wrth i ni agor 40m o ffos gyda pheiriant cloddio. Yn barod, mae'r pridd uchaf yn llawn o amrywiaeth o grochenwaith cartref, yn bennaf o'r 19eg ganrif, ond mae'n bosib fod rhai darnau yn ganoloesol, bydd rhaid i ni aros nes i arbenigwyr crochenwaith i gyrraedd i'w dyddio yn iawn. Mae'r crochenwaith yn dangos fod na thy neu bwthyn gerllaw.

 

 

 

 

 

 

Dydd 2 – Dydd Mawrth 14 Medi

Nid yw wedi stopio bwrw glaw eto, ond rydym wedi llwyddo i osgoi'r glaw digon i ddechrau glanhau y gweddill o'r pridd uchaf. Yn barod mae gwyneb llawr yn decharu arddangos, mwy na thebyg o'r adeilad a ddangosir ar fapiau 19eg ganrif. Mae'r glaw trwm yn galw diwedd ar weithgareddau ar y safle amser cinio.

 

 

Dydd 3 – Dydd Mercher 15 Medi

Mae'r glaw yn stopio a'r tim yn parhau cloddio'r uwchbridd sy'n ar ol. Maent yn datgelu o leiaf un wal a nifer mawr o ddarnau crochenwaith cartref a gwaith haearn, gan gynnwys bachyn cig a fyddai wedi hongian o un o'r trawstiau.


 

Dydd 4 – Dydd Iau 16 Medi

Er gwaethaf cloddio gofalus mae'n debyg nad oes unrhyw garreg ar ol i nodi wal gogledd-orllewinol yr adeilad, efallai fod y cerrig wedi cael ei dwyn i ffwrdd, neu efallai fod hwn yn wal bren neu yn agored i'r ffrynt. Mae nodweddion unigol, gan gynnwys nifer o ddraeniau, yn cael eu datgelu tu fewn yr adeilad.

Mae'r cynnydd da yn meddwl fod y tim yn cael y cyfle i ymweld a twmpath llosg Oes yr Efydd cyfagos ar ffin Cors Caron a ddarganfuwyd gan staff a myfyrwyr o Brifysgol Llanbedr Pont Steffan yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Dydd 5 – Dydd Gwener 17 Medi

Mae un a hanner o barau o esgidiau Fictoraidd a nifer o bedolau, yn cael eu darganfod ymhlith y crochenwaith a'r gwaith haearn wedi eu taflu i ffrwrdd yn yr adeilad ac o'i amgylch.

Does ddim tystiolaeth clir o weithgarwch canoloesol hyd yn hyn. Mae'r waliau cerrig a gwyneb y llawr yn cael eu glanhau yn ofalus ac yn cael eu cofnodi gyda'r amcan o gloddio pellach yr wythnos nesaf i weld beth sydd oddi tanynt.

 

 

Dydd 6 – Dydd Llun 20 Medi

Mae Ian yn glanhau yn ofalus, esgid arall ymhlith y pridd o flaen yr adeilad.

Nikki yn cychwyn yn ofalus y broses o wneud cofnod manwl o bopeth rydym wedi datgelu hyd yn hyn.

 

 

 

 

 

Dydd 7 – Dydd Mawrth 21 Medi

Mae ein gwirfoddolwyr ieuencaf o'r pentref yn cymeryd peth amser i ddod i helpu ar y safle. Mae nhw yn dadorchuddio darnau o waliau a thyllau pyst o flaen yr adeilad, o bosibl yn ymwneud ac ymgaeadau bach o flaen yr adeilad.

Ar ein diwrnod olaf ond un mae pawb yn cael anhawster mawr i orffen cloddio gweddillion yr adeilad, sy'n edrych fel petai'n dyddiadu o'r 18fed/19eg ganrif, ond mae pwll hirsgwar bach wrth ei ochr yn ymddangos ein crochenwaith canoloesol cyntaf.

I ymddrin a'r nifer o ddarganfyddiadau, mae sawl gwirfoddolwr yn trefnu glanhau a phroseso y darnau crochenwaith a gwydr.

 

 

Dydd 8 – Dydd Mercher 22 Medi

Mae'r tywydd da yn meddwl bod llawer o'r bobl lleol sydd a diddordeb, y cael y cyfle i ddod allan a gweld yr hyn yr ydym yn ei wneud.

Ar ein diwrnod olaf rydym yn sicrhau cymorth o unrhyw un sy'n gallu cloddio, gan gynnwys Bobby. Ar ddiwedd ein amser yma mae'n edrych fel bod gennym fwthyn ol-ganoloesol, ond un a allai fod wedi bod yn rhan o weithgareddau diwydiannol ar raddfa fechan, wrth edrych ar faint o waith haearn sydd ar y safle. Yn anffodus nid oes unrhyw dystiolaeth clir o safle capel yma, na fod waliau'r bwthyn wedi eu hadeiladu yn gyntaf yn y cyfnod canoloesol, ond mae gennym dystiolaeth o weithgarwch canoloesol yn yr ardal hwn ac yn llawer gynharach, ond heb ei ddyddio, ffos sy'n rhedeg o dan y bwthyn. Mae eisiau rhagor o waith archaeolegol i ddarganfod beth oedd yn digwydd yn ystod y cyfnod canoloesol ac yn gynharach.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]