Dyddiadur Cloddio Crugiau Cron Pant y Butler 2010
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||
|
|
Dydd 1 - Medi 3 2010 Dydd clir a cynnes. Cael gwared o'r uwchbridd a phen y domen gyda pheiriant. Beth allai fod yn ymyl cerbyn carreg o amgylch y domen yn cael ei ddatguddio. Mae ail bwll mawr yn llawn o gerrig yn edrych fel petai efallai yn ail fedd.
|
||
|
Dydd 2 - Medi 6 2010 Y diwrnod cyntaf i'r gwirfoddolwyr. Ni wnaethwyd rhyw lawer o with a gorfennom yn gynnar.
|
||
|
Dydd 3 - Medi 7 2010 Ail ddiwrnod gwlyb gyda'r gwaith yn gorffen yn gynnar. Fe glanhawyd peth o'r safle yn y bore cyn i'r glaw trwm symud I mewn.
|
||
|
Dydd 4 - Medi 8 2010 Mae'r safle yn dal i fod yn wlyb iawn, ond mae cynnydd da yn cael ei wneud yn glanhau. Mae'r pwll mawr canolog sy'n llawn o gerrig yn edrych yn fwy fel nodwedd diweddar, efallai canlyniad gwaith cloddio gan hynafiaethydd.
|
||
|
Dydd 5 - Medi 9 2010 Diwrnod braf yn galluogi'r safle i gael ei lanhau yn gyfangwbl. Mae'n bosibl fod y grug wedi ei adeiladu dros dau gyfnod, gyda'r grug lleiaf wedi ei ddiffinio gan gerbyn o gerrig mawr. Mae cylch consentrig o dyweirch tu allan y cerbyn yn awgrymu cyfnod cynharach neu cylch o bridd o amgylch y prif twmpath.
|
||
|
Dydd 6 - Medi 11 2010 Fe gafwyd gwared is-weddillion y grug i lawr i lefel y pridd mewn rhai ardaloedd. Mae cloddiad y pwll canolog llawn cerrig yn dangos esgyrn llosg a marwor gwasgaredig, mwy na thebyg o gladdfa llosg wedi ei aflonyddu. O dan y cerrig rhydd uchaf roedd cerrig fwy o faint o amgylch ymyl y pwll yn awgrymu y gallai fod yn fedd cynhanesyddol heb ei gyffro.
|
||
|
Dydd 7 - Medi 13 2010 Cynnydd yn cael ei wneud yn cael gwared o'r pridd wedi ei gladdu mewn rhai ardaloedd o dan y grug ac ar y pwll canolog llawn cerrig yn ystod diwrnod arall o law trwm. Mae'r pwll llawn cerrig yn edrych mwy fel bedd sydd heb ei aflonyddu. Mae'n cynnwys carreg enfawr sydd wedi ei erydu gan ddwr.
|
||
|
Dydd 8 - Medi 14 2010 Dim llawer iawn o gynnydd yn cael ei wneud yn ystod diwrnod gwlyb arall, a'r gwaith yn gorffen yn gynnar.
|
||
|
Dydd 9 - Medi 15 2010 Parhaodd y gwaith o gloddio'r pwll canolog llawn cerrig ac ar glanhau y pridd wedi ei gladdu o dan y grug. Mae nifer o rhannau o farwor wedi cael eu datgelu yn gorffwys ar y pridd claddedig, ond does ddim tystiolaeth eto o byllau neu nodweddion eraill wedi eu torri i mewn i'r pridd claddedig.
|
||
|
Dydd 10 - Medi 16 2010 Roedd rhagor o glanhau y pridd claddedig a chofnodi yn bosibl ar hyn, yr ail ddiwrnod sych yn olynol.
|
||
|
Dydd 11 - Medi 17 2010 Mae'n bron yn sicr nawr fod y pwll mawr llawn cerrig yn fedd heb ei aflonyddu. Hyd yn hyn does ddim tystiolaeth uniongyrchol i gael ei fod yn gladdfa. Fe gymerwyd samplau ar gyfer dadansoddiadau ffosffadau a dadansoddiadau eraill. Wedi cael gwared o'r tywarch dros y pridd wedi ei gladdu fe ymddangoswyd beth sy'n edrych fel nifer o byllau bas neu thyllau post; mae eisiau eu ymchilio yn bellach.
|
||
|
Dydd 12 - Medi 18 2010 Diwrnod o lanhau a chael gwared fwy o'r tywyrch dros y pridd claddu.
|
||
|
Dydd 13 - Medi 19 2010 Dydd Sul - diwrnod tawel. Cymerwyd y cyfle i gofnodi a glanhau.
|
||
|
Dydd 14 - Medi 20 2010 Fe gymerwyd nifer o samplau amgylcheddol i'w dadansoddi yn ddiweddarach, a bum yn parhau symud y pridd wedi ei gladdu.
|
||
|
Dydd 15 - Medi 21 2010 Fe samlwyd beth oedd yn edrych fel rhan o astell losg a oedd yn gorffwys ar bridd gladdu drws
nesaf i'r pwll llawn cerrig. Fe gloddiwyd fwy o'r pwll llawn cerrig. Dim ond dau ddydd o gloddio sydd ar ol
i orffen cloddiad y pwll a gweddill y safle.
|
||
|
Dydd 16 - Medi 22 2010 Parhaodd y gwaith o gloddio'r pwll llawn cerrig. Mae'n amlwg nawr ei fod yn bwll claddu gan fod y rhan uchaf o'r gladdedigaeth losg wedi ei dadorchuddio.
|
||
|
Dydd 17 - Medi 23 2010 Mae'r claddedigaeth losg yn gyfyngedig i ardal fach, wedi ei diffinio'n dda, o'r pwll, mwy na thebyg gan fod yr olion wedi cael ei gosod mewn basged neu gynhwysydd arall organig. Mae'r esgyrn wedi ei llosgi yn anghyflawn ac o ganlyniad yn feddal ac yn chwalu. Felly, fe'i codwyd mewn adrannau mor gyflawn ac oedd yn bosib ar gyfer eu cloddio yn ddiweddarach yn y labordy. Yn ystod codi'r esgyrn daeth yn amlwg bod nifer o fwclys cerrig yn gymysg a'r asgwrn. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ddisgiau bach, ond roedd o leiaf un yn driongl wedi ei wneud o jet. Efallai fod rhai eraill o jet hefyd. Mae'r garreg enfawr ar ddiwedd y pwll yn nodwedd gynharach, ac efallai ei fod yn gysylltiedig a chladdu gwreiddiol.
|
||
|
Dydd 18 - Medi 24 2010 Cafodd y garreg fawr ei symydu a'r pwll/pant o danddi ei ymchwilio. Nid oedd dim o ddiddordeb
yn bresennol. Nid yw'n glir a oedd y garreg wedi sefyll yn unionsyth - fel maen hir fach - a wedi ei gwthio
drosof cyn adeiladu'r domen neu a oedd wedi ei gosod yn fflat ar y llawr. Yn olaf, cafodd y safle ei ail-lenwi
yn barod ar gyfer aredig a hau.
|
||