Tir y Dail, Rhydaman - Dyddiadur Cloddio 2010
|
|||||||||||||||||||||||||||
|
|||
|
|
Dydd 1 Er fod y llwni a thyfiant ar y safle wedi ei glirio ychydig o flynyddoedd yn ol, mae wedi dychwelyd yn grif. Mae Robert yn edrych allan o tu ol y drain ar ben y mwnt y castell. Fe wariwyd y bore yn clirio ardal i ddechrau cloddio. Ar ol y gwaith rhagorol yn clirio'r drain, mae Phil, Jesse, Robert a Tony yn dechrau cael gwared o'r uwchbridd ar y mwnt. Mae pen uchaf y mwnt yn anarferol am ei fod yn siap disgl. Oedd hwn yn cynnal twr pren neu garreg neu yw'r siap wedi ei achosi gan dirlunio 19eg ganrif? Yn obeithiol, fel mae'r ardal yn cael ei gloddio, bydd atebion i'w cael i rhai o'r cwestinnau yma. |
||
|
Dydd 2 Mae glaw trwm ar ddydd haf tebygol Cymraeg yn stopio'r gweithgareddau ar y safle. Mae ein bysedd wedi croesi
am well tywydd am weddill yr wythnos. |
||
|
Dydd 3 Mae ffos 5m gan 5m (Ffos 1) yn cael ei gosod allan ar ben y mwnt, a Menna, Phil, Robert a Tony yn defnyddio tryweli i ddatguddio yr archeoleg isod. Yn syth mae leinin carreg a chlai y tu mewn y mwnt yn cael ei ddatgelu.
|
||
![]() |
Dydd 4 Mae Ffos 3 yn cael ei hagor ar draws y banc amddiffynnol allanol. Mae Phil yn gweithio ar ben y banc, tra bod Robert yn meddwl am gloddio'r ffos isod. Tu ol iddynt mae adran wedi cael ei dorri i mewn i ochr y mwnt i gael cipolwg ar sut y cafodd ei hadeiladu.
|
||
|
Dydd 5 Mae'r gwaith yn dechrau ar recordio rhai o'r ardrannau sydd wedi eu cloddio hyd yn hyn. Mae Tony yn arlunio'r adrannau a ddatgelwyd ar ymyl y mwnt. Tu ol iddo mae Robert yn parhau i weithio ei ffordd i lawr mewn i'r ffos.
|
||
|
Dydd 6 Cafodd y safle ei agor i aelodau'r cyhoedd i gael edrych o gwmpas a roedd nifer o bobl lleol yn cymryd y cyfle i ddysgu mwy am y castell ar eu stepen drws. Charles arweiniodd y teithiau, a roedd hyd yn oed y Maer wedi dod i ymweld. Yn y cyfamser, roedd Robert wedi datguddio haenen drwchus o wydr wedi torri a photiau planhigion tu fewn y ffos fewnol, pob tebyg o ddymchwel y tai gwydr Fictoraidd. Cafodd y cloddiad ei ymestyn i edrych ar y ffos allanol, sy'n llawn lludw a glo o lefydd tan y plasty 19eg ganrif a oedd yn gyfagos.
|
||
|
Dydd 7 Tra bod teithiau bellach yn cymeryd lle ar y safle, cafodd adran ar ben y mwnt ei gloddio i ddatgelu haen drwchus o gerrig mawr, i gyd yn rhan o'r gwaith adeiladu ar mwnt y castell 12fed ganrif gwreiddiol ac nid, fel yr oeddem yn ofni yn wreiddiol, canlyniad y tirlunio ar yr ardd yn y 19eg ganrif. Mae Tony a Hubert yn dechrau arolwg manwl o'r ardaloedd yr ydym wedi cloddio hyd yn hyn. |
||
|
Dydd 8 Fe gyraeddodd y cloddiad waelod y ffos fewnol, er mae'n disgwyl fel patai ail-doriad diweddarach o'r ffos yw hwn. Gan fod amser yn rhedeg allan bydd rhaid i ymylon gwir y ffos wreiddiol o'r 12fed ganrif aros hyd nes i gloddiadau archeolegol yn y dyfodol eu datgelu. Mae rhai crochenwaith o'r 17eg neu'r 18fed ganrif wedi ei darganfod ar ben y mwnt, ein crochenwaith cynharaf hyd yn hyn. Mae'r tystiolaeth cadarnhaol cyntaf o'r castell pren yn cael ei ddatgelu hefyd gan y darganfyddiad o dwll-post mawr gerllaw.
|
||
|
Dydd 9 Fel mae'r cloddiad yn dod i ben, mae cofnodion terfynol yn cael eu gwneud ac mae'r gwaith yn dechrau ar ail-lenwi ein ffosydd. Mae Hubert, Phil a Robert yn dechrau rhoi'r cerrig yn ol ar ben y mwnt. Lle arall, mae Menna yn parhau cloddio munud olaf i ddatgelu olion y twll-post ar ben y mwnt. Er nad yw'r twll yn darparu tystiolaeth dyddio fel y gobeithiwyd, mae Menna yn dod o hyd i olion anifail (o bosibl ci) wedi ei gladdu ger y twll-post.
|
||
|
Dydd 10 Y diwrnod terfynol ac mae'r ffosydd olaf yn cael eu ail-llenwi. Robert, Menna, Richard, Johnny a Hubert sydd yn ymgymryd y tasg ddi-ddiolch. Mae'r gwaith ar ben ac mae'r tim yn ffeindio'r amser i gael eu llun wedi tynnu. |
||