Cloddiad Crug Faen - Dyddiadur Cloddio 2010
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||
|
|
Dydd Llun Hydref 11 - Dydd 1 Rydym yn agor ffos gyda JCB i ddarganfod faint o'r domen gladdu sydd yn parhau. Mae'r ffos mewn sefyllfa i ddangos amrywiaeth o nodweddion a awgrymwyd gan yr arolwg geoffisegol a gynhaliwyd gennym y flwyddyn diwethaf. Yn anffodus, ni allwn weld unrhyw dystiolaeth o'r hen domen, ond mae rhai darnau o bridd tywyllach yn rhoi gobaith in ni fod rhywbeth yno i ymchwilio. Rydym yn dechrau i lanhau'r pridd rhydd i ddiffinio ymylon beth yr ydym yn gobeithio y bydd yn nodweddion diddorol.
|
|
![]() |
Mae'r tywydd yn rhagorol ac mae'r golygfeydd gwych yn ddangos pam cafodd y domen gladdu ei hadeiladu yma, tua phedair mil o flynyddoedd yn ol.
|
|
|
Dydd Mawrth Hydref 12 - Dydd 2 Diwrnod hyfryd arall, wedi ei ddifordi yn unig gan diffyg o archeoleg. Mae nifer o'r ardaloedd tywyll yr ydym wedi eu ymchwilio yn cynnwys cordyn bailer, lapiaeth silwair a phren modern! Mae un nodwedd, beth bynnag, yn edrych yn llawer mwy diddorol...
|
|
![]() |
...ac mewn nodwedd arall rydym yn dod o hyd i ddarn o grochenwaith!
|
|
|
|
Dydd Mercher Hydref 13 - Dydd 3 Rydym wedi torri ymyl y ffos yn ol i ddatgelu y nodwedd llawn cerrig yn gyfangwbl ac yn dechrau
ei lanhau i dynnu ei lun.
|
|
![]() |
Mae'r nodwedd arall wedi troi allan i fod yn bwll bychan gyda gweddillion o ddau bot clai o leiaf, ac olion o esgyrn dynol amlosgedig. Mae'r crochenwaith yn doradwy iawn, a bydd angen ei gloddio yn ofalus iawn. |
|
![]() |
Wrth i ni gloddio y nodwedd llawn cerrig, mae'n dod yn glir ei fod yn bwll amlosgi
wedi ei leinio gyda cerrig.
|
|
![]() |
Yn ogystal a'r esgyrn llosg, mae'r claddedigaeth yn cynnwys pot bychan o glai wedi ei addurno'n hardd, a elwir yn 'Gwpan Pigmy'. Mae Cwpanau Pigmy yn botiau bach a welwyd mewn rhai claddedigaethau amlosgi Oes Efydd, yn enwedig
yng Nghymru a'r Alban de-orllewin. Mae claddedigaethau amlosgi yng Ngheredigion a Sir Benfro wedi cynhyrchu
grwp o gwpanau o ansawdd arbennig o uchel i gymharu gyda'r rhanbarthau eraill ym Mhrydain. |
|
|
Dydd Iau Hydref 14 - Dydd 4 Rydym yn cloddio'n ofalus o amgylch y 'Cwpan Pigmy' cyn dodi bandais ac ewyn sy'n ehangu o'i
gwpas, er mwyn ei godi mewn un darn.
|
|
![]() |
Pan rydym yn codi'r pot, gallwn weld mwy o'i addurn hardd. Mae hyd yn oed y
gwaelod wedi cael ei addurno.
|
|
|
|
Dydd Gwener Hydref 15 - Dydd 5 Ein diwrnod olaf o gloddio. Ar ol symud y claddegidaeth llosg o'r pwll llawn cerrig, rydym yn ei gofnodi...
|
|
![]() |
...a wedyn cael gwared o'r cerrig i ddatguddio toriad gwreiddiol y pwll.
|
|
![]() |
Yn y cyfamser mae'n bryd i godi'r pwll amlosgiad eraill ar gyfer ymchwil gofalus
yn y labordy cadwraeth yng Nghaerdydd. Ar ol cloddio yn ofalus o gwmpas y crochenwaith ...
|
|
![]() |
... i ddechrau mae'r nodwedd yn cael ei amgylchu gyda bandais... |
|
![]() |
... yna mae ewyn sy'n ehangu yn cael ei chwistrellu i mewn i gylch cardbord
i amgylchynu a chefnogi'r bloc o bridd.
|
|
![]() |
Yn olaf yr ydym yn gallu codi'r pwll i gyd gyda'i gynnwys mewn un darn! |
|
![]() |
Rydym wedi gwneud rhai darganfyddiadau diddorol iawn, ac mae llawer o waith yn awr i'w wneud
i warchod y crochenwaith a dadansoddi'r darganfyddiadau. Diolch yn fawr i berchnogion y tir cyfeillgar, ac i
Annie a Hubert am eu gwaith caled! |
|