Fila Trenewydd Uchaf yng Nghasblaidd, Sir Benfro - Dyddiadur Cloddio 2010
|
|||||||||||||||||
|
|||
Dydd Llun 2 Awst |
Ein prawf cyntaf yw i weithio allan sut i osod y babell...
tra bod y pridd uchaf (a twmpath mawr o dail!) yn cael eu gwared o'r safle.
|
||
Dydd Mawrth 3 Awst |
Rydym yn parhau i glanhau ac i ymchwilio stribedyn brown yn rhedeg ar draws y ffos. Mae'r nodwedd hon yn ymddangos i gyd-fynd gyda ochr gogledd yr adeilad posibl a awgrymir gan yr arolwg geoffisegol. Mae un neu ddau ardal brown arall yn awgrymu bod na fwy o archaeoleg naill ochr y srtibedyn brown. Hyd yn hyn, beth bynnag, mae diffyg amlwg o loriau mosaig!
A yw'r enfys yma yn dweud wrthym ein bod yn cloddio yn y lle anghywir?!!
|
||
Dydd Mercher 4 Awst |
Heddiw rydym yn cwblhau'r arolwg geoffisegol o'r meysydd o amgylch. Gobeithir y bydd yr arolwg yn rhoi darlun
llawn o'r archeoleg tan ddaear o amgylch y safle. Efallai y bydd yn datrys dirgelwch y fila goll!
Yn y ffos rydym yn ymchwilio rhai o'r pyllau posibl a gloddiwyd i mewn i'r daeareg naturiol. Mae llanw y nodwedd hon yn cynnwys llawer o farwor, a mae peth o'r ddaear o amgylch yn losg. Efallai y gallwn gael dyddiad Carbon14 o'r nodwedd hon. Hefyd cawsom ymweliad gan aelodau chwilwyr metel, y Pembrokeshire Prospectors. Fe wnaethon gynnig scanio
ein tomen sbwriel am unrhyw ddarganfyddiadau roeddem wedi methu ffeindio. Y cyfan a ddarganfyddwyd oedd cwpl
o hoelion. |
||
Dydd Iau 5 Awst |
Gyda llai o archeoleg ar ol i ymchwilio i yn y brif ffos, rydym yn agor twll prawf bach drwy ffin y cae i'r gorllewin o'r safle, yn y gobaith o ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth yn fwy argyhoeddiadol o adeilad Rhufeinig yn yr ardal. Yn ol Fenton fe ddarganfyddwyd yr adeilad Rhufeinig pan gafwyd gwared o hen glawdd. Yma gallwch weld dwy linell o gerrig lle mae gat wedi cael ei dorri trwy banc y clawdd.
|
||
Dydd Gwener 6 Awst |
Dechrau gwlyb i'r diwrnod. Mae'r pwll bach prawf yn dangos bod y banc o gerrig yn gorwedd ar ben beth mae'n debyg, yw ffos ffin gynharach. Mae'r ffos gynharach yn torri drwy daear sy'n cynnwys rhai ddarnau o farwor ac ychydig ddarnau o lech to.
Rydym hefyd yn gorffen gwneud cynlluniau a tynnu lluniau o'r safle ac arolwg amlinellol o'r ardal. Mae hyn yn ddefnyddiol i gymharu gyda'r arolwg geoffisegol. Mae'n ymddangos fod y safle, a system o gaeau cynhanesyddol posibl wedi eu lleoli ar ardal wastad hanner ffordd i lawr llethr y bryn sy'n gwynebu'r gogledd.
Oherwydd yr absenoldeb o rhagor o archeoleg yn y ffosydd, mae'r cloddiad yn gorffen yn gynharach na ddisgwylwyd. Felly, er nad ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o adeilad Rhufeinig na unrhyw grochenwaith i awgrymu fod Rhufeiniaid wedi byw ar y safle, mae'r to llechi yn sicr yn awgrymu fod adeilad rhywle gerllaw. Mae'n rhaid fod yr adeiladu yn gynharach na'r ffiniau caeau... mae dirgelwch y Fila Rufeinig yn parhau! Diolch yn fawr i'r holl wirfoddolwyr a oedd yn helpu ar y cloddiad ac i berchennog y tir am ganiatau i ni i gloddio. Llawer o ymddiheuriadau i unrhyw un a ddaeth i ymweld a'r safle yn ystod y penwythnos, dim ond i ffeindio fod y cloddiad wedi gorffen yn gynnar.
|
||